Seicoleg

Gwyddoniaeth y Meddwl ac Ymddygiad yw Seicoleg. Golyga hyn ei fod yn bwnc eang sy'n ceisio deall ymddygiad dynol, o'r esboniadau biolegol o'r ffordd y mae'r ymennydd yn gweithio i'r ddealltwriaeth gymdeithasol o'r ffordd rydym ni'n rhyngweithio gyda'n hamgylchedd ac yn addasu iddo, neu'n newid yn wybyddol wrth fynd yn hŷn.  

Yn ymarferol, gall Seicoleg olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Efallai ein bod yn awyddus i ddeall pam fod rhywun yn hapus neu'n unig, pam fod yr ymennydd yn cofio rhai pethau ddigwyddodd pan oeddem yn bump oed ond yn anghofio beth sydd ar y rhestr siopa heddiw, pam rydym ni'n dewis prynu'r pethau a brynwn, sut mae gwleidyddion yn ennill ein ffydd... neu beidio! Seicoleg yw'r holl bethau hyn a llawer mwy - dyna sy'n ei wneud mor ddiddorol - mae rhywbeth yn y pwnc at ddant pawb. P'un a ydych chi'n diddori mewn addysgu, cwnsela, ymddygiad troseddol neu ddysgu hedfan awyren - bydd agweddau ar seicoleg yn ddefnyddiol i chi.  

BPS
  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym maes Seicoleg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Seicoleg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Seicoleg (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)

Pam astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae pob un o’n cyrsiau israddedig wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), marc ansawdd a gydnabyddir yn eang gan gyflogwyr yn y maes proffesiynol.  
  • Byddwch yn cael eich dysgu gan ymchwilwyr sy'n weithgar ym maes ymchwil mae gan y mwyafrif ohonynt TUAAU neu maent yn gymrodorion/uwch gymrodorion yn yr academi addysg uwch. 
  • Byddwch yn astudio meysydd pwnc craidd BPS megis seicoleg wybyddol, gymdeithasol, fiolegol, dulliau ymchwil a llawer mwy. 
  • Fel rhan o'r prosiect blwyddyn olaf byddwch yn cael arweiniad ym meysydd arbenigedd y staff, sef seicoleg ymarfer corff ac iechyd, seicoleg ddatblygiadol, seicoleg gymdeithasol, seicoleg fiolegol, iaith a dwyieithrwydd, cwnsela a mwy. 
“Rydw i wrth fy modd gyda fy nhiwtoriaid - maen nhw'n wirioneddol anhygoel, yn frwdfrydig ynglŷn â'u meysydd seicoleg penodol ac yn garedig iawn, iawn! Rydw i hefyd wrth fy modd gyda fy adran - newydd, modern a hygyrch! Rydw i wrth fy modd fod y cwrs hwn wedi gwneud imi feddwl yn ddyfnach, mynd ar ôl damcaniaethau newydd a meddwl am syniadau newydd.”
Maryna Chwaszczewska Maryna Chwaszczewska BSc Seicoleg
“Rydw i wrth fy modd yn cael dysgu mwy am bobl trwy ofyn iddyn nhw gymryd rhan yn fy astudiaethau. Rydw i wrth fy modd yn dysgu sut mae'r ymennydd yn gweithio ac yn ymateb i wahanol ysgogiadau. Rydw i wrth fy modd yn ehangu fy ngwybodaeth am wahaniaethau diwylliannol, yn enwedig mewn perthynas â thriniaeth.”
Yvette Lavelle 

 Yvette Lavelle BSc Seicoleg

Cyflogadwyedd

Bydd gradd mewn Seicoleg yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd, ac yn agor drysau i ystod eang o gyfleoedd hyfforddi pellach gan gynnwys: 

  • seicoleg glinigol, addysgol, alwedigaethol, chwaraeon ac ymarfer corff 
  • seicotherapi a chwnsela 
  • gwaith cymdeithasol 
  • gofal iechyd 
  • adnoddau dynol 
  • gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd 
  • marchnata, cyhoeddi, hysbysebu. 



Cyfleusterau

Mae gan yr Adran gyfleusterau addysgu ac ymchwil newydd sbon gan gynnwys offer tracio llygaid, siambrau gwanhau sain, labordy mesuriadau biolegol, ystafelloedd ymchwil ansoddol, ystafelloedd trawsgrifio, ciwbiclau ymchwil arbrofol, cyfleusterau golygu fideo o ansawdd uchel, cyfleusterau EEG ac ystafelloedd gwaith cyfrifiadurol pwrpasol. 

Ymchwil

Mae holl aelodau academaidd yr Adran yn weithgar ym maes ymchwil ac mae trawstoriad eang o ddiddordebau mewn meysydd damcaniaethol a chymhwysol ac ystod o ddulliau ymchwil yn cael eu defnyddio. Cryfderau penodol yr Adran yw seicoleg gymhwysol mewn perthynas â seicoleg traffig a chludiant; iechyd a lles; seicoleg gymdeithasol, gymunedol a chritigol; seicoleg fforensig a throseddol; heneiddio iach; ac iaith ddynol a gwybyddiaeth.  

Mae gan yr Adran ddiwylliant o waith arloesol a chydweithredol sy'n meithrin ymchwil ryngddisgyblaethol, a chysylltiadau ymchwil gyda sefydliadau sy'n amrywio o'r GIG, Swyddfa Cydraddoldebau'r Llywodraeth a heddlu Dyfed-Powys, i sefydliadau masnachol megis Coca Cola a Technogym. 

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.