Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Mae astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i ddeall y byd cyfnewidiol sydd ohoni. Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd, pandemig byd-eang, ansicrwydd a chynnwrf gwleidyddol ac ideolegol, trawsnewidiadau cymdeithasol ac economaidd, a ffurfiau mwyfwy amrywiol o wrthdaro a thrais, mae lles pawb ynghlwm â mynd i'r afael â'r heriau byd-eang hyn. Mae'r byd hwn sy’n mynd yn fwy cyd-gysylltiedig, cystadleuol a chymhleth yn cael ei ail-lunio wrth i bwerau newydd ddatblygu ar y lefelau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol, rhyngwladol a byd-eang.  

Er mwyn eich cynorthwyo i ddeall y ddeinameg hon a magu eich hyder, mae ein cyrsiau yn eich annog i gwestiynu a herio syniadau ac arferion sefydledig. Drwy hynny, gellir datblygu dulliau newydd ac arloesol o feddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, ac o ymgysylltu â materion mewn ffyrdd a all drawsnewid ein cymdeithasau. 

  • Ymhlith y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Gwleidyddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Ymhlith y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd gyda’r Addysgu a’r Adborth ym mhwnc Cysylltiadau Rhyngwladol (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024)
  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Gwleidyddiaeth (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)

Pam astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth?

  • Trwy’r dewis a’r hyblygrwydd yn ein cwricwlwm rydym yn rhoi ein myfyrwyr wrth wraidd eu profiad dysgu eu hunain. Oherwydd hyn gallwch deilwra eich gradd i'ch diddordebau eich hun. 
  • Bydd myfyrwyr yn archwilio ac yn mynd i'r afael â heriau byd-eang, o lefel leol i lefel y blaned gyfan, ac fe gyflwynir iddynt ffyrdd deinamig ac amrywiol o edrych ar y byd. 
  • Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu sy’n arloesol a diddorol, o chwarae rhannau ac efelychiadau i weithdai a chyflwyniadau grŵp. 
  • Seilir ein haddysgu ar ymchwil rhagorol sy’n flaengar yn rhyngwladol a byd-eang. 
  • Byddwch yn datblygu cyfres o alluoedd sy'n hanfodol i’ch gwneud yn fwy cyflogadwy, yn amrywio o ddadansoddi a dadlau i roi cyflwyniadau ac ysgrifennu adroddiadau.  
  • Bydd myfyrwyr yn elwa o'r rhwydweithiau sydd gennym ledled y byd, ac yn cysylltu ag arbenigwyr sy’n weithredol yn y maes, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. 
  • Caiff myfyrwyr fwynhau amrywiaeth o weithgareddau cyffrous, megis ein Gemau Argyfwng enwog i fyfyrwyr (efelychiadau), rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol, a Lleoliadau Seneddol. 
  • Mae'r Brifysgol yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd ac mae hyn yn creu amgylchfyd bywiog ac eangfrydig er mwyn trafod a dysgu. 
  • Yn olaf, rydyn ni'n gymuned fywiog, agos atoch, ddeallusol mewn tref ddiogel, fforddiadwy a chyfeillgar. 
“Bu'r addysgu yn yr holl fodiwlau yn gyson o ansawdd uchel ac yn ddiddorol iawn, yn enwedig mewn seminarau, sy'n rhoi mwy o le i drafod. Mae modiwlau nid yn unig yn cael eu haddysgu'n dda, ond mewn ffordd sy'n sbarduno chwilfrydedd y myfyriwr ac yn gwneud i chi fod eisiau dysgu mwy am y pwnc. Ond, mae astudio yn Aber yn golygu llawer mwy na dim ond aros yn eich adran. Gyda’r holl glybiau a chymdeithasau sydd yma, mae cymuned i bawb a llawer o gyfeillgarwch yn aros amdanoch. ”
Sarah Lehmkuehler Sarah Lehmkuehler BA Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyflogadwyedd

Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn feysydd addas i'r rhai sydd am ail-lunio’r byd o'u cwmpas, ac mae gradd yn y maes yn rhoi'r sylfaen ar gyfer mynd ar drywydd yr uchelgais hwn. Bydd ein dulliau dysgu ac addysgu yn rhoi cyfres o alluoedd i chi sy'n drosglwyddadwy i yrfaoedd yn y dyfodol, gan gynnwys ymchwilio, rhoi cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, ysgrifennu adroddiadau polisi a thestunau mynegi barn, doniau trafod a negodi, a llawer mwy. 

