11.19 Cyllid

1. Mae Swyddog Ysgoloriaethau’r Brifysgol a staff yn y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion yn gweinyddu amrywiaeth o gynlluniau ysgoloriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys Cynghorau Ymchwil y DU, Cynllun Ysgoloriaeth y Gymanwlad, Cystadleuaeth Ysgoloriaeth PhD AberDoc Prifysgol Aberystwyth a gwobrau eraill Prifysgol Aberystwyth.

2. Ceir gwybodaeth ynghylch cyfleoedd cyllido penodol ar: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/postgrad/. Cynghorir ymgeiswyr sy’n chwilio am gyllid i ymweld â’n Cyfrifiannell Cyllid ac Ysgoloriaethau ar: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/postgrad/calculator/.