Y Biowyddorau
Mae’r Biowyddorau yn ymwneud ag astudio prosesau sylfaenol bywyd, a bywyd ei hun, ynghyd ag organebau byw - o ymddygiad celloedd sengl i ecosystemau cyfan. O fioleg a biotechnoleg i eneteg a microbioleg, yn Aberystwyth cewch ystod eang o gyrsiau i ddewis o’u plith ym maes y Biowyddorau.
Mae ein strwythurau gradd hyblyg yn eich galluogi i arbenigo mewn maes penodol neu astudio ystod ehangach o bynciau o fewn y Biowyddorau, gan olygu nad oes angen ichi gyfyngu eich dewisiadau.
Pa ddisgyblaeth bynnag y byddwch yn ei dewis, cewch addysg o ansawdd uchel, labordai o'r radd flaenaf ac offer arloesol yn ein hadran ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol, a’r cyfan yn creu profiad dysgu gwych ichi.
Pam astudio y Biowyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Byddwch yn cael eich dysgu gan staff brwd, ymroddedig a chyfeillgar sy’n arbenigo yn yr ystod lawn o bynciau biolegol.
- Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o ddosbarthiadau labordy a dosbarthiadau maes er mwyn datblygu eich sgiliau gwyddonol ymarferol, a fydd yn hanfodol ar gyfer eich dyfodol.
- Byddwn yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol a'ch ymarfer gwyddonol cyffredinol.
- Cewch ddefnyddio ein hystafelloedd bioddelweddu a microsgopeg, ein labordai modern a’n cyfleusterau eplesu.
- Cewch hefyd fanteisio ar ein ffermydd a’n coetiroedd er mwyn gallu astudio microbau amgylcheddol a'r rhai sy'n effeithio ar iechyd anifeiliaid.