11.7 Trosglwyddo Credyd

1. Rhaid i ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais i drosglwyddo credydau ar gyfer modiwlau a addysgir i gynlluniau Meistr a addysgir gan Brifysgol Aberystwyth gyflwyno'r cais cwrs safonol, a nodi faint o gredydau y maent am eu trosglwyddo. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno trawsgrifiad ar gyfer trosglwyddo'r astudiaethau perthnasol, ynghyd â'r maes llafur perthnasol (naill ai fel dogfen pdf neu ddarparu'r URL perthnasol).

2. Cynghorir ymgeiswyr sy'n dymuno hawlio credyd am ddysgu blaenorol i adolygu ein rheolau a'n rheoliadau mewn perthynas â'r Cynllun Cronni a Throsglwyddo Credydau. Gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/learning/

3. Bydd ceisiadau i drosglwyddo credyd yn cael eu hystyried gan y Detholwr Uwchraddedig adrannol perthnasol, neu'r arbenigwr pwnc, a fydd yn penderfynu a yw trosglwyddo credyd yn briodol ai peidio. Bydd angen i'r Ffurflen Awdurdodi Trosglwyddo Credyd (gweler Atodiad 8) gael ei llenwi a'i hawdurdodi gan y Detholwr Uwchraddedig perthnasol ym mhob achos.