Dy Rhestr Wirio Cyn-Cyrraedd CynAber

Mae rhai pethau yr ydym yn argymell y dylech wneud cyn i chi gyrraedd Aber fel eich bod yn barod ac wedi paratoi, ac yna gallwch fwynhau eich wythnosau cyntaf gyda ni. Mae rhai o'r tasgau hyn yr ydym yn eu hystyried yn hanfodol, ac mae eraill yr ydym yn argymell i chi wneud.

Dilynwch y canllaw cam wrth gam hyn i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r hyn y mae angen i chi ei wneud cyn i chi gyrraedd…

1

Gwneud cais am lety drwy Borth Llety'r Brifysgol (Hanfodol)

Mae gennym oddeutu 3,500 o ystafelloedd gwely ar gael yn ein preswylfeydd sydd naill ai'n eiddo neu'n cael eu rheoli gan y Brifysgol ac os ydych yn dymuno byw gyda ni, gallwch ddechrau gwneud cais mewn ychydig o gamau hawdd: Sut i Wneud Cais  : Llety , Prifysgol Aberystwyth

Os ydych yn Fyfyriwr israddedig newydd: Byddwch yn gymwys i wneud cais am lety y Brifysgol dim ond os ydych wedi dewis Aberystwyth fel eich dewis Cadarn.

Os ydych yn Fyfyriwr ôl-raddedig newydd: Byddwch yn gymwys i wneud cais am Lety'r Brifysgol os ydych wedi derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Os ydych yn fyfyriwr Astudio Dramor a Chyfnewid: Gallwch wneud cais am lety Prifysgol unwaith y bydd eich cais wedi bod yn llwyddiannus, a'ch bod wedi actifadu eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth.

Os byddai'n well gennych fyw mewn llety preifat, byddem yn argymell eich bod yn gwirio ein tudalen we llety preifat am rai awgrymiadau: Llety yn y Sector Preifat  : Astudio Gyda Ni , Prifysgol Aberystwyth

2

Setio fyny eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth (Hanfodol)

Bydd ein Tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost personol a rhoddwyd i'r Brifysgol gyda neges o'r enw 'Eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth' i sefydlu a setio fyny eich cyfrif TG prifysgol.

3

Sicrhau eich bod yn cael cymorth anabledd a dysgu os oes angen (Hanfodol)

Rydym yn cydnabod y gall hwn fod yn gyfnod pryderus ac ansicr i rai. Os ydych chi'n wynebu unrhyw rwystrau iechyd, rhowch wybod i ni ymlaen llaw. Os oes gennych anabledd, anhawster dysgu penodol, cyflwr meddygol hir dymor neu gyflwr iechyd meddwl, cysylltwch cyn gynted â phosibl i drafod sut y gallwn eich cefnogi. Gallwn gynnig cyngor a chefnogaeth briodol i chi yn ystod eich astudiaethau a byddwn yn ceisio sicrhau bod eich cyfnod croesawu ac ymgartrefu mor gyfforddus â phosibl i chi.

Cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Hygyrchedd lle gall un o'n Cynghorwyr Myfyrwyr eich cynghori am y gefnogaeth a/neu'r addasiadau a allai fod ar gael i chi.

Mae'r tîm wrth law ac yn hapus i helpu cyn i chi gyrraedd, a gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01970 621761 / 01970 622087 neu drwy e-bostio'r tîm – hygyrchedd@aber.ac.uk

4

Gwneud cais a llwytho llun ar gyfer eich Cerdyn Aber (Hanfodol)

Eich Cerdyn Aber yw eich cerdyn adnabod y Brifysgol ac mae'n rhoi mynediad i chi at wasanaethau llyfrgell, argraffu, adeiladau ar y campws gan gynnwys llety a llawer mwy.

Bydd ein Tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost newydd prifysgol gyda neges o'r enw 'Gwnewch gais am eich Cerdyn Aber’ i sefydlu a setio fyny eich Cerdyn Aber.

Er mwyn sicrhau bod eich Cerdyn Aber yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y campws bydd angen i chi wneud cais amdano o leiaf wythnos ymlaen llaw.

