Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ar y llwybr tuag at sero net.
Rydyn ni'n byw trwy argyfwng hinsawdd. Yn Aberystwyth, rydym yn arwain y sector o ran cynaliadwyedd, nid yn unig yn ein huchelgais i ddod yn gampws carbon niwtral erbyn 2030, ond hefyd trwy ein haddysgu a'n hymchwil arloesol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn falch o fod yn un o'r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan argyfwng hinsawdd. Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi lleihau ein hallyriadau C02 40%. Rydym yn falch o fod yn aelod o gonsortiwm o brifysgolion o’r DU sydd wedi taro bargen ynni gwyrdd nodedig gwerth £50m, i leihau ein hallyriadau a'n hôl troed carbon fel rhan o gytundeb pŵer prynu cyfun. Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi £2.9 miliwn mewn fferm solar newydd gyda 4,500 o baneli solar i gyfrannu tuag at ein gofynion trydan a lleihau ein hallyriadau C02 ychydig dros 500 tunnell bob blwyddyn.
Yn Aberystwyth, mae gennym ymchwilwyr o safon fyd-eang ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol sydd wedi derbyn dros £2 filiwn i gyflymu'r broses o fridio Miscanthus, y glaswellt ynni lluosflwydd, fel rhan o becyn ehangach gwerth £37 miliwn gan lywodraeth y DU i hybu cynhyrchiant biomas.