Myfyrwyr Uwchraddedig

Mae'r dudalen yma wedi ei gynllunio'n benodol i chi, ac yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel myfyriwr sy'n ymuno â'n cymuned uwchraddedig.

Rhestrau Gwirio Croeso

Rydym wedi creu Rhestrau Gwirio Croeso i chi gan fod rhai pethau penodol yr ydym yn argymell i chi wneud cyn i chi gyrraedd Aberystwyth fel eich bod wedi paratoi ac yn barod i allu fwynhau eich wythnosau cyntaf gyda ni.

Mae gennym restrau gwirio cam wrth gam syml, a rhestrau gwirio manylach ar gyfer cofrestru, cyn cyrraedd a chyrraedd. Sylwch fod blychau yn y rhestrau gwirio hyn efo 'Myfyriwr Uwchraddedig?' ynddynt sy'n cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i chi.

Eich Rhestrau Gwirio Croeso

Ysgol y Graddedigion

Mae ein Hysgol i Raddedigion yn cefnogi pob agwedd o’ch amser yn Aberystwyth i wella eich profiad uwchraddedig a'ch helpu i ragori ym mhob maes academaidd o’ch astudiaethau.

Dewch o hyd i wybodaeth ddefnyddiol wedi ei rhannu gan yr Ysgol i Raddedigion yma sy'n ymwneud â lles, cymunedau a rhwydweithiau ymchwil, adnoddau cyfredol, a chysylltiadau defnyddiol eraill.

Ysgol y Graddedigion