Monitro Ymroddiad a Phresenoldeb

Mae'r Polisi Fisa: Ymroddiad a Phresenoldeb yn seiliedig ar yr egwyddor 'pwyntiau cyswllt'.  Rhaid i fyfyrwyr fynychu isafswm o weithgareddau dysgu bob wythnos i ddiogelu eu fisa.

Ar gyfer sesiynau dysgu mewn ystafelloedd dosbarth, mae sganio cerdyn un waith mewn un gweithgaredd dysgu o fewn un diwrnod yn gyfystyr ag un pwynt cyswllt.

PWYNT CYSWLLT = sganio cerdyn 1 waith ar un diwrnod mewn o leiaf un dosbarth

Ar gyfer cyfnodau dysgu nad ydynt yn y dosbarth ac ar gyfer cyrsiau yn seiliedig ar ymchwil:

PWYNT CYSWLLT= Tystiolaeth o 1 cyfarfod wyneb yn wyneb ag aelod academaidd o staff yn Aberystwyth.

Mae'r polisi yn nodi'r trothwy isaf ar gyfer gweithredu gan swyddfa gydymffurfio Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) ond dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd presenoldeb anfoddhaol hefyd yn cael ei fonitro gan eu hadran ac y gall y Brifysgol gymryd camau fel sy'n berthnasol i bob myfyriwr.

MYFYRWYR Y GANOLFAN SAESNEG RYNGWLADOL (IEC)

MYFYRWYR Y GANOLFAN SAESNEG RYNGWLADOL (IEC)

1. Cymerir cofrestr presenoldeb ym mhob dosbarth.   

2. Bydd absenoldeb anawdurdodedig ac anesboniadwy am uchafswm o ddau (2) ddiwrnod yn olynol yn cael ei ddwyn i sylw Rheolwr Gweinyddol y Ganolfan gan arweinydd y rhaglen a gwneir trefniadau i gysylltu â'r myfyriwr.               

3. Os na fydd y myfyriwr yn ymateb a’i fod yn absennol am dri (3) diwrnod arall yn olynol, adroddir am yr absenoldeb i’r Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI.   

4. Bydd Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI yn cysylltu â'r myfyriwr ar ôl iddo fethu 5 pwynt cyswllt ac yn rhoi rhybudd ffurfiol y gallai methu ag ymroi drachefn arwain at dynnu ei fisa yn ôl.   

5. Os nad yw'r myfyriwr yn ymroi drachefn ac yn colli 5 pwynt cyswllt arall (cyfanswm o 10 pwynt cyswllt yn olynol), bydd ei achos yn dwysau ac yn cael ei gyfeirio at Arweinydd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer Cydymffurfiaeth UKVI (Swyddog Awdurdodi Noddwyr UKVI) gan gyflwyno achos dros dynnu’r nawdd Fisa Myfyriwr yn ôl.  Bydd yr achos yn amlinellu sut mae'r myfyriwr wedi torri Polisi Monitro Ymroddiad a Phresenoldeb Fisa Myfyrwyr y Brifysgol ac wedi methu â chadw at ei gyfrifoldebau Fisa Myfyrwyr fel yr amlinellir yn Llawlyfr Cyfrifoldebau Fisa Myfyrwyr y Brifysgol.  Mae'r polisïau hyn wedi'u seilio ar amodau UKVI.   

6. Bydd yr Arweinydd Gweithredol ar gyfer Cydymffurfiaeth yn adolygu'r achos gan ymgynghori â Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI.  Lle nad oes tystiolaeth bod y myfyriwr wedi ymgymryd â'i astudiaethau am 60 diwrnod, ac nad ydynt wedi rhoi rheswm boddhaol dros yr absenoldeb, bydd yr Arweinydd Gweithredol ar gyfer Cydymffurfiaeth yn cymeradwyo’n ffurfiol bod y nawdd Fisa Myfyriwr yn cael ei dynnu’n ôl.   

7. Bydd y weithred hon yn golygu bod y myfyriwr yn cael ei wahardd o'i gwrs yn barhaol.  Bydd y gwaharddiad yn cael ei gadarnhau gan Gofrestrydd Academaidd y Brifysgol.  

Bydd llythyr gwahardd ffurfiol yn cael ei gyflwyno i'r myfyriwr.  Bydd nawdd ei Fisa Myfyriwr yn cael ei dynnu'n ôl, a bydd yn ofynnol iddynt adael y DU.   

Myfyrwyr Nyrsio

Myfyrwyr Nyrsio

Yn ystod cyfnodau dysgu bydd myfyrwyr nyrsio yn cael eu monitro yn yr un modd â myfyrwyr israddedig.  (Gweler yr adran uchod)

Tra bod myfyrwyr ar leoliadau, bydd Swyddfa Gydymffurfio UKVI yn gofyn am adroddiadau sicrwydd misol gan adran y myfyriwr yn cadarnhau eu bod wedi bod yn cymryd rhan/yn mynychu'r lleoliad.  

