5.4 Trefn Benodi

1. Dylid anfon pob enwebiad ar gyfer Arholwyr Allanol newydd neu estyniadau i benodiadau cyfredol i’r Gofrestrfa Academaidd i’w hystyried gan y pwyllgor perthnasol erbyn diwedd Chwefror fan hwyraf yn y sesiwn cyn dechrau’r penodiad. Dylai Adrannau gysylltu â’r Arholwyr arfaethedig yn anffurfiol i holi a ydynt yn barod i dderbyn y penodiad cyn cyflwyno enwebiadau ffurfiol.

2. Ar ôl i’r pwyllgor perthnasol gymeradwyo’r penodiad, bydd llythyr cynnig ffurfiol yn cael ei anfon at yr Arholwr ynghyd â manylion y ffi a Rheoliadau a gweithdrefnau priodol y Brifysgol.