Rhestr Wirio CyrraeddAber – Cyrraedd ac Ymgartrefu

Mae cychwyn yn y brifysgol yn amser cyffrous a ‘da ni am sicrhau eich bod yn ymgartrefu cyn gynted a phosib. Mae ffrindiau newydd i'w gwneud, llefydd newydd i'w darganfod a'r chyfleoedd lu i ddatblygu ddiddordebau newydd hyd yn oed yn y dyddiau cyntaf.

Cyn cwblhau'r tasgau isod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r rhestr wirio ‘CynAber – Cyn Cyrraedd’. Cwbwlhewch y tasgau hanfodol a’r argymhellion sydd wedi eu rhestru islaw I’w cwblhau wedi cyrraedd y brifysgol.

Dilynwch y canllawiau  yma i sicrhau eich bod yn ymwybodol o bob dim sydd angen i'w wneud ar gyrraedd…

1

Cofiwch eich Dyddiadau CyrraeddAber… (Hanfodol)

Cofiwch bydd Llety'r Brifysgol ar gael i symud i mewn o ddechrau y Contract Meddiannaeth.

Mi fyddwch medru archebu dyddiad ac amser cyrraedd wrth gwblhau y rhaglen gyflwyno cyn-cyrraedd ar-lein.

Os bydd angen i chi newid y dyddiad ac amser cyrraedd gwnewch hyn drwy logio yn ôl mewn i'r Porth Llety ac ail-ddewis.  Bydd y staff ar gael 24/7 felly peidiwch â phoeni os ydych yn cyrraedd yn hwyr yn y nos. Mi fydd hi’n dal yn bosib i chi gasglu’r allwedd a mewngofrestru.

Rhai dyddiadau allweddol i gofio ar gyfer CyrraeddAber yw:

  • Cyfnod Cyrraedd Myfyrwyr Y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd: o Ddydd Sadwrn 31 Awst 2024 ymlaen.
  • Wythnos Groeso'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd: Dydd Llun 2 Medi – Dydd Gwener 6 Medi 2024
  • Cyfnod Cyrraedd Myfyrwyr Gwyddorau Milfeddygol: O ddydd Sadwrn 14 Medi 2024 ymlaen.
  • Wythnos Groeso Gwyddorau Milfeddygol: Dydd Llun 16 Medi – Dydd Gwener 20 Medi 2024
  • Penwythnos Cyrraedd Myfyrwyr Newydd: Dydd Gwener 20 Medi - Dydd Sul 22 Medi 2024
  • Wythnos CroesoAber: Dydd Llun 23 Medi – Dydd Gwener 27 Medi 2024

2

Cyrraedd Aber o'ch Cartref (Hanfodol)

Os ydych yn symud i lety ar y campws, dilynwch y cyfarwyddiadau cyrraedd gan y Tîm Llety i gasglu’r allweddi.

Mewn Car a Pharcio

Yn ystod y cyfnod Cyrraedd mi fyddwch medru parcio ar y campws, heb drwydded, er mwyn dadlwytho a symud i mewn i lety'r Brifysgol.

Mae parcio yn union wrth ymyl y llety yn gyfyngedig ac felly yn ystod y prif gyfnod cyrraedd mae cyfyngu ar barcio yn yr ardaloedd hyn i uchafswm o 20 munud i sicrhau hwyluso'r gwasanaeth i'r holl fyfyrwyr.  Ar ôl  gorffen dadlwytho , mi fydd hi’n ofynnol i  symud y car i faes parcio arall yn un o'r meysydd parcio arhosiad hir dynodedig.

Bydd staff ar y safle i helpu gyda parcio.

I gael gwybodaeth pellach am barcio ar y campws, ac i wneud cais am drwydded , gallwch ymweld â'n tudalennau Parcio yma.

Ar y Trên

Er y bydd llawer o bobl yn gyrru i Aber, efallai eich bod yn teithio ar y trên. Yn ystod Penwythnos Cyrraedd, mi fydd yna fyfyrwyr presennol wrth law yng ngorsaf drenau Aberystwyth i groesawu a chefnogi i fynd i'r campws. Mi fydd bws gwennol ar gael ar adegau dynodedig i gludo pawb I'w llety.

