Cynnal yr Arholiad
26. Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer ymgeiswyr ym mhob achos ac eithrio pan fydd traethawd ymchwil sydd wedi’i ailgyflwyno yn cael ei arholi. Dan yr amgylchiad hwn, gellir hepgor y gofyniad hwn ar ddisgresiwn y Bwrdd Arholi os yw wedi dod i’r farn fod y traethawd ymchwil yn amlwg yn cyrraedd y safon i basio heb newidiadau, neu â chywiriadau neu newidiadau mân iawn yn unig. Mewn amgylchiadau eraill eithriadol, gellir hepgor arholiad llafar ar gyfer ailgyflwyniad gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi a Phennaeth Ysgol y Graddedigion. Bydd y Cadeirydd yn cynghori’r ymgeisydd ynghylch y trefniadau a wnaed ar gyfer yr arholiad llafar.
27. Rhaid i’r unigolion canlynol fod yn bresennol yn yr arholiad llafar:
i. Y Cadeirydd;
ii. Yr Arholwr/Arholwyr Allanol;
iii. Yr Arholwr/Arholwyr Mewnol os oes angen un.
28. Rhaid i’r arholiad llafar gael ei gynnal fel arfer yn y Brifysgol. Fodd bynnag, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion, dan amgylchiadau eithriadol, ganiatáu i arholiad llafar gael ei gynnal yn rhywle arall. Ni ddylai arfer o’r fath, fodd bynnag, fod yn fwy costus na chynnal arholiad llafar yn y Brifysgol ei hun.
29. Gyda chymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion, gellir cynnal arholiad llafar trwy ddulliau electronig. Bydd canllawiau manwl ar y broses gymeradwyo a’r protocolau ar gyfer cynnal yr arholiad ar gael o’r Gofrestrfa Academaidd.
30. Gall myfyrwyr hefyd dynnu sylw’r Bwrdd Arholi at unrhyw amgylchiadau arbennig a allai effeithio ar eu perfformiad yn ystod yr arholiad llafar neu sydd wedi effeithio ar y traethawd ymchwil. Dylid nodi'r rhain ar y ffurflen Bwriad i Gyflwyno lle bo hynny'n bosibl. Yna bydd yr Ysgol Graddedigion yn ymgynghori â Cymorth i Fyfyrwyr a Chadeirydd y Bwrdd fel y bo'n briodol i roi addasiadau ar waith a briffio’r arholwyr.
31. Dim ond pan wahoddir ef/hi i wneud hynny gan y Cadeirydd y caniateir i oruchwylydd sy’n bresennol mewn arholiad llafar siarad.
32. Bydd gan oruchwylydd neu oruchwylwyr yr ymgeisydd yr hawl i fynegi wrth Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon sy'n berthnasol i brosiect ymchwil yr ymgeisydd, i'r traethawd ymchwil sy'n deillio o'r prosiect hwnnw neu i'r arholiad ar y traethawd ymchwil, y mae'r goruchwylydd neu'r goruchwylwyr yn credu y dylai'r Bwrdd eu cymryd i ystyriaeth cyn dod i’w benderfyniad. Bydd y goruchwylydd neu'r goruchwylwyr yn mynegi'r pryderon hyn, yn ysgrifenedig, i'r Cadeirydd a'r ymgeisydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno a, sut bynnag, yn ddigon cynnar i ganiatáu digon o amser i'r ymgeisydd ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb cyn i'r traethawd ymchwil gael ei arholi (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar).
33. Cyfrifoldeb Cadeirydd y Bwrdd Arholi fydd sicrhau bod yr ymgeisydd yn fodlon â'r amser a ganiateir i ystyried y pwyntiau a wnaed gan y goruchwylydd neu'r goruchwylwyr, ac i ymateb iddynt, a sicrhau datganiad ysgrifenedig swyddogol gan yr ymgeisydd yn cadarnhau hyn.
34. Bydd y Bwrdd Arholi yn ystyried unrhyw gyflwyniad ysgrifenedig i’r Cadeirydd gan oruchwylydd neu oruchwylwyr yr ymgeisydd ac unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd yn unol â'r darpariaethau yn union uchod.
35. Ni fydd yr arholiad llafar yn cael ei recordio.
36. Ar ôl cwblhau’r arholi, bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod y ffurflen adroddiad dros dro a’r canlyniad yn cael eu cwblhau ac y rhoddir copi ohoni i’r myfyriwr. Rhaid i’r Cadeirydd sicrhau bod y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad a’r adroddiad dros dro yn cael eu cwblhau a bod Ysgol y Graddedigion yn cael gwybod y canlyniad. Bydd y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad yn cynnwys adroddiad yr arholwr allanol (gan gynnwys adroddiad ar yr arholiad llafar), adroddiad yr arholwr mewnol, adroddiad arholwyr ar y cyd (os mynnir) ac argymhelliad ffurfiol y Bwrdd Arholi o’r canlyniad. Rhaid i daflen yr argymhelliad ffurfiol o’r canlyniad gofnodi union benderfyniad y Bwrdd Arholi a rhaid iddi gael ei llofnodi gan y Cadeirydd, yr arholwr/arholwyr allanol a’r arholwr/arholwyr mewnol, ond nid gan unrhyw berson sy’n bresennol mewn capasiti ymgynghorol.
37. Os oes angen ailarholi’r traethawd ymchwil neu wneud cywiriadau, y Cadeirydd sy’n gyfrifol am drefnu casglu a darparu adborth i’r ymgeisydd a’r goruchwylydd adeg yr arholiad llafar, neu yn fuan wedyn.
38. Wedi iddi dderbyn y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad wedi’i chwblhau, a, lle bo’n addas, cadarnhad bod yr holl gywiriadau sy’n ofynnol wedi’u gwneud, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd beth yw’r canlyniad terfynol.
39. Rhaid dychwelyd pob copi o draethawd ymchwil sydd wedi methu i’r ymgeisydd unwaith y bo’r broses arholi (a gwrandawiad unrhyw achos apêl yn sgil hynny) wedi ei chwblhau.