Gwyddorau Anifeiliad a Gwyddor Ddyfrol

Os yw iechyd, lles a chadwraeth anifeiliaid a’r egwyddorion gwyddonol sy’n sail i hynny yn flaenoriaeth i chi, yna bydd yr ystod eang o gyrsiau a gynigiwn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich rhoi ar y trywydd iawn i gael gyrfa yn y meysydd pwysig hyn lle ceir galw mawr am weithwyr. 

Gallwch ddysgu sut a pham mae anifeiliaid yn ymddwyn fel y maent, er mwyn gwella lles anifeiliaid, a gallwch ddatblygu sgiliau gwyddonol gwerthfawr sy'n ymwneud ag anifeiliaid dof ac anifeiliaid gwyllt. Gallwch astudio maeth, bridio, ffrwythlondeb, iechyd, ymddygiad, ffisioleg ac anatomeg ystod eang o anifeiliaid dof, gan gynnwys anifeiliaid fferm, ceffylau, anifeiliaid anwes a anifeiliaid ddyfrol.  

Manteisiwn i'r eithaf ar ein hamgylchedd er mwyn i chi gael datblygu eich sgiliau gwaith maes pan fyddwch yn astudio gyda ni. Byddwch yn gwneud hyn i gyd yng ngefn gwlad gwyllt a hardd y gorllewin,  sy'n gartref i ddolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd yr Iwerydd, y bele, dyfrgwn, gweilch y pysgod a barcudiaid coch. 

RSB
  • Yn y 10 uchaf yn y DU am Foddhad Myfyrwyr ym maes Gwyddor Anifeiliaid (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am fodlonrwydd gyda'r Addysgu ym maes Gwyddor Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth (Tabl Cynghrair y Guardian 2024)
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ym maes Gwyddor Anifeiliaid (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)

Pam astudio Gwyddorau Anifeiliad a Gwyddor Ddyfrol?

  • Rydym ni’n cynnig cyfuniad cyffrous o theori academaidd a sgiliau maes ymarferol, a chewch gyfle i ymgymryd â gwaith maes dramor yn ogystal ag yn y DU. 
  • Mae ein staff dysgu yn teimlo’n angerddol dros eu pwnc ac yn cynnal ymchwil ym mhob maes o wyddor anifeiliaid a gwyddor ddyfrol.  
  • Rydym yn cynnig ystod eang o fodiwlau, sy'n eich galluogi i arbenigo neu i gadw cwmpas astudio ehangach.    
  • Bydd amrywiaeth o anifeiliaid dof bach a mawr ar gael i chi at ddibenion ymchwil ymddygiad anifeiliaid drwy ein ffermydd, ein canolfan geffylau a’n canolfan addysg filfeddygol.   
  • Cewch gyfleoedd i weld rhywogaethau anifeiliaid cyffredin a phrin sy’n chael yn Aberystwyth a'r cