Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
Os yw eich bryd ar fynd yn athro/athrawes neu os yw eich diddordeb mewn addysg fel pwnc a’ch bod eisiau dysgu am ddamcaniaeth a pholisi addysgol, mae'n siŵr bod gradd sy'n addas i chi yn Aberystwyth.
Mae astudio addysg yn cynnwys agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth a hanes, ac mae'n sail ddelfrydol i waith ym mhob math o sectorau. Mae'n ymchwilio i'r ffordd mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylchoedd yn dylanwadu ar eu dysgu, sut mae'r broses o wneud penderfyniadau'n digwydd, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd.
Yma yn Aberystwyth, rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, o cyrsiau gradd mewn astudiaethau Plentyndod ac Addysg i gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon ar lefel meistr, a graddau ymchwil mewn Addysg.
Pam astudio Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Bu'r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol ers canrif a mwy. Ni oedd y sefydliad cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gradd anrhydedd mewn Addysg ac mae ein rhaglen radd Astudiaethau Plentyndod yn rhan hanfodol o'n darpariaeth.
- Cewch gyfle i feithrin dealltwriaeth o'r corff cymhleth o wybodaeth sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar addysg. Byddwn yn eich rhoi mewn sefyllfa i fyfyrio'n feirniadol ar eich dysgu a'ch perfformiad eich hun, ac i reoli’r ddwy agwedd.
- Bydd ein rhaglen Astudiaethau Plentyndod yn archwilio rhai o'r ffactorau cymdeithasegol a seicolegol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant. Hefyd, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gefndir gwleidyddol a deddfwriaethol plentyndod a'r oblygiadau i blant a'u teuluoedd.
- Ar lefel fwy personol, byddwch yn datblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol, yn ogystal â gwella'ch gallu i weithio gydag eraill ym mhob math o gyd-destunau gwahanol. Hefyd cewch gyfle i ddysgu am amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol, er mwyn gwneud dewis gwybodus am y cam nesaf ar ôl graddio.
- Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi. Cyn belled ag y bo modd, yr un tiwtor fydd gyda chi gydol eich gradd. Cewch gyfarfodydd rheolaidd â’r tiwtor, gan gynnwys cymorth i ymgartrefu yn y Brifysgol, ac yn ddiweddarach i siarad am ragolygon gyrfa, dadansoddi adborth eich aseiniad, a thrafod agweddau eraill ar fywyd yn y Brifysgol.