Buddsoddiadau Moesegol

Ym mis Mehefin 2024, mabwysiadodd y Brifysgol bolisi buddsoddiadau moesegol newydd, gan gynnwys ymrwymiadau i gyhoeddi ein portffolio buddsoddi yn flynyddol, i fuddsoddi’n gymdeithasol gyfrifol a rhoi terfyn ar y buddsoddiadau i sectorau/diwydiannau sy'n cael effaith negyddol ar gymdeithas a'r amgylchedd. Dyma rai o’r diwydiannau hynny:

  • Tanwydd ffosil, e.e. glo a thywod tar, cloddio glo thermol a chynhyrchu pŵer, ac olew a nwy anghonfensiynol
  • Systemau arfau ac arfau dadleuol 
  • Y diwydiant tybaco
  • Y rhai sy’n torri Cytundeb Byd-eang y Cenhedloedd Unedig a’r diwydiannau sy’n torri cyfraith ryngwladol

Yn ogystal, mae'r pwyllgor buddsoddiadau yn gweithio tuag at bortffolio sero net dros y blynyddoedd i ddod.

Am fwy o fanylion am yr ymrwymiadau hyn, cewch hyd i'n polisi yma: Polisi Buddsoddiadau (Mehefin 2024), ac am fwy o wybodaeth am ein polisïau a'n gweithdrefnau ariannol darllenwch yma: Gweithdrefnau a Pholisïau