Wrth astudio gyda ni, cewch hefyd gyfle i ddatblygu ac archwilio nifer o brofiadau a dewisiadau yn y gweithle. Bydd cyfle i gymryd rhan yn y Cynllun Lleoliadau Seneddol, sy'n gyfle eithriadol i gael cipolwg ar fyd go iawn gwleidyddiaeth ac ar yr un pryd yn rhoi profiad gwaith amhrisiadwy a fydd yn sefyll allan ar eich CV.  Os ydych yn astudio un o'n rhaglenni gradd gyda 'Blwyddyn mewn Diwydiant', byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gweithio gyda sefydliad neu gwmni sy'n berthnasol i'ch astudiaethau. Mae gennym hefyd gynllun mentora gan gyn-fyfyrwyr, i gynorthwyo gyda syniadau ar gyfer datblygu gyrfa a meddwl trwy'r cyfnod pontio o'r brifysgol i'r camau cyntaf ar yr ysgol yrfa. 

Ar ben hyn, gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol eich helpu i gydnabod yr hyn rydych chi'n ei wneud yn dda, a ble yr hoffech chi ddatblygu eich gyrfa. Mae hefyd yn cynnig agoriadau i chi gael eich rhagflas cyntaf ar waith a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.  

Aeth ein graddedigion ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn y meysydd isod: 

  • y gwasanaeth sifil, gan gynnwys diplomyddiaeth a gwasanaethau diogelwch 
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol 
  • sefydliadau anllywodraethol 
  • sefydliadau rhyngwladol 
  • newyddiaduraeth, gan gynnwys print, teledu ac ar-lein 
  • addysgu mewn ysgolion a cholegau 
  • cyfathrebu a materion cyhoeddus  
  • y sector preifat, gan gynnwys dadansoddi ymchwil a rheoli risg 
  • y lluoedd arfog. 

A chan fod rhai ohonynt gymaint wrth eu bodd yn astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol maent yn aros ymlaen yn y byd academaidd ac yn datblygu’n ysgolheigion amlwg yn y maes!

Ymchwil

Rydym yn ganolfan ymchwil ym maes cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth ac mae ein gwaith arloesol yn ein gwneud yn arweinwyr byd-eang yn y maes. Mae ein staff a'n huwchraddedigion yn gwneud ymchwil i rai o'r heriau byd-eang anoddaf a phwysicaf sy’n wynebu cymunedau ar hyn o bryd - o gwestiynau ynglŷn â gwrthdaro, rhyfel, arfau niwclear a diogelwch i faterion yn ymwneud â mudo, datblygu, democratiaeth, iechyd byd-eang, a'r amgylchedd. Rydym hefyd yn astudio prosesau gwleidyddol yn y Deyrnas Gyfunol a'r gwledydd cartref cyfansoddol, ac mae gennym arbenigedd rhanbarthol yng ngwleidyddiaeth Ewrop, y Dwyrain Canol, Rwsia, America Ladin, gwledydd BRICS, ac UDA. 

Ein nod trwy ein gwaith ymchwil yw datblygu safbwyntiau beiddgar newydd ynglŷn â'r modd y gellir dirnad a chyd-drafod y rhyng-gysylltiadau byd-eang o'n cwmpas, sy'n gallu bod yn drafferthus ar adegau. Wrth wneud hyn, rydym hefyd yn cydweithio â llunwyr polisi i ddatblygu syniadau newydd a chadarn a all arwain at newid. O gydweithio â'r rhai sy'n cyfrannu at gymdeithas sifil i ddylanwadu ar weithredwyr cenedlaethol a byd-eang, ein nod yw bod wrth wraidd y gwaith o rannu ein hymchwil â rhanddeiliaid perthnasol ac â’r cyhoedd. 

Mae'r ystod eang o safbwyntiau a diddordebau wedi'u hadlewyrchu yn yr amrywiaeth cyfoethog o grwpiau ymchwil sydd yn yr Adran. Mae'r rhain yn gwasanaethu uwchraddedigion a staff. Eu nod yw caniatáu arbenigedd o fewn cymunedau o arbenigwyr, a hynny yng nghyd-destun y gymuned ymchwil gyfeillgar yn Aberystwyth. 

Yn olaf, gan adlewyrchu natur arloesol ein hymchwil, rydym wedi cael ein hystyried yn gyson yn rhagorol yn rhyngwladol ac yn arwain y byd yn asesiadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.