Eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ym mis Ionawr 2026.
Gallwch ddefnyddio y Cynllunydd Ymgartrefu Personol i'ch helpu i ddarganfod y digwyddiadau sy'n benodol i chi yn ystod eich cyfnod ymgartrefu.
Nodwch fod dwy ffordd o weld y Cynllunydd Ymgartrefu. Bydd y wybodaeth yn ymddangos yn y fformat cardiau, ond gallwch newid yr olwg i weld y wybodaeth ar ffurf tabl trwy ddewis yr opsiwn tabl.
Byddwch yn gallu gweld eich amserlen yma o ddechrau Ionawr.
Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2026 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!
Gweld eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol
Gallwch fynd at eich Cynllunydd Ymgartrefu Personol drwy’r ddolen berthnasol. Bydd angen eich manylion mewngofnodi a chyfrinair Prifysgol arnoch.
Bydd tab ‘Ymsefydlu yn eich Adran’ yn cynnwys yr holl ddigwyddiadau sy’n berthnasol i’ch Adran a’ch cwrs astudio. Bydd y tab ‘Gweithgareddau Croeso Cyffredinol’ yn cynnwys manylion yr holl ddigwyddiadau a drefnir gan y Tîm Croeso Canolog, Teithiau Llyfrgell ayyb.
Gallwch weld y wybodaeth fel cardiau digwyddiadau neu mewn fformat tabl, yn ôl eich dewis.
Gweld yr Holl Wybodaeth am Ddigwyddiadau
Ewch i training.aber.ac.uk a dewis ‘Sesiynau sydd ar gael (Myfyrwyr)’ o’r opsiynau a gyflwynir. Bydd angen eich manylion mewngofnodi a chyfrinair Prifysgol arnoch.
Defnyddiwch yr hidlenni perthnasol ar y ddewislen ar y chwith. Ar gyfer digwyddiadau Croesawu ac Ymsefydlu, defnyddiwch yr hidlydd ‘Croeso ac Ymsefydlu Myfyrwyr 2026’ dan ‘Categorïau’.
Gellir gosod hidlenni yn ôl y fformat cyflwyno, iaith cyflwyno, targed cyflwyno ac adran darged.
Gallwch weld y wybodaeth fel cardiau digwyddiadau neu mewn fformat tabl, yn ôl eich dewis.
