Digwyddiadau Groeso yr Adran Gyfrifiadureg

Croeso i'r Adran Gyfrifiadureg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Cyfrifiadureg ym mis Ionawr. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Llandinam a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Mae gennym weithgareddau wedi'u cynllunio ar eich cyfer yn yr Adran Cyfrifiadureg i'ch helpu i ymgartrefu’n dda, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd fel myfyriwr Cyfrifiadureg. Rydym yn annog pob myfyriwr yn gryf i fynychu'r holl weithgareddau cynefino academaidd a gynhelir yn ystod yr wythnos groeso gan eu bod wedi’u cynllunio i helpu myfyrwyr i ddysgu am strwythur y cwrs a'r cyfleoedd sydd ar gael, cwrdd â'u tiwtor personol a’r staff allweddol eraill yn yr Adran Cyfrifiadureg.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Ionawr yma.