Rheoliadau ar gyfer Diplomâu i Raddedigion
1. Gellir dyfarnu Diplomâu i Raddedigion y Brifysgol ar ôl i gynllun astudio modiwlar a gymeradwyir gan y Brifysgol gael ei gwblhau’n llwyddiannus yn amser llawn neu’n rhan-amser.
2. Cynigir y Diploma i Raddedigion ar lefel 6 FfCChC (AU lefel 3). Rhaid i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 120 o gredydau ar lefel 6 FfCChC. Yr un yw’r meini prawf ar gyfer y cymhwyster ag ar gyfer graddau Baglor.
3. Cynlluniwyd y Diploma i Raddedigion i baratoi myfyrwyr ar gyfer astudio ar lefel Meistr neu ar gyfer gwaith proffesiynol cyfatebol mewn maes pwnc sy’n wahanol i’w gradd gyntaf, neu er mwyn diweddaru’r wybodaeth a’r sgiliau o radd gynharach yn yr un pwnc.
4. Pan fydd gwrthdaro rhwng rheoliadau’r Brifysgol a gofynion Corff Proffesiynol, dilynir gofynion y corff proffesiynol, yn amodol ar gadarnhau bod y gofynion Proffesiynol yn cael eu derbyn gan y Senedd.
5. I fod yn gymwys i’w dderbyn neu ei derbyn i gymhwyster sy’n berthnasol i’r rheoliadau hyn, rhaid i ymgeisydd:
(i) fod wedi bodloni unrhyw ofynion mynediad a all fod yn ofynnol gan y rhaglen dan sylw; a
(ii) bod wedi cymhwyso ar gyfer un o raddau cyntaf y Brifysgol, neu Brifysgol arall a gymeradwywyd ar gyfer hynny, neu feddu ar gymhwyster arall sy’n cael ei gydnabod yn gymhwyster cyfatebol yn ôl y Brifysgo
6. Gellir dyfarnu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) a/neu Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol trwy Brofiad (RPEL) yn unol â gweithdrefn berthnasol y Brifysgol. Uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i gyfrif tuag at Ddiploma i Raddedigion yw 60.
7. Mae’r rheoliadau a’r confensiynau arholiad ar gyfer graddau cyntaf modiwlar yn berthnasol i’r Diploma i Raddedigion.
8. Y terfyn amser uchaf ar gyfer y Diploma i Raddedigion fydd 2 flynedd ar gyfer ymgeiswyr amser llawn a thair blynedd ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser.
Diweddarwyd: Medi 2021