11.4 Y Broses Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio a'r dogfennau angenrheidiol ar gael yn www.aber.ac.uk/cy/postgrad/howtoapply/

Amlinellir ystyriaethau ychwanegol sy'n ymwneud yn benodol ag ymchwil amser llawn mewn man cyflogaeth allanol (PhD neu MPhil) yn Atodiad 1.

1. Dylai'r mwyafrif helaeth o ymgeiswyr wneud cais am eu cwrs uwchraddedig (ac eithrio TAR – gweler 11.4.4) drwy ein porth ar-lein. Gellir uwchlwytho dogfennau ategol (e.e. trawsgrifiadau, CV, datganiad personol, geirda(on), cynigion ymchwil) drwy ddefnyddio'r system hon.

2. Dim ond ar gyfer y cyrsiau canlynol y defnyddir ffurflenni cais papur ar hyn o bryd:

  • Cyrsiau Byr mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell
  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Thystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (PCET)

Mae copïau o ffurflenni cais ar gyfer yr uchod ar gael ar gais gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion neu gellir eu gweld drwy www.aber.ac.uk/cy/postgrad/howtoapply/. Os ydynt yn gwneud cais ar bapur, gall ymgeiswyr gyflwyno eu ffurflen gais uwchraddedig wedi'i chwblhau a dogfennau ategol drwy e-bost, yn bersonol, neu drwy'r post.

3. Gall aelodau o staff PA sy'n dymuno gwneud cais am astudiaeth uwchraddedig wneud hynny drwy'r porth ar-lein. Os ydynt yn gwneud cais am y Cynllun Ysgoloriaethau Staff, rhaid iddynt hefyd gyflwyno ffurflen gymeradwyo'r Cynllun Ysgoloriaethau Staff, wedi’i hawdurdodi gan eu Pennaeth Adran, ar adeg y cais. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Ysgoloriaethau Staff ar gael ar wefan Adnoddau Dynol ar: https://www.aber.ac.uk/cy/hr/.

4. Dylai ymgeiswyr am gyrsiau TAR wneud cais ar-lein drwy wefan Hyfforddiant Athrawon UCAS (https://www.ucas.com/teaching-in-wales) Noder bod UCAS yn codi ffi ymgeisio.

5. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr uwchraddedig arfaethedig, gan gynnwys aelodau o staff, wneud cais drwy'r Swyddfa Derbyn Graddedigion. Dylid gwneud hyn o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad cychwyn arfaethedig, er bod ymgeiswyr yn cael eu hannog i wneud cais cyn gynted â phosibl. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y pwynt hwn yn cael eu prosesu yn ôl disgresiwn yr adran academaidd berthnasol. Cynghorir ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU sydd angen Fisa Myfyrwyr i sicrhau bod eu cais yn cael ei gwblhau o leiaf ddau fis cyn dechrau eu cwrs. Cynghorir ymgeiswyr am gyrsiau Ymchwil Uwchraddedig sy'n amodol ar ATAS i wneud cais bedwar mis cyn y dyddiad cychwyn arfaethedig.

6. Cynghorir ymgeiswyr TAR i wneud cais cyn gynted â phosibl gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

7. Ar ôl cyflwyno cais yn llwyddiannus drwy'r porth ymgeisio ar-lein, bydd ymgeiswyr yn derbyn cydnabyddiaeth awtomataidd i gadarnhau bod eu cais wedi dod i law.

8. Bydd staff yn y Swyddfa Derbyn Graddedigion yn hysbysu’r ymgeisydd os bydd deunyddiau hanfodol ar goll sy'n golygu na ellir gwneud penderfyniad.