Lle ceir tystiolaeth nad yw myfyriwr nyrsio wedi ymgymryd â'i astudiaethau yn ystod cyfnodau dysgu yn y dosbarth am 5 wythnos, bydd y polisi uchod ar gyfer myfyrwyr israddedig yn berthnasol.  Os yw myfyriwr wedi cyrraedd 60 diwrnod heb gymryd rhan (cyfnodau dysgu yn y dosbarth ac absenoldeb o'r lleoliad), bydd yr achos yn dwysau ac yn cael ei uwch-gyfeirio yn unol ag wythnos 5 yn y tabl uchod i fyfyrwyr israddedig'

Rhaid i'r Swyddfa Gydymffurfiaeth hysbysu'r Swyddfa Gartref o fewn deg (10) diwrnod gwaith os byddwch yn gadael y brifysgol i ymgymryd â gwaith maes. Nid yw hyn yn effeithio ar eich fisa myfyriwr.  Bydd yn cael ei adrodd i’r Swyddfa Gartref fel 'newid mewn lleoliad astudio' at ddibenion gwybodaeth yn unig. Rhaid i chi hysbysu'r Swyddfa Gydymffurfiaeth cyn gynted ag y bydd eich cais i gynnal Gwaith Maes wedi'i gymeradwyo gan eich arolygydd.

Disgwylir i chi barhau i fod mewn cysylltiad â'ch arolygydd, gan ei ddiweddaru ar y cynnydd yn eich gwaith.  Rhaid cael prawf o’ch ymrwymiad parhaus i’ch astudiaethau er mwyn diogelu eich fisa myfyriwr gan fod rhaid  i ni ddangos tystiolaeth ein bod yn eich monitro hyd yn oed pan fyddwch i ffwrdd o Aberystwyth ar waith maes.

Gall y canlynol fod yn dystiolaeth o ymrwymiad:

  • E-bost gan y myfyriwr (gan anfon copi i’w arolygydd) yn cadarnhau cyfarfod Teams neu bod ddiweddariad rhithwir wedi'i gynnal
  • Llwybr e-bost rhwng y myfyriwr a’r arolygydd yn dangos diweddariadau a chyswllt parhaus.

Deiliad Fisa Myfyrwyr ar leoliad

Deiliad Fisa Myfyrwyr ar leoliad

  • Enw'r sefydliad / lleoliad gwaith
  • Enw a chyfeiriad e-bost eich rheolwr llinell ar leoliad

Os na fydd y myfyriwr yn darparu Ffurflen Monitro Presenoldeb wedi'i llofnodi am fis, bydd hyn yn cael ei nodi ar ei Gofnod Myfyriwr.  Os nad yw'r myfyriwr yn darparu Ffurflen Monitro Presenoldeb wedi'i llofnodi am ddau fis yn olynol, bydd nawdd ei Fisa Myfyriwr yn cael ei dynnu'n ôl.  Bydd methu â chyflwyno ffurflenni presenoldeb wedi'u llofnodi yn peryglu fisa y myfyriwr gan fod gofyn i'r Brifysgol gael tystiolaeth bod myfyrwyr yn cymryd rhan yn eu cwrs.  Ni all y Brifysgol barhau i noddi myfyriwr os nad yw wedi cymryd rhan yn ei gwrs am 60 diwrnod.  

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n sâl?

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n sâl?

Os ydych chi'n sâl a golyga hyn na allwch fodloni'r gofyniad lleiaf o 2 bwynt cyswllt mewn wythnos, rhowch wybod i'ch Adran er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a gallant roi cyngor ar unrhyw effaith academaidd o ganlyniad i'ch absenoldeb.

Mae'r tîm Cydymffurfiaeth yn deall y gallai myfyrwyr fod yn sâl o bryd i'w gilydd gan fethu mynd i ddosbarthiadau, ond lle nodir absenoldeb o 3 wythnos byddwn yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi roi cyfrif am eich absenoldeb.  Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth feddygol. 

Os ydych yn disgwyl bod yn absennol am gyfnod hir (dros 60 diwrnod) efallai yr hoffech ystyried tynnu'n ôl dros dro o'ch astudiaethau.  Byddai hyn yn golygu rhoi gwybod i’r Swyddfa Gartref, byddai eich fisa yn cael ei diddymu a byddai rhaid i chi ddychwelyd i'ch mamwlad. Os hoffech drafod yr opsiwn hwn, cysylltwch â'ch Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (cyngormewnfudo@aber.ac.uk).