Dy Rhestr Wirio Cyn-Cyrraedd CynAber - Fersiwn Byr

Mae rhai pethau yr ydym yn argymell y dylech wneud cyn i chi gyrraedd Aber fel eich bod yn barod ac wedi paratoi, ac yna gallwch fwynhau eich wythnosau cyntaf gyda ni. Mae rhai o'r tasgau hyn yr ydym yn eu hystyried yn hanfodol, ac mae eraill yr ydym yn argymell i chi wneud.

Dilynwch y canllaw cam wrth gam fer hwn i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r hyn y mae angen i chi ei wneud cyn i chi gyrraedd, a cliciwch ar y ddolen islaw i gael gwybodaeth fanylach ar gyfer pob cam o'r daith.

Gwelwch y Rhestr Wirio CynAber manylach yma

1

Eich Llety

Byw mewn Llety Prifysgol? Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau cyn-cyrraedd gan ein Swyddfa Llety a gallwch ddechrau gwneud cais mewn ychydig o gamau hawdd:

Ystafell wely Sut i Wneud Cais am Lety
2

Setio fyny eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth

Gwiriwch eich cyfrif e-bost personol pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cwrs. Byddwch yn derbyn e-bost i sefydlu a setio fyny eich cyfrif TG prifysgol.

Unigolyn yn defnyddio tabled
3

Sicrhau eich bod yn cael cymorth anabledd a dysgu os oes angen

Os ydych chi'n wynebu unrhyw rwystrau iechyd, rhowch wybod i ni ymlaen llaw a cysylltwch â ni os oes gennych anabledd, anhawster dysgu penodol, cyflwr meddygol hir dymor neu gyflwr iechyd meddwl. Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth yn ystod eich astudiaethau a gall ein Cynghorwyr Myfyrwyr eich cynghori am y gefnogaeth a/neu'r addasiadau a allai fod ar gael i chi. Gallwch e-bostio: hygyrchedd@aber.ac.uk cyn i chi gyrraedd.

Myfyrwyr wrth y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr Archwilio ein Gwasanaeth Hygyrchedd
4

Gwneud cais am eich Cerdyn Aber

Mae eich Cerdyn Aber yn rhoi mynediad i chi at wasanaethau llyfrgell, argraffu, adeiladau ar y campws gan gynnwys llety a llawer mwy. Er mwyn sicrhau bod eich Cerdyn Aber yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y campws bydd angen i chi wneud cais amdano o leiaf wythnos ymlaen llaw.

darllenydd cerdyn Gwneud Cais am eich Cerdyn Aber
5

Gorffennwch eich Cais am Lety'r Brifysgol

Cofiwch i gwblhau eich cais am lety. Rhai o’r camau hanfodol yw deal y cytundeb meddiannaeth llety a trefnu talu ffioedd; cwblhau eich rhaglen ymsefydlu; darllen y llawlyfr preswylwyr a chysylltu a’r myfyrwyr chi’n rhannu llety efo cyn cyrraedd os hoffech wneud.  

ystafell wely Archwiliwch yr Adnoddau Hyn
6

Edrychwch dros dudalennau gwe Croeso Aber

Cymerwch ychydig o amser i gael golwg o gwmpas y wefan hon - mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol i chi fel myfyriwr newydd. Rai tudalennau hanfodol ac argymelledig i gael golwg ar yw  Eich Cynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu; Eich Adran Academaidd; Rhestrau Gwirio Croeso a Chwestiynau Cyffredin ar Fideo; a gymaint mwy…

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Edrychwch ar y wefan
7

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a darllen eich negeseuon e-bost Croeso

Gwiriwch eich negeseuon e-bost yn rheolaidd a dderbyniwyd gan y Brifysgol a chofiwch fewngofnodi i'ch cyfrif e-bost myfyriwr Aberystwyth newydd hefyd.  Bydd gan yr ebyst wybodaeth bwysig i’w rhannu â chi ynghylch y cyfnod croeso.

myfyriwr yn defnyddio ffôn
8

Trefnwch eich cyllid

Myfyriwr Uwchraddedig?

Ewch at y rhestr wirio fanylach yma am gamau pellach ynghylch trefnu eich cyllid.

pwynt gwasanaethu Edrych ar Awgrymiadau Rheoli Arian
9

Ymgyfarwyddo â’r Porth Myfyrwyr

Mae’r Porth Myfyrwyr yn borth ar-lein i'w gwneud hi'n haws i chi gael gafael ar y wybodaeth a'r systemau sydd eu hangen arnoch yn ystod eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n syniad da ymgyfarwyddo â'r Porth Myfyrwyr a'r holl deils sydd ar gael i chi.

Myfyrwyr yn edrych ar dabled Sut i Lawrlwytho’r Porth Myfyrwyr
10

Ewch i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein

Mae porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein y Brifysgol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn i'w ddisgwyl yn y Brifysgol yn ogystal â chanllawiau ar y cymorth a fydd ar gael i chi wrth astudio gyda ni. 

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Mynediad i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-Lein
11

Gwiriwch fod Brechiadau/Imiwneiddio'n wedi ei ddiweddaru gennych

Rydym yn cynghori'n gryf i chi sicrhau bod eich brechiadau Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR) a brechiadau Llid yr Ymennydd ACWY wedi eu diweddaru cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol. Os nad ydych wedi derbyn y rhain eto, neu'n ansicr a ydych wedi, rydym yn awgrymu trafod hyn gyda'ch meddyg.

Myfyrwyr yn y dref Archwiliwch ein Tudalennau Iechyd Myfyrwyr
12

Dechreuwch Bacio! 

Mae penderfynu ar beth i'w bacio yn anodd, a chofiwch byddwch yn gallu prynu eitemau rydych chi wedi'u hanghofio neu sydd ddim mor hanfodol naill ai'n lleol neu ar-lein. Pacio ddogfennau hanfodol fel eich pasbort ac unrhyw presgripsiwn sydd ei hangen.  Os ydych chi'n byw yn ein llety prifysgol, gwiriwch beth sydd wedi'i gynnwys yn eich ystafell neu'ch fflat islaw.

Myfyrwyr yn cario bocsus Beth i ddod efo chi
13

Cynllunio eich Taith i Aber

Darganfyddwch sut i gyrraedd yma a gweld eich opsiynau ar gyfer symud o gwmpas.

Myfyriwr wrth ymyl bws Cynllunio eich Taith