Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Os ydych chi wrth eich bodd yn byw mewn byd llawn dychymyg a chreadigrwydd, bydd astudio am radd ym maes Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gweddu i chi i'r dim. Os mai Llenyddiaeth yw’ch hoff beth, ymunwch â ni i archwilio’r amrywiaeth ehangaf posibl o destunau llenyddol a diwylliannau, gyda dewisiadau rhagorol o gyfnod yr oesoedd canol hyd heddiw. Os mai Ysgrifennu Creadigol sy’n mynd â’ch bryd chi, dewch i ddysgu’r grefft o ysgrifennu: barddoniaeth, ysgrifennu ffuglennol, ysgrifennu ffeithiol, sgriptio a mwy. Gallwch gyfuno’r ddau beth hyd yn oed.
Efallai mai defnydd iaith sydd yn eich diddori yn fwy na dim, ac os felly gallwch ddewis Astudiaethau Saesneg gydag un o’r cyfuniadau sydd ar gael – Newid Hinsawdd neu TESOL. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr a beirniadol o’r dadleuon sy’n ymwneud â delfrydeg ac sy’n dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn darllen ac yn ysgrifennu, yn herio ein canfyddiadau o’r llefydd yr ydym yn darllen ac yn ysgrifennu amdanynt, ac yn cwestiynu pwy ydym.
Pa lwybr bynnag a ddewisir gennych, cewch ddatblygu eich grym mynegiant, mireinio eich meddwl beirniadol, a sefydlu gwybodaeth arbenigol a sgiliau ymchwil - hyn oll o fewn dealltwriaeth fanwl ac eang o hanes llenyddol a dealltwriaeth gymhwysol am ddamcaniaeth lenyddol.
Pam astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr y diwydiant, ac awduron cyhoeddedig o bob maes.
- Mae ein staff yn ysgrifenwyr ac yn awduron cyhoeddedig adnabyddus sy’n cwmpasu pob math o genres llenyddol. Maent hefyd yn arwain yn eu meysydd arbenigedd ledled y byd.
- Cewch gyfleoedd i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o lenyddiaeth a hanes diwylliannol, ac i gyfuno meddwl yn feirniadol ag ysgoloriaeth.
- Byddwch yn archwilio damcaniaeth llenyddol – syniadau athronyddol a chysyniadol sy’n hysbysu, herio ac yn cymhlethu'r ffordd yr ydym yn darllen.
- Cewch eich annog i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol a beirniadol ac i ehangu eich cwmpawd a’ch galluoedd fel ysgrifenwyr, i'ch galluogi i weithio’n hyderus ar draws amrywiaeth o ffurfiau a genres.
- Byddwch yn ymuno â chymuned glòs o fyfyrwyr a staff mewn lle sy’n llawn egni a syniadau newydd, ac fe gewch gyfle i weithio â phobl eraill sydd yr un mor frwdfrydig â chi am Saesneg, ar ei holl ffurfiau.
- Byddwch wedi eich amgylchynu gan dirlun godidog. Byddwch yn siŵr o gael eich ysbrydoli gan yr harddwch naturiol a fydd o’ch cwmpas ym mhobman yn ystod eich taith academaidd.
- Os byddwch yn astudio Ysgrifennu Creadigol, fe gewch chi’r cyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.