3

Symud mewn i’ch Llety (Hanfodol)

Casglu eich Allwedd

Bydd angen i chi ddod â’r Ffurflen Rhyddhau Allwedd i gasglu. Gall hwn fod yn fersiwn electronig, e.e. sgrinlun neu fersiwn argraffedig. Mae ar gael ar ddiwedd y rhaglen gyflwyno ar-lein. Bydd y Ffurflen Rhyddhau Allwedd yn cynnwys y dyddiad a’r amser cyrraedd.

Bydd gwybodaeth am ble i gasglu allwedd a manylion cyrraedd ar gael yn y cyflwyniad ar-lein ar y Porth Llety neu drwy edrych ar y gweddalen symud i mewn.

Casglu eich Cerdyn Aber

Mae Cerdyn Aber yn rhan hanfodol o fywyd prifysgol. Bydd angen cerdyn Aber i gael mynediad i'r llety ac adeiladau eraill, benthyg o’r llyfrgelloedd a chofrestru presenoldeb mewn darlithoedd ymysg defnyddiau eraill.

Bydd myfyrwyr newydd sy'n aros yn llety'r Brifysgol yn derbyn eu Cerdyn Aber fel rhan o'r broses gofrestru llety.

Cofiwch, er mwyn sicrhau bod Cerdyn Aber yn barod ar gyrraedd y campws bydd angen i chi wneud cais amdano o leiaf wythnos ymlaen llaw. Gwnewch hyn yma.

Os nad yw'ch cerdyn adnabod yn barod yn y llety ac i rheini sydd a threfniadau llety gwahanol, gallwch gasglu eich Cerdyn Aber o Lyfrgell Hugh Owen lle mae'r Parth Croeso wedi'i leoli yma.

Casglu eich Canllaw Byr CroesoAber

Bydd myfyrwyr newydd sy'n aros yn llety'r Brifysgol hefyd yn cael eu Canllaw Byr CroesoAber fel rhan o'r broses gofrestru llety.

Gan mai dyma fydd eich dyddiau cyntaf gyda ni yn Aber rydym wedi casglu gwybodaeth allweddol ac argymelledig at eu gilydd i helpu chi ymgartrefu yn Aber ac i bwyntio chi yn y cyfeiriad cywir. Mae'r Canllaw yn cynnwys map campws, amlinelliad o rai o'r digwyddiadau canolog sy'n digwydd yn ystod yr Wythnos Groeso a rhai manylion cyswllt allweddol i chi hefyd.

Gallwch hefyd ymchwilio mewn i digwyddiadau o amgylch y campws yn ein Cynllunydd Digwyddiadau Ymgartrefu. Maent yn ffordd wych o gwrdd â phobl a setlo i mewn.

4

Cysylltu â Wi-Fi campws (Hanfodol)

Enw rhwydwaith Wi-Fi yn y Brifysgol yw eduroam. Mae eduroam Wi-Fi yn rhoi cysylltedd di-dor rhwng y campws a llety prifysgol.

Mae gan holl neuaddau preswyl y Brifysgol fynediad i'r rhyngrwyd trwy soced rhwydwaith ethernet ym mhob ystafell wely astudio fel y prif gysylltiad rhyngrwyd yn ogystal.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cysylltu'n gywir â Wi-Fi ewch i'r tudalennau gwe: Rhwydwaith Myfyrwyr  : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth

5

Ymweld a’r Parth Croeso (Argymhellir)

Os am gymorth a chefnogaeth ar y campws yn ystod penwythnos y prif ddyfodiaid ewch i’r Parth Croeso. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, ewch i siarad â'n cynghorwyr.

