Croeso gan yr Is-Ganghellor
Llongyfarchiadau a chroeso cynnes iawn i chi i Brifysgol Aberystwyth.
Mi ddechreuais i fel Is-Ganghellor ym mis Ionawr 2024, ac mae’n braf eich croesawu bob un fel y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn fy mlwyddyn academaidd newydd gyntaf. Mae Aber yn arbennig iawn i mi, oherwydd beth amser yn ôl nawr, roeddwn innau hefyd yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf nerfus a newydd, ac yn teimlo’n betrusgar am ddechrau pennod newydd yn fy mywyd.
Rwy’ wrth fy modd â'r Brifysgol hon, ei staff, ei myfyrwyr a'n holl gefnogwyr. Rwy'n gobeithio y cewch chithau hefyd y profiadau cyfoethog, sy’n newid bywyd a gefais i. Dyma'ch lle i dyfu'n academaidd ac yn bersonol, i gyflawni'ch potensial a chreu argraff ar y byd. Ers i ni gael ein sefydlu ym 1872, mae Aberystwyth yn cael ei hadnabod am ei rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.
Ein pwyslais yw sicrhau eich bod yn cael addysg ragorol. Cewch eich addysgu gan academyddion sy'n arweinwyr yn eu pwnc a fydd yn rhannu'r syniadau a'r darganfyddiadau diweddaraf yn eu meysydd gyda chi. Rydym hefyd yn darparu cymorth rhagorol i fyfyrwyr, gyda’r nod o sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau a'ch amser gyda ni yma yn Aberystwyth.
Cyn bo hir byddwch chi'n ymgartrefu yn eich cynefin newydd, wedi'ch amgylchynu gan bobl newydd, profiadau newydd a llu o gyfleoedd newydd.
Gall newid beri gofid weithiau ond gallwn eich sicrhau bod lle i chi yma yn Aber. Pori drwy’r tudalennau gwe hyn yw'r cam cyntaf i ddysgu am bopeth sydd ar gael i'ch helpu a'ch cefnogi wrth i chi ymaddasu i fywyd prifysgol.
Mae'r tudalennau hyn yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr, o'ch gweithgareddau cyn-i-chi-gyrraedd hyd at ymgartrefu, a chyflwyniadau a gweithgareddau’r adrannau academaidd. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth ymarferol ddefnyddiol megis rhestrau gwirio, mapiau a llawer mwy.
Dymunaf yn dda i chi dros y dyddiau a’r wythnosau cyntaf yn Aber, a gobeithio y caf eich croesawu, wyneb yn wyneb, pan gyrhaeddwch chi fis Medi.
Yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor