Rheoliadau Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Profiad Perthnasol Ar Gyfer Mynediad i Raddau Uwch, Diplomâu a Thystysgrifau Prifysgol Aberystwyth
1. Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â derbyn ymgeiswyr i astudiaethau neu ymchwil ôl-raddedig.
2. Y cyfnodau byrraf ar gyfer ymgeisyddiaeth am radd meistr y Brifysgol yw un flwyddyn galendr (yn amser-llawn) a dwy flynedd calendr (yn rhan-amser). Rhaid i Brifysgol Aberystwyth fodloni ei hun ynglŷn â ffitrwydd yr ymgeisydd i wneud gwaith ôl-raddedig ac mae’n bosib y bydd yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd am radd meistr astudio am gyfnod hirach na’r isafsymiau hyn.
3. Mae graddau Sylfaenol o safon is na gradd baglor ac felly nid ydynt yn galluogi deiliaid y cymhwyster i fatriciwleiddio ar gyfer astudiaeth uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
4. Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo derbyn y canlynol yn ymgeiswyr ar gyfer:
(a) Gradd PhD, yn cael ei dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
(b) Graddau Meistr, yn cael eu dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
(c) Pob diploma a thystysgrif ôl-raddedig, yn cael ei dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
4.1 Graddedigion Prifysgolion yn y Deyrnas Unedig.
4.2 Graddedigion y mae ganddynt radd a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol Dyfarniadau Academaidd.
4.3 Graddedigion unrhyw Brifysgol, Coleg neu Sefydliad arall a gydnabyddir gan yr UK ENIC (http://www.enic.org.uk) ac yr ystyrir eu graddau yn gymharol ag o leiaf gradd Baglor (Gyffredin) o’r Deyrnas Unedig.
4.4 Personau heb radd sydd â chymwysterau mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth neu Lawfeddygaeth Filfeddygol sy’n gofrestradwy yn y Deyrnas Unedig.
4.5 Personau eraill heb radd a dderbynnir ar sail profiad perthnasol:
(i) Caiff y Brifysgol gymeradwyo hefyd dderbyn rhai nad ydynt yn raddedigion yn ymgeiswyr os yw eu profiad perthnasol yn gwneud yn iawn am eu diffyg cymwysterau ffurfiol cymharol. Rhaid i ymgeisydd o’r fath fod wedi dal swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r cynllun astudio arfaethedig am gyfnod o 24 mis o leiaf. Dylid cadarnhau hyn adeg y penderfyniad yn ystod y broses dderbyn drwy wirio’r deunyddiau cais yn enwedig y geirda.
(ii) Gall rhai nad ydynt yn raddedigion gael eu derbyn fel hyn yn ymgeiswyr ar gyfer graddau Meistr, gan gynnwys MPhil, yn cael eu dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
(iii) Ni all rhai nad ydynt yn raddedigion gael eu derbyn i gynlluniau doethur.
5. Asesu cymwysterau addysg uwch rhyngwladol:
5.1 Fel arfer nid yw ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau, o sefydliadau a gydnabyddir gan yr UK ENIC, yr ystyriwyd o safon is na gradd Baglor (Gyffredin) o’r Deyrnas Unedig yn gymwys i fatriciwleiddio. Fodd bynnag, os ydynt wedi ennill rhagor o brofiad Addysg Uwch ers ennill eu cymhwyster fel bo eu profiad addysg cynyddol yn gymharol â gradd Baglor (Gyffredin) o’r Deyrnas Unedig, gellir ystyried eu sefyllfa gan Ddirprwy Is-Ganghellor os cymeradwyir hwynt gan Swyddfa Derbyn Myfyrwyr PA a’r adran academaidd perthnasol.
5.2 Mae swyddfa Derbyn Myfyrwyr PA yn asesu cymwysterau ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau a gafwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
5.3 Y brif ffynhonnell o wybodaeth yw’r Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol ar gyfer cydnabod a chymharu cymwysterau a sgiliau rhyngwladol (neu’r UK ENIC), sy’n darparu system gyfeirio ar y wê a gwasanaeth ymholiadau (www.enic.org.uk).
6. Dyfarnu Cymwysterau PA i Fyfyrwyr Blwyddyn Gyfnewid:
6.1 Gellir rhoi dyfarniadau ôl-radd Prifysgol Aberystwyth i fyfyrwyr cyfnewid newydd mewn achosion lle bydd pob un o’r meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:
(i) bod gan y myfyriwr, adeg ei dderbyn, gymwysterau a gydnabuwyd at ddibenion ei dderbyn i astudio (yn achos myfyrwyr sy’n dilyn cynllun ôl-raddedig, felly, rhaid cymhwyso darpariaethau’r Rheoliadau hyn);
(ii) bod y ffi hyfforddi briodol wedi ei thalu;
(iii) ei bod yn glir na fyddai’r addysg a gâi’r myfyriwr ar gyfer ei gymhwyster ym PA yn cyfrannu mewn unrhyw fodd at y cynllun astudio a oedd yn cael ei ddilyn yn y sefydliad ‘cartref’.
Diweddarwyd: Mehefin 2025