Gallwch wneud cais am eich Cerdyn Aber drwy lanlwytho llun digidol yn: Gweinyddu Fy Nghyfrif  : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth

5

Gorffennwch eich Cais am Lety'r Brifysgol (Hanfodol)

I bawb sy'n dymuno byw gyda ni, gallwch gwblhau eich cais am lety unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig Cadarn Diamod o ran astudio. Mae rhai camau hanfodol ac argymelledig yn y broses hon:

Cytundeb Meddiannaeth (Hanfodol)

Mae'r Contract Meddiannaeth Llety yn gytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a'r Brifysgol sy'n nodi eich rhwymedigaethau a rhwymedigaethau'r Brifysgol.  Sicrhewch eich bod yn darllen ac yn deall y telerau ac amodau. Fel rhan o'r broses hon byddwch yn trefnu talu eich ffioedd llety gyda'r Brifysgol: Ffioedd Llety  : Llety , Prifysgol Aberystwyth

Rhaglen Ymsefydlu (Hanfodol)

Cyn i chi gyrraedd, bydd angen i chi gwblhau'r Rhaglen Ymsefydlu a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am fyw mewn llety Prifysgol.

Pryd? Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost pan fydd y Rhaglen Ymefydlu ar gael i chi ei chwblhau.

Llawlyfr Preswylwyr (Argymhell)

Darllenwch Lawlyfr Preswylwyr am wybodaeth ac awgrymiadau ychwanegol a defnyddiol: Llawlyfr Preswylwyr  : Llety , Prifysgol Aberystwyth

Mae'r Llawlyfr Preswylwyr yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen yn ystod eich cyfnod yn Llety'r Brifysgol ac mae'n ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys:

  • Cyn i chi gyrraedd
  • Gwaith Cynnal a Chadw
  • Glanhau
  • Diogelwch Cyffredinol
  • Diogelwch Tân
  • Gwybodaeth Teithio
  • Byw gyda phobl eraill
  • Iechyd a Lles

Cysylltu efo myfyrwyr chi’n rhannu llety efo (Argymhell)

Os hoffech gysylltu a’r myfyrwyr chi’n rhannu llety efo, cewch gyfle i rannu eich manylion cyfryngau cymdeithasol fel y gallwch wneud cysylltiadau cyn i chi gyrraedd.

Bydd eich manylion yn cael eu gweld a'u rhannu gyda’r myfyrwyr chi’n rhannu llety efo yn unig. Nid oes rhaid i chi rannu'ch manylion os nad ydych am wneud hynny, a gallwch eu newid neu eu dileu ar unrhyw adeg.

6

Edrychwch dros dudalennau gwe Croeso Aber (Argymhell)

Cymerwch ychydig o amser i gael golwg o gwmpas y wefan hon - mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol i chi fel myfyriwr newydd. Dyma rai tudalennau hanfodol ac argymelledig i fynd drwyddynt y byddem yn eich cynghori i edrych arnynt:

Eich Cynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu (Hanfodol)

Dechreuwch gynllunio eich gweithgareddau ar gyfer yr Wythnos Groeso.

Defnyddiwch y Cynllunydd Croeso ac Ymefydlu newydd i'ch helpu i lywio'r digwyddiadau sy'n benodol i chi yn ystod Wythnos Groeso Aber 2024, a'r wythnosau cyntaf yn y Brifysgol.

Eich Adran Academaidd (Hanfodol)

Ewch i dudalen groeso eich Adran i gael gwybod am eu digwyddiadau ymsefydlu.

Rhestrau Gwirio Croeso a Cwestiynau Cyffredin ar Fideo (Argymhell)

Edrychwch ar y tasgau hanfodol y bydd angen i chi eu cwblhau cyn i chi gyrraedd, yn ystod eich dyddiau a'ch wythnosau cyntaf trwy restr wirio wedi'i theilwra a fideos wedi eu creu gan ein myfyrwyr presennol, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am ymuno â'ch cymuned newydd.

Tudalennau HeloAber  (Argymhell)

Dewch i adnabod eich Undeb Aberystwyth a'r hyn maen nhw wedi'i gynllunio... Yn barod i fwynhau?

Dan arweiniad myfyrwyr ac wedi'i gefnogi gan dîm o staff, mae 'Undeb Aberystwyth' (ein Undeb Myfyrwyr) eisiau i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Mae'n gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn cael taith myfyriwr epig, yn hapus ac yn iach, gyda chyfeillgarwch parhaol a dyfodol addawol!

Edrychwch ar ba glybiau a chymdeithasau chwaraeon y gallwch ymuno â nhw ymlaen llaw ar wefan Undeb y Myfyrwyr yn ogystal.

7

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a darllen eich negeseuon e-bost Croeso (Hanfodol)

Darllenwch unrhyw negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan y Brifysgol – gall rhain fod o’r Tîm Gwasanaethau Gwybodaeth, BywydPres, y Tîm Gweinyddol, eich Adran Academaidd ac eraill.

Bydd gan bob un ohonynt wybodaeth bwysig i’w rhannu â chi ynghylch y cyfnod croeso. Byddant yn cynnwys llawer o awgrymiadau a chyngor defnyddiol i chi baratoi ar gyfer eich cyfnod gyda ni, a rhai tasgau hanfodol fel yr amlinellir yn y rhestr wirio hon.

Gwiriwch eich negeseuon e-bost yn rheolaidd a chofiwch fewngofnodi i'ch cyfrif e-bost myfyriwr Aberystwyth hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'ch ffolder ‘junk’ os na allwch ddod o hyd iddynt.

8

Trefnwch eich cyllid (Hanfodol)

Gwiriwch fod eich cyllid a'ch arian mewn lle (Hanfodol)

Bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd Aber hawl i fenthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu a chostau byw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae eich ffioedd yn cael eu talu, a phryd y byddwch yn cael y taliadau cyllid myfyrwyr hyn (os yw'n berthnasol). Rydym yn argymell os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, i wneud eich cais Cyllid Myfyrwyr cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod yn derbyn eich cyllid angenrheidiol ar amser unwaith y bydd eich cwrs yn dechrau.

Os nad ydych wedi gwneud cais eto, ewch i wefan llywodraeth Cyllid Myfyrwyr i ddechrau.

Talu eich ffioedd (Hanfodol)

Os yw'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn talu eich ffioedd dysgu gallwch ddarganfod sut y cânt eu talu drwy dudalennau gwe Cyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England. Os ydych yn hunan-ariannu eich ffioedd dysgu neu os ydynt yn cael eu talu gan sefydliad allanol (nid ffrind, perthynas neu'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr) ewch yma: Sut i Dalu  : Astudio Gyda Ni , Prifysgol Aberystwyth

Cyngor ar sut i reoli eich arian (Argymell)

Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch, cysylltwch â'n Tîm Cyngor ac Arian o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr yma: Cyngor ac Arian : Gwasanaeth Cyngor ac Arian  : Gwasanaethau Myfyrwyr , Prifysgol Aberystwyth

Mae'r Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth i Fyfyrwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac atgyfeiriad ar ystod eang o faterion ariannol, o helpu Iiddilyn fyny ar oedi ariannu efo cyllid myfyrwyr, i gyngor syml ar reoli eich arian.

Cofiwch y gallwch hefyd sefydlu cyfrif banc y gellir talu eich benthyciad cynhaliaeth iddo cyn i chi ddechrau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gwahanol gynigion a cheisiwch gael y fargen orau sy'n ffitio orau i chi. Os oes gennych gyfrif banc yn barod, gwiriwch a ellir ei drosi i fod yn gyfrif myfyriwr fel na fyddwch yn colli allan ar fargen dda a chynigion penodol.

Myfyriwr Uwchraddedig?

Bydd unrhyw gyllid Ôl-raddedig ar gyfer dysgu o’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi fel myfyriwr ac nid yn uniongyrchol i'r Brifysgol - felly i fod yn glir, eich cyfrifoldeb chi yw i dalu ar gyfer dysgu i'r Brifysgol.

Bydd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy'n derbyn ysgoloriaethau, (gan gynnwys ffioedd a chyflogau) yn cael eu ffioedd wedi eu talu’n llawn neu'n rhannol yn ddibynnol ar eu gwobr sy’n cael ei gadarnhau yn y llythyr gwobrwyo. Bydd myfyrwyr sy'n derbyn gwobrau ffioedd rhannol yn destun i'r telerau safonol ar gyfer y balans ffioedd sy'n weddill. Gwnewch yn siŵr bod eich cofnod myfyriwr yn cael ei ddiweddaru gyda'ch manylion banc, er mwyn sicrhau bod taliadau cyflog yn cael eu talu mewn modd amserol.

Mae cyflogau yn cael eu talu bob tri mis, ac wedi eu trefnu ar gyfer dydd Gwener olaf mis Medi, Rhagfyr, Mawrth a Mehefin. Mae taliad mis Medi yn amodol ar gwblhau cofrestru ac fel arfer mae taliad mis Rhagfyr yn gynharach oherwydd bod y Brifysgol wedi cau am gyfnod y Nadolig.

9

Ymgyfarwyddo â’r Porth Myfyrwyr (Argymhell)

Mae’r Porth Myfyrwyr yn borth ar-lein i'w gwneud hi'n haws i chi gael gafael ar y wybodaeth a'r systemau sydd eu hangen arnoch yn ystod eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Wrth i chi symud drwy’r daith i fod yn fyfyriwr yn Aberystwyth, mae'r Porth Myfyrwyr yn rhoi mynediad hawdd i chi at wasanaethau allweddol ar yr adeg iawn, megis:

  • Croeso ac Ymgartrefu
  • Gwybodaeth Benodol Adrannau
  • Llyfrgell a TG
  • Bywyd Campws a llawer mwy

10

Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein (Argymhell)

Bydd y cwrs Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein yn rhoi Gwybodaeth i chi o'r hyn i'w ddisgwyl yn y Brifysgol ac yn rhoi arweiniad i chi i'ch cefnogi i wneud y gorau o'ch amser tra’n astudio gyda ni.

Gallwch weithio drwy ddeunydd Ymsefydlu y Brifysgol yn eich amser eich hun. Archwiliwch yr adrannau, a gwnewch nodiadau o'r hyn rydych chi'n credu fydd o gymorth i chi. Darganfyddwch y Cwrs Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein yma.

11

Gwiriwch fod Brechiadau/Imiwneiddio'n wedi ei ddiweddaru gennych (Hanfodol)

Rydym yn cynghori'n gryf i chi sicrhau bod eich brechiadau Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR) a brechiadau Llid yr Ymennydd ACWY wedi eu diweddaru cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol. Os nad ydych wedi derbyn y rhain eto, neu'n ansicr a ydych wedi, rydym yn awgrymu trafod hyn gyda'ch meddyg.

Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth yma

12

Cwblhewch y broses cyn gofrestru (Hanfodol)

Mae hwn yn gam pwysig yn eich proses gofrestru ac mae angen i chi wneud hyn cyn i chi gyrraedd y campws os gallwch.

Mae myfyrwyr sy'n dechrau cwrs newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y broses cyn-gofrestru er mwyn cofrestru eu dewisiadau modiwl ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Dilynwch e-byst a anfonir atoch gan ein Tîm Gweinyddol Myfyrwyr ynghylch Cyn-Gofrestru.

Myfyriwr Uwchraddedig?

Er gwybodaeth mae’r cam yma yn berthnasol i Fyfyrwyr Ôl-raddedig a addysgir, ond nid yw'n berthnasol i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.

13

Dechreuwch Bacio! (Hanfodol)

Yn aml gall benderfynu beth i'w bacio ar gyfer prifysgol fod yn un o'r rhannau anoddaf o baratoi ar gyfer y brifysgol. Mae hyn yn arbennig o heriol os oes gennych le storio cyfyngedig o ran teithio.

Cofiwch, byddwch yn gallu prynu eitemau rydych chi wedi'u hanghofio neu sydd ddim mor hanfodol naill ai'n lleol neu ar-lein.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio eich dogfennau pwysig. O ddogfennau fel eich pasbort i gopïau presgripsiwn o bosibl, peidiwch ag anghofio dod a’ch dogfennau pwysig gyda chi.

Os ydych chi'n byw yn ein llety prifysgol, er mwyn gweld beth sydd wedi'i gynnwys yn eich ystafell neu'ch fflat, ewch yma: Cyn Cyrraedd  : Llety , Prifysgol Aberystwyth a darganfod beth rydym yn argymell dod gyda chi.

14

Cynllunio eich Taith i Aber (Argymhell)

Trên, car neu awyren? P'un a ydych chi'n dod o wlad wahanol, neu o lawr y ffordd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio eich taith i'r campws ymhell ymlaen llaw.

Mae dod o hyd i ni yn hawdd, pwy bynnag fath o gludiant rydych chi'n penderfynu ei ddefnyddio. Mae gan ein tudalennau Mapiau a Theithio wybodaeth fanwl am gyrraedd Aberystwyth.

Tra bydd llawer o bobl yn gyrru i Aber, efallai yr hoffech ddal y trên. Yn ystod ein Penwythnos Croeso ym mis Medi bydd gennym ein Tîm-A gwych (myfyrwyr presennol) wrth law yng ngorsaf drenau Aberystwyth i'ch croesawu a'ch cefnogi i gyrraedd y Campws.