Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Os yw eich bryd ar fynd yn athro/athrawes neu os yw eich diddordeb mewn addysg fel pwnc a’ch bod eisiau dysgu am ddamcaniaeth a pholisi addysgol, mae'n siŵr bod gradd sy'n addas i chi yn Aberystwyth. 

Mae astudio addysg yn cynnwys agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth a hanes, ac mae'n sail ddelfrydol i waith ym mhob math o sectorau. Mae'n ymchwilio i'r ffordd mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylchoedd yn dylanwadu ar eu dysgu, sut mae'r broses o wneud penderfyniadau'n digwydd, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd. 

Yma yn Aberystwyth, rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, o cyrsiau gradd mewn astudiaethau Plentyndod ac Addysg i gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon ar lefel meistr, a graddau ymchwil mewn Addysg. 

social care wales
  • Ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym mhwnc Addysg (Complete University Guide 2024)
  • Ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym mhwnc Addysg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Ar y brig yng Nghymru ac 2il yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym mhwnc Addysg (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)

Pam astudio Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Bu'r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol ers canrif a mwy.  Ni oedd y sefydliad cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gradd anrhydedd mewn Addysg ac mae ein rhaglen radd Astudiaethau Plentyndod yn rhan hanfodol o'n darpariaeth. 
  • Cewch gyfle i feithrin dealltwriaeth o'r corff cymhleth o wybodaeth sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar addysg.  Byddwn yn eich rhoi mewn sefyllfa i fyfyrio'n feirniadol ar eich dysgu a'ch perfformiad eich hun, ac i reoli’r ddwy agwedd. 
  • Bydd ein rhaglen Astudiaethau Plentyndod yn archwilio rhai o'r ffactorau cymdeithasegol a seicolegol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant. Hefyd, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gefndir gwleidyddol a deddfwriaethol plentyndod a'r oblygiadau i blant a'u teuluoedd. 
  • Ar lefel fwy personol, byddwch yn datblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol, yn ogystal â gwella'ch gallu i weithio gydag eraill ym mhob math o gyd-destunau gwahanol. Hefyd cewch gyfle i ddysgu am amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol, er mwyn gwneud dewis gwybodus am y cam nesaf ar ôl graddio. 
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi. Cyn belled ag y bo modd, yr un tiwtor fydd gyda chi gydol eich gradd. Cewch gyfarfodydd rheolaidd â’r tiwtor, gan gynnwys cymorth i ymgartrefu yn y Brifysgol, ac yn ddiweddarach i siarad am ragolygon gyrfa, dadansoddi adborth eich aseiniad, a thrafod agweddau eraill ar fywyd yn y Brifysgol. 
“Dair blynedd yn ddiweddarach, dwi yma o hyd! Mae pawb yn meddwl bod gradd Anrhydedd Cyfun yn anoddach, ond dyw hynny ddim yn wir. Mae'r ddau bwnc yn cael eu dysgu'n gyfartal, ac mae'n hawdd rheoli'r llwyth gwaith. Dwi'n hoffi fel mae'r radd hon yn cynnig amrywiaeth ac mae'r modiwlau'n hynod gyffrous a diddorol. Byddwn yn argymell gradd anrhydedd cyfun i unrhyw un sy'n ansicr o’r hyn yr hoffen nhw ei wneud yn y dyfodol ond sy'n caru dau bwnc. ”
Steph Moore Steph Moore BA Addysg a Drama/Theatr
“Yn wreiddiol roeddwn i eisiau mynd ar drywydd menter busnes ar ôl graddio, ond tra’n astudio’r amrywiol fodiwlau, cefais flas ar ddysgu a oedd yn anodd i’w anwybyddu. Fe benderfynes i mai dal ati i astudio ym maes ymchwil addysgol oedd y llwybr roeddwn i am ei ddilyn. Erbyn hyn, rwy’n fyfyriwr doethuriaeth ôlraddedig (PhD). Testun fy ymchwil doethuriaeth yw cyfoedion yn mabwysiadu strategaethau ymddygiad ‘sy’n hybu cymdeithas’. Rwy’n gobeithio datblygu a pheilota fy strategaeth atal/ymyrryd am w”
Annabel Annabel BA Addysg

Cyflogadwyedd

Rydyn ni'n canolbwyntio ein cyrsiau ar gyflogadwyedd er mwyn sicrhau proses bontio ddidrafferth o fyd y campws i fyd gyrfaol. Mae ein holl gyrsiau yn rhoi’r cyfle i feithrin sgiliau cyflogadwyedd a phriodoleddau a gwerthoedd personol sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg bellach. 

Yma yn yr Ysgol Addysg, rydyn ni'n annog ein myfyrwyr i wirfoddoli, naill ai gartref neu yn yr ardal leol, gan fod profiad ymarferol bob amser yn werthfawr wrth benderfynu ar yrfa i’r dyfodol a pharatoi ceisiadau am swyddi. 

Hefyd, mae gennym Gydlynydd Cyflogadwyedd sy'n trefnu cynadleddau a sesiynau rheolaidd gyda siaradwyr o bob math o yrfaoedd. 

Gwyddom fod llawer o'n myfyrwyr yn ystyried gyrfa ym myd addysg, naill ai yn y sector Cynradd neu Uwchradd. Er hynny, dydy gyrfa addysgu ddim yn apelio at bawb, ac mae rhai o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn meysydd eraill fel nyrsio, therapi lleferydd, gwaith cymdeithasol, lles plant, therapi chwarae, cyfraith plant, polisi addysgol, a gwaith elusennol. 

Beth bynnag ddaw yn y dyfodol, cewch sicrwydd o sylfaen drylwyr yn eich pwnc a byddwch yn datblygu medrau a gwybodaeth a fydd yn berthnasol i lawer o feysydd cyflogaeth. 






Ymchwil

Mae gan yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth hanes hir o weithio ar flaen y gad ym maes ymchwil addysg. 

Mae pob darlithydd yn yr Ysgol Addysg yn ymchwilwyr gweithgar ac yn defnyddio eu hymchwil i lywio eu haddysgu. Mae hyn yn golygu eich bod chi, ein myfyrwyr, yn elwa ar yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf yn y pwnc, gan eich galluogi i fynd i’r afael yn feirniadol â'r materion allweddol. 

Mae ymchwil yr Ysgol Addysg yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: 

  • addysgu, dysgu ac addysgeg 
  • astudiaethau plentyndod 
  • polisi addysgol. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.