Dy Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru - Fersiwn Byr

Cyn i chi ddechrau eich astudiaethau yn Aber, bydd angen i chi sefydlu eich cyfrif TG Prifysgol, cael mynediad i'ch cofnod myfyriwr a dechrau cofrestru ar-lein ar gyfer eich cwrs.

Dilynwch y canllaw cam wrth gam fer hwn i ddechrau ar eich taith yn y brifysgol a cliciwch ar y ddolen islaw i gael gwybodaeth fanylach ar gyfer pob cam o'r daith.

Gwelwch y Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru manylach yma

1

Setio fyny eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth

Gwiriwch eich cyfrif e-bost personol pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cwrs. Byddwch yn derbyn e-bost i sefydlu a setio fyny eich cyfrif TG prifysgol.

Ystafell Wely
2

Gwneud cais am eich Cerdyn Aber

Unwaith eich bod wedi setio fyny eich cyfrif TG gallwch wneud cais am eich cerdyn Prifysgol. Mae angen i chi wneud cais am eich Cerdyn Aber i wneud yn sir ei fod yn barod i chi ei gasglu pan fyddwch yn cyrraedd y campws.

Desg Gymorth Gwneud Cais am eich Cerdyn Aber
3

Llawrlwytho eich Porth Myfyriwr

Mae’r Porth Myfyrwyr yn borth ar-lein i'w gwneud hi'n haws i chi gael gafael ar y wybodaeth a'r systemau sydd eu hangen arnoch yn ystod eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am wybodaeth ar sut i gael mynediad a llawrlwytho’r Porth Myfyrwyr ewch yma:

Myfyrwyr yn defnyddio cyfrifiadur Sut i Lawrlwytho’r Porth Myfyrwyr
4

Ewch i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein

Mae porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein y Brifysgol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn i'w ddisgwyl yn y Brifysgol yn ogystal â chanllawiau ar y cymorth a fydd ar gael i chi wrth astudio gyda ni. 

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Mynediad i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-Lein
5

Cofrestru ar gyfer eich cwrs

Cyn i chi allu cael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd angen i chi gwblhau’r broses o gofrestru. Bydd cyfle i drafod dewis modiwlau yn rhan o’ch sesiynau ymsefydlu adrannol yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol, a gallwch gael mynediad at fanylion eich cynllun astudio a'ch modiwlau craidd o'ch Cofnod Myfyrwyr:

Myfyriwr Uwchraddedig?

Er gwybodaeth nid yw'r cam hwn yn berthnasol i Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig.

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Mynediad i’ch Cofnod Myfyrwyr
6

Wedi eich cofrestru yn swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth...!

Unwaith y byddwch wedi cwblhau cofrestru, yna:

Ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys i gael benthyciadau/grantiau: Bydd cadarnhad yn cael ei anfon i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC). Mae taliadau'n digwydd 3-5 diwrnod ar ôl cofrestru, yn uniongyrchol i'r manylion cyfrif banc a rhoddwyd.

Ar gyfer Myfyrwyr sy’n Hunan-Ariannu: Mae angen i chi dalu ffioedd dysgu yn llawn o fewn 30 diwrnod trwy borth ar-lein. Fel arall, gallwch sefydlu cynllun talu awtomatig wrth gofrestru.

Byddwch wedyn wedi cael eich cofrestru'n swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth!

Myfyriwr Uwchraddedig?

Ewch at y rhestr wirio fanylach yma am gamau pellach ynghylch cyflawni cofrestru a thaliadau.

Aberystwyth o'r awyr