11.20 Cyfraith Defnyddwyr

1. Mae rhwymedigaethau ar holl ddarparwyr addysg uwch y DU o ran cyfraith defnyddwyr. Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi paratoi cyngor ynghylch cydymffurfio i ddarparwyr a dylai pob tiwtor derbyn fod yn gyfarwydd â’r cyngor hwn – https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/428549/HE_providers_-_advice_on_consumer_protection_law.pdf

2. Dylai’r wybodaeth a roddir i ymgeiswyr, gan gynnwys yn y cam gwneud cynigion, fod yn gywir ac ni ddylai gynnwys gwybodaeth ffug na chamarweiniol.

3. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch cyfrifoldebau’r Brifysgol i warchod defnyddwyr at y Cofrestrydd Academaidd.

4. Ceir hyd i Reoliadau Gwarchod Defnyddwyr y Brifysgol yn Atodiad 5.