Sesiynau Sul CroesoAber
Mae Sesiynau Sul CroesoAber yn sgyrsiau wyneb yn wyneb rhyngweithiol i ateb eich holl gwestiynau pwnc llosg wedi cyrraedd Aber.
Bwriad ein Sesiynau Croeso Aber yw darparu gwybodaeth i chi i wneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol. Mae ein myfyrwyr presennol yn rhannu’r hyn bydden nhw wedi hoffi gwybod wrth ddechrau. Mae’r sesiynau hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr newydd ofyn y cwestiynau hynny sy’n bwysig i chi.
Os ydych eisiau gwybod lle sydd orau i gael coffi, sut i fynd ati i reoli gwaith prifysgol ochr yn ochr â chymdeithasu - neu lle i fynd am gymorth pan fydd ei angen arnoch - yna mae’r Sesiynau Sul hyn yn eich gwneud yn fwy hyderus am fywyd fel myfyriwr yma yn Aber.
Fe wnaethon ni recordio'r sesiynau diweddaraf fis Medi diwethaf, a gallwch weld y digwyddiadau Rhyngwladol ac Ôl-raddedig isod.