11.8 Geirdaon

1. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd am gyrsiau Uwchraddedig a Addysgir ddarparu o leiaf un geirda i gefnogi eu cais i astudio. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd am raglenni Ymchwil Uwchraddedig ddarparu dau eirda academaidd i gefnogi eu cais. Yn y rhan fwyaf o achosion, geirda academaidd fydd hwn. Fodd bynnag, mewn achosion eraill gallai geirda seiliedig ar waith fod yn fwy priodol, er enghraifft, yn achos ymgeiswyr profiadol nad ydynt yn raddedigion.

2. Pan gaiff ei gyflwyno gan yr ymgeisydd fel dogfen ar adeg y cais, rhaid darparu’r geirdaon ar bapur â phennawd swyddogol wedi’u llofnodi gan y canolwr. Neu, ar ôl cael caniatâd gan y canolwr/wyr arfaethedig, gall ymgeiswyr ddarparu manylion cyswllt y canolwr fel rhan o'r broses ymgeisio, a byddwn yn cysylltu â'r canolwr yn awtomatig i ofyn am y llythyr geirda.

3. Gellir gwneud cynigion ar gyfer cyrsiau uwchraddedig cyn derbyn geirda. Mewn achosion o’r fath, bydd derbyn geirda boddhaol yn un o amodau’r cynnig. Noder ei bod yn rhaid i ymgeiswyr TAR gyflwyno geirda yn rhan o’u cais drwy UCAS.

4. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr TAR sydd wedi graddio o fewn y 5 mlynedd diwethaf ddarparu geirda academaidd sy'n rhoi sylwadau ar eu perfformiad ar gyfer eu gradd. Mae hyn yn rhan annatod o'r cais drwy UCAS. Gellir enwi ail ganolwr hefyd.