Dddeiliaid Fisa Myfyrwyr - Chyfrifoldebau
Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu. Edrychwch ar y fersiwn Saesneg yn y cyfamser.
Tystysgrif Cofrestru'r Heddlu
Tystysgrif Cofrestru'r Heddlu
Ddydd Gwener 5 Awst 2022, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref ei bod wedi diddymu cynllun cofrestru'r heddlu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig.
Myfyrwyr newydd sy’n dechrau ar gyrsiau o fis Medi 2022 ymlaen:
Os yw eich fisa yn nodi bod yn rhaid i chi gofrestru gyda'r Heddlu o fewn 7 diwrnod wedi ichi gyrraedd y Deyrnas Unedig, NID oes angen i chi wneud hyn mwyach.
Myfyrwyr sy’n dychwelyd ym mis Medi 2022:
Os ydych wedi cofrestru gyda'r Heddlu yn y gorffennol, nid oes angen i chi ddiweddaru'r Dystysgrif yng ngorsaf yr Heddlu mwyach.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid hwn, cysylltwch â compliance@aber.ac.uk.
Rhaid i bob myfyriwr fisa ddal ati i roi gwybod i UKVI am unrhyw newidiadau i'w cyfeiriad/manylion personol ar https://www.gov.uk/change-circumstances-visa-brp
Diweddaru eich Manylion Cyswllt
Mae’n rhaid ichi sicrhau bod gan Brifysgol Aberystwyth a’r Swyddfa Gartref eich manylion cyswllt diweddaraf.
Diweddaru’r Brifysgol
Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn cadw eich manylion cyswllt diweddaraf ar eich cofnod myfyriwr.
Mae’n rhaid ichi hefyd sicrhau eich bod yn cadw cyfeiriad cartref, rhif ffôn cartref a chyfeiriad e-bost personol dilys ar eich cofnod myfyriwr, ynghyd â’ch cyfeiriad cyfredol yn ystod y tymor a’ch rhif ffôn sefydlog/symudol yn y Deyrnas Unedig.
Eich cyfeiriad cartref yw’r cyfeiriad yr ydych yn byw ynddo yng Ngwlad eich Cartref. Ni all eich cyfeiriad cartref fod yn gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig os ydych yn fyfyriwr.
Eich cyfeiriad yn ystod y tymor yw’r cyfeiriad yr ydych yn byw ynddo tra bo’ch yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a rhaid iddo fod yn nhref Aberystwyth neu’n agos ati. *Oni bai eich bod yn astudio o gartref oherwydd pandemig COVID-19 a’ch bod wedi cael caniatâd i astudio o bell.
Rhaid ichi gadarnhau eich manylion mewn unrhyw gyfrifiad yr ydych yn rhan ohono yn ystod y flwyddyn academaidd.
Diweddaru’r Swyddfa Gartref
Mae’n rhaid ichi sôn wrth y Swyddfa Gartref am unrhyw newid yn eich manylion cyswllt tra bo’ch yn astudio.
Cofiwch fod y broses syn ymwneud â diweddaru’r Swyddfa Gartref yn wahanol i fyfyrwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n dal trwydded breswylio fiometrig ddilys, ac i fyfyrwyr sydd yn y Deyrnas Unedig heb drwydded breswylio fiometrig.
Rhaid ichi roi gwybod i’r Swyddfa Gartref os ydych yn colli eich trwydded breswylio fiometrig neu os yw eich trwydded yn cael ei dwyn. Efallai y bydd angen ichi gael trwydded newydd.