Mae’r parth croeso wedi'i leoli:

Bydd staff wrth law i ateb unrhyw ymholiadau am y canlynol:

  • Cymorth Myfyrwyr gan gynnwys cymorth ariannol myfyrwyr ac ymholiadau
  • Cefnogaeth Academaidd gan gynnwys amserlenni ac ymholiadau modiwlau
  • Llesiant a datgan os oes gennych anabledd neu os oes angen cymorth arall arnoch
  • T.G. a chymorth technegol
  • Casglu a gwneud cais am Gerdyn Aber os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

Mae Llyfrgell Hugh Owen a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yng nghanol ein campws.

Bydd myfyrwyr y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd a Milfeddygaeth yn derbyn yr holl gyngor ac arweiniad perthnasol gan eu hadrannau, ond gallwch barhau i ymweld â'r Parth Croeso yn ystod y cyfnodau hyn.

6

Mynychu Sesiynau Sul Croeso Aber (Hanfodol) 

Mae Sesiynau Sul Croeso Aber yn sgyrsiau wyneb yn wyneb sydd wedi eu cynllunio i ateb  cwestiynau ar ol i chi gyrraedd Aber. 

Bydd rhain yn cael eu cynnal ddydd Sul 22 Medi 2024 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Yr amseroedd ar gyfer y sgyrsiau hyn yw:

 12.00pm - Sgwrs Ryngwladol Croeso Aber – Theatr y Werin

 2.30pm   - Sgwrs Ôl-raddedig Croeso Aber – Theatr y Werin

 2.30pm   - Sgwrs Israddedig Croeso Aber – Grŵp 1 – Neuadd Fawr

 4.00pm   - Sgwrs Israddedig Cyfrwng Cymraeg Croeso Aber – Theatr y Werin

 4.00pm   - Sgwrs Israddedig Croeso Aber – Grŵp 2 – Neuadd Fawr

 5.30pm   - Sgwrs Israddedig Croeso Aber – Grŵp 3 – Neuadd Fawr

Dylai pob myfyriwr newydd fynychu sesiwn gan sicrhau cyrraedd o leiaf 5 munud cyn dechrau pob sesiwn.

Mae ein sesiynau CroesoAber yn rhoi gwybodaeth i chi gael gwneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol. Bydd myfyrwyr presennol yn rhannu'r o’i profiad ac ateb unrhyw gwestiwn. Os am wybod y lle gorau i fachu coffi, sut i reoli gwaith prifysgol ochr yn ochr â chymdeithasu neu lle i fynd am gymorth pellach,  bydd y Sesiynau Sul  yn ateb y gofyn.

Yn ogystal a chyngor mi fydd :

  • Cerddoriaeth a Bwyd
  • Sel Fawr : Llestri cegin, nwyddau cartref a dillad ail-law Undeb Aberystwyth (Undeb ein Myfyrwyr)
  • Gweithgareddau hwyliog eraill

Bydd pob myfyriwr Canolfan Addysg Gofal Iechyd a Milfeddygaeth yn derbyn cyngor ac arweiniad gan eu hadrannau a phartïon eraill yn ystod eu Wythnos Groeso benodol, ond argymhellir bod myfyrwyr ar gyfer y cynlluniau hyn hefyd yn mynychu Sesiynau Sul CroesoAber.

7

Cymryd rhan mewn Digwyddiadau a Gweithgareddau Wythnos Croeso (Argymhellir)

Mae’r Wythnos Groeso yn wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau i bob fyfyriwr newydd a drefnir gan wahanol dimau ar draws y Brifysgol. Mae'r cyfan wedi'i anelu at groesawu pawb i'r campws. Y bwriad yw i bawb deimlo’n gartrefol, gwneud ffrindiau a chysylltiadau, ac ymgyfarwyddo â'r campws.

P'un a yw'n ddigwyddiad cymdeithasol, gweithgaredd neu'n rhywbeth ychydig yn fwy anffurfiol, bydd gweithgareddau priodol drwy gydol y cyfnod hwn.

Byddant yn cael eu trefnu gan wahanol endidau o fewn y Brifysgol – boed yn Undeb Aberystwyth - ein Hundeb Myfyrwyr, BywydPres trwy eu rhaglen BywydAberLide, ein Tîm Croeso Canolog neu eraill.

Bydd llawer yn digwydd ac yn cael eu trefnu gan eich Adran Academaidd hefyd, felly cadwch lygad ar ein Cynllunydd Croesawu ac Ymsefydlu.

8

Cwrdd â'ch adran! (Hanfodol)

Mae’r Sesiwn Sefydlu Academaidd yn gyflwyniad pwysig i'r cwrs a'r pwnc, cyn i'r gwaith ddechrau. Mae hyn yn cael ei gynnal dros sawl diwrnod yn ystod yr Wythnos Groeso. 

Mi fydd pob adran yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio dros yr wythnos a thu hwnt. Mae’n gyfle i ddod i adnabod yr adran, y staff a’r cyd-fyfyrwyr. Mi fydd yn cynnwys cwrdd a Thiwtor Personol fel Myfyriwr Israddedig ynghyd a digwyddiadau eraill cymdeithasol. Byddant hefyd yn darparu manylion am y gweithgareddau addysgol.

I gael gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau yn eich adran, ewch i'r dudalen hon a dewiswch dy gwrs.

Myfyriwr Uwchraddedig?

Rhaid i bob myfyriwr ôl-raddedig fynychu'r sesiwn ganolog Ymsefydlu a drefnir gan Ysgol y Graddedigion yn ystod yr Wythnos Groeso.

9

Cwblhau eich Cofrestriad Cwrs (Hanfodol)

PWYSIG - Cyn i chi gael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd rhaid i chi gwblhau’r broses cofrestru. Rhaid i chi ddewis modiwlau, os yw’n ofynnol a chwblhau’r cofrestriad ar-lein yn eich Cofnod Myfyriwr. Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn y ‘Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru’.

Ewch i’r Parth Cofrestru

Os oes angen help cwblhau'r dasg Cofrestru Ar-lein mae digon o gymorth ar gael.  Mi fydd desgiau cymorth ar waith yn Llyfrgell Hugh Owen, lle bydd staff yn gallu cwrdd, wyneb yn wyneb rhwng 9am a 5pm ar:

Ddydd Llun 23 Medi - Dydd Mercher 25 Medi 2024

Bydd myfyrwyr y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd a Milfeddygaeth yn derbyn yr holl gyngor ac arweiniad perthnasol gan eu hadrannau, ond gallant barhau i ymweld â'r Parth Cofrestru yn ystod y cyfnodau hyn.

10

Ymweld â Ffair y Glas (Hanfodol)

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth dros y dyddiau canlynol:

Dydd Mawrth 24, Dydd Mercher 25 a Dydd Iau 26 Medi 2024.

Mae Ffair y Glas, a drefnir gan Undeb Aberystwyth (Undeb y Myfyrwyr) yn arddangos popeth sydd ar gynnig i fyfyrwyr. O gymdeithasau, clybiau chwaraeon a digwyddiadau, i ostyngiadau myfyrwyr gan frandiau mawr a busnesau lleol, mae Ffair y Glas yn rhan hollol allweddol o'r croeso Aber.

Gafaelwch mewn freebies neu darganfyddwch diddordeb newydd drwy ymuno â thîm neu gymdeithas. Mi fydd dros 100 o gymdeithasau gwahanol yn cael ei cynrychioli. 

Yn ystod yr Wythnos Groeso, cofiwch hefyd ymweld ag Undeb Aberystwyth sydd ynghanol y campws.

Yn ogystal â chartref adloniant byw, gweithgareddau a chlybiau a chymdeithasau, mae Undeb Aberystwyth yn cynnig llawer mwy na'r nosweithiau allan. Fel rhan annibynnol o'r brifysgol dan arweiniad myfyrwyr, mae Undeb Aberystwyth yn cynrychioli myfyrwyr ac yn darparu ystod amrywiol a chynhwysol o wasanaethau a fydd yn cyfoethogi eich bywyd fel myfyriwr. Mae'r rhain yn cynnwys cyngor, hyfforddiant, datblygu sgiliau, cyfleoedd gwirfoddoli, cyflogaeth a gwasanaethau eraill sy'n hyrwyddo cynhwysiant, cyfeillgarwch a datblygiad personol.

Mae mwy o wybodaeth am Ffair y Glas ar gael yma yn ogystal â digon o ddigwyddiadau eraill a drefnir gan Undeb Aberystwyth yn ystod wythnos Croeso.

11

Ewch i archwilio ein campws (Argymhellir)

Rydym bob amser yn argymell myfyrwyr newydd i gymryd amser i ganfod ein campws hyfryd a’r ardal tu hwnt. Mi fyddwch yn gallu gweld pa gyfleusterau sydd yma a manteisio arnynt. O'n hardaloedd astudio gwych, caffis a mannau gwyrdd i'n gromen chwaraeon newydd a chymaint mwy.

Bydd teithiau o gwmpas y campws yn cael eu cynnal yn ystod yr Wythnos Groeso yn ogystal â theithiau cerdded o amgylch Aberystwyth. Mae’r amserleni a rhagor wybodaeth yn y Cynllunydd Digwyddiadau Croeso ac Ymsefydlu.

Gweler ein map campws ar-lein yma hefyd.

12

Hyfforddiant caniatâd ar-lein (Hanfodol)

Mae Aberystwyth yn brifysgol ddiogel, deg a chynhwysol. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein campws yn le mwy diogel. Nid oes goddefgarwch i aflonyddu, unrhyw droseddau casineb, cam-drin ac ymddygiad gwylwyr. Drwy ddysgu mwy am ganiatâd a chwblhau'r hyfforddiant, helpwch ni i gadw Aberystwyth yn ddiogel.

Gallwch gwblhau'r hyfforddiant caniatâd ar-lein yma.

13

Cofrestu gyda meddyg (Hanfodol)

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu lleol. Rydym am sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i’ch helpu i gofrestru gyda meddyg teulu. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Mae'n hanfodol bwysig sicrhau parhad gofal, yn enwedig os yn derbyn unrhyw feddyginiaeth bresgripsiwn neu driniaeth arall. Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, mae gennych hawl i gael presgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru.

Mi fedrwch ofyn am gyngor gan y Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn ystod y dyddiau cyntaf ond mae’n bosib hefyd i gofrestru ar-lein yma.

14

Help yn ystod eich Wythnos Cyrraedd Aber ... (Hanfodol)

Bydd y Tîm A Myfywyr a'r staff o gwmpas drwy gydol dyddiau cyntaf y prif benwythnos cyrraedd. Fodd bynnag, bydd staff wrth law drwy gydol yr holl gyfnodau cyrraedd ac mae gennym restr o gysylltiadau allweddol isod:

Llinell gymorth 24/7 y Brifysgol:

Os oes angen rhywfaint o gymorth arnoch ar unrhyw adeg neu os ydych yn bryderus ac angen trafod mi fedrwch gysylltu â Llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol. ar: 01970 62 2900 am gymorth a'r arwyddion priodol.

Diogelwch o gwmpas y cloc:

Mae Tîm Diogelwch y Brifysgol wedi'i leoli yn Llety'r Dderbynfa'r Campws. Maent ar gael i helpu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, drwy gydol y flwyddyn, ar /ac oddi ar y campws.

Gallant gynnig cyngor atal troseddu, patrolio ystâd y Brifysgol, rheoli traffig a pharcio ac ymateb i unrhyw fater sy'n gofyn am ymateb ar unwaith.

Yn ogystal â chadw'r Brifysgol yn ddiogel, mae'r Tîm Diogelwch bob amser ar gael i helpu gydag unrhyw faterion lles.

I gysylltu am wybodaeth, cyngor neu i adrodd trosedd, mi fedri

E-bost: security@aber.ac.uk  

Ffôn: 01970 622649 

Oriau Agor: Mae’r Tim Diogelwch ar gael ar unrhyw adeg yn Dderbynfa y Campws.

Os oes argyfwng ffoniwch 999 neu Diogelwch ar 01970 622649 neu ffôn symudol 07889 596220.

Llety (BywydAberLife):

Mae Tim Bywyd Pres. yma I’ch helpu i greu cymuned o fewn y preswylfeydd lle ydych medru teimlo'n ddiogel, yn perthyn mewn awyrgylch gynhwysol. Eu nod yw creu amgylchedd byw a dysgu cadarnhaol.

Cynhelir eu sesiynau yn ystod yr wythnos drwy gydol y tymor. Gall fyfyrwyr alw heibio i gwrdd ag aelod o'r tîm Bywyd Pres., i drafod unrhyw faterion sy'n ymwneud â'u llety neu bryderon ehangach.

Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal rhwng 18:00-20:00, mewn lleoliadau penodol a restrir fel a ganlyn:

Dydd Llun - Y Sgubor, Fferm Penglais

Dydd Mawrth - Rosser D Lounge

Dydd Mercher - Llyfrgell Hugh Owen Lefel D, 

Dydd Iau - Pantycelyn, 

Dydd Gwener - Lolfa Melyn PJM

Gofod Ffydd

Mae'r Gofod Aml-Ffydd sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau yn safle lle  y gall aelodau o gymuned y Brifysgol weddïo, cwrdd ac ymlacio. 

Mae'r gofod ffydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Rhwng 8am a 5pm gall unrhyw aelod o'n cymuned gael mynediad i'r gofod gyda’i  Cerdyn Aber.

E-bost: equality@aber.ac.uk 

Ffôn: 01970 628424

Gwasanaethau Gwybodaeth  

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael i gefnogi'r llyfrgell, cyfrifiadura, e-ddysgu, y cyfryngau ac unrhyw anghenion gwybodaeth arall.

Ar gyfer pob ymholiad sy'n ymwneud â gwasanaethau Llyfrgell a TG, gallwch gysylltu â nhw drwy:

E-bost: gg@aber.ac.uk 

Dydd Llun - Gwener 08:30 (10:00 ddydd Mercher) - 17.00

Ffôn: 01970 622400

Yn bersonol: Desg Ymholiadau - Llyfrgell Hugh Owen

Dydd Llun - Gwener 13:00 - 17:00

Dydd Sadwrn - Dydd Sul 13:00 - 17:00**

Gwasanaethau Myfyrwyr

Gall fyfyrwyr gael mynediad i'r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn y ffordd sy'n gweddu orau iddynt, boed hynny'n bersonol, ar y campws (yn y Ganolfan Croeso i Fyfyrwyr), ar-lein neu dros y ffôn.

Mae Derbynfa'r Ganolfan Croeso i Fyfyrwyr ar agor 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am-4pm ar ddydd Gwener.

Gwasanaeth Hygyrchedd

Darparu cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr anabl, y rhai â chyflyrau iechyd hirsefydlog neu'r rhai sydd â gwahaniaethau dysgu penodol.

E-bost: accessibility@aber.ac.uk 

Ffôn: 01970 621761/622087

Oriau agor: Mae gwasanaethau ar gael yn bersonol ac o bell rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am a 4pm ar ddydd Gwener.

Y Gwasanaeth Cyngor ac Arian

Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol, sy'n cynnig cyngor ar ystod o faterion, o faterion llety, cynnydd academaidd a gweithdrefnau'r Brifysgol, rheoli arian a rhedeg y gronfa caledi.

E-bost: student-adviser@aber.ac.uk 

Ffôn: 01970 621761/622087

Oriau agor: Mae gwasanaethau ar gael yn bersonol ac o bell rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am a 4pm ar ddydd Gwener.

Gwasanaeth Gyrfaoedd

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu gwasanaeth rhagorol a chefnogol sy'n arfogi myfyrwyr a graddedigion unigol i wireddu eich dyheadau, gwneud dewisiadau bywyd gwybodus a chyflawni eich potensial gyda ni.

E-bost: careers@aber.ac.uk 

Ffôn: 01970 622378

Oriau agor: Mae gwasanaethau ar gael yn bersonol ac o bell rhwng 9am a 4pm

Camdrin a Chamymddwyn – Gwasanaeth Atal a Chymorth

Gallwch adrodd aflonyddu a chamymddwyn drwy e-bostio neu drwy fynd i'r system Adrodd Ar-lein 'Adroddiad a Chefnogaeth' i roi eich manylion neu rhannu'r hyn sydd wedi digwydd yn ddienw.

E-bost: student-adviser@aber.ac.uk 

Ffôn: 01970 621761/622087

Oriau agor: Mae gwasanaethau ar gael yn bersonol ac o bell rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am a 4pm ar ddydd Gwener.

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl, ffoniwch 01970 622649 ar gyfer Diogelwch y Brifysgol, neu 999 ar gyfer y Gwasanaethau Brys.

Gwasanaeth Lles

Mae'r Tîm Lles yma i helpu unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw fater lles, boed hynny'n fater sy'n ymwneud â chyfeillgarwch, profedigaeth, gorbryder neu pwysau llwyth gwaith, problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol neu ddifrifol a pharhaus.

E-bost: studentwellbeing@aber.ac.uk 

Ffôn: 01970 621761 / 622087

Oriau agor: Mae gwasanaethau ar gael yn bersonol ac o bell rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am a 4pm ar ddydd Gwener.

Ochr yn ochr â phrif opsiynau cymorth y Gwasanaeth Lles, mae'r Brifysgol yn darparu cymorth ychwanegol ac mae wedi partneru â nifer o wasanaethau ar-lein sydd i'w gweld yma

Undeb Aberystwyth (Undeb y Myfyrwyr)

Gall Gwasanaeth Cynghori Undeb Aberystwyth sydd wedi'i leoli yn Adeilad yr Undeb helpu ar ystod o faterion. Maent yn darparu cyngor am ddim mewn amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar gydag ymgynghorwyr sydd â phrofiad o ddelio â gweithdrefnau a phrosesau'r Brifysgol.

Ar-lein: Defnyddio'r ffurflen ymholiad 

E-bost: union.advice@aber.ac.uk 

Dros y ffôn: 01970 621712 

15

Gwybodaeth i bobl sy'n cyrraedd y tu allan i'r Wythnos Groeso (Hanfodol)

Rydym yn eich annog yn gryf i gyrraedd Aber mewn pryd ar gyfer y dyddiadau allweddol Wythnos Cyrraedd fel yr amlygwyd ar frig y rhestr hon gan wneud y mwyaf o'r gweithgareddau ymgartrefu.

Cofrestru Cwrs:

Mae'n rhaid i chi gwblhau cofrestriad hwyr erbyn 5pm ddydd Mercher 2 Hydref fan bellaf.  Os na fyddwch yn cofrestru erbyn y dyddiad cau hwn, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr a byddwch mewn perygl o golli mynediad at e-bost a chyfleusterau'r Gwasanaethau Gwybodaeth eraill.

Gallwch e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk neu gysylltu â'r Tîm Gweinyddol Myfyrwyr dros y ffôn fel yr amlinellir yma: Materion Israddedigion : Y Gofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth

Llety: 

Bydd eich ystafell yn cael ei chadw hyd at y ddyddiad  penodol a nodir yn y Cytundeb Meddiannaeth Llety. Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu cyrraedd ar ôl y dyddiad yma, sicrhewch eich bod yn llenwi'r ffurflen gais 'Cyrraedd yn Hwyr' wrth gwblhau eich rhaglen gynefino cyn cyrraedd ar-lein.

Os ydych yn byw yn llety'r Brifysgol ac yn hwyr yn dychwelyd i'r Brifysgol, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Llety drwy e-bost: accommodation@aber.ac.uk neu ffonio (01970) 622984

Myfyriwr Uwchraddedig?

Gall pob myfyriwr ôl-raddedig e-bostio pgsstaff@aber.ac.uk neu gysylltu â'r Tîm Gweinyddol Myfyrwyr dros y ffôn fel yr amlinellir yma: Materion Uwchraddedigion  : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth