CaruAber – Ymgartrefu Estynedig

Dyma dy le i ddarganfod, i ddysgu ac i ddatblygu.

Wrth i chi ddechrau ymgyfarwyddo â'r brifysgol rydym am gefnogi eich cyfnod pontio i'r brifysgol, ac i chi ddod i adnabod y Brifysgol yn well. Mae CaruAber - ein themâu Ymgartrefu Estynedig yn canolbwyntio ar saith elfen allweddol a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch amser gyda ni yn ystod eich cyfnod pontio.

Bydd gennym rai digwyddiadau wedi eu trefnu ynghylch y themau gwahanol, o Gefnogaeth a Lles Aber i Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Cynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu.

Croeso / Welcome
Ymgartrefu Aber
Astudio Aber
Cefnogaeth a Lles Aber
Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber
Amgylchedd a Chynaliadwyedd Aber
Sgiliau Aber
Cymuned a Diwylliant Aber

Astudio Aber

Dyma dy Le i Ddysgu ac i Ddatblygu!

Gyda Astudio Aber, cei ddatblygu arferion da wrth astudio, ac i ymgyfarwyddo â gwasanaethau’r llyfrgell.

Mae gennym rai digwyddiadau wedi eu trefnu ynghylch y thema Astudio Aber yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 30/9/24, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Cynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu.

Gwybodaeth Bellach Astudio Aber

Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber

Dyma dy Le i Brofi Bywyd Go Iawn!

Mae Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber yn galluogi iti ddatblygu ar dy orau. Wrth iti astudio yma, cei wybod am ieithoedd newydd, am gyfleoedd ymarferol i wella dy gyflogadwyedd ac am brofiadau yn y byd mawr y tu hwnt i Aber.

Mae gennym rai digwyddiadau wedi eu trefnu ynghylch y thema Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 14/10/24, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Cynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu.

Gwybodaeth Bellach Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber

Sgiliau Aber

Dyma dy Le i Serennu'n Ddigidol!

Mae Sgiliau Aber yn dy helpu i ehangu, i archwilio ac i wella dy sgiliau digidol fel myfyriwr yma yn Aber. Cei ddysgu sut i ddefnyddio offer chwilio digidol, sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial er gwell, a sut i greu dy gyfrif LinkedIn dy hun, hyd yn oed.

Mae gennym rai digwyddiadau wedi eu trefnu ynghylch y thema Sgiliau Aber yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 28/10/24, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Cynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu.

Gwybodaeth Bellach Sgiliau Aber

Gwybodaeth Bellach

Dy Adran Academaidd

Mae eich Adran Academaidd methu aros i'ch croesawu ar ddechrau Wythnos Groeso Aber 2024 a thu hwnt.

Darganfyddwch yma am ble i fynd, gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i dy helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn rhan o'ch adran newydd.

Bydd cyfleoedd yn ystod yr wythnos a thu hwnt i ddod i adnabod eich tiwtoriaid personol, a dysgu mwy am sut mae eich adran wedi ymrwymo i gefnogi eich llwyddiant academaidd a'ch datblygiad proffesiynol o'r cychwyn cyntaf.

Dy Adran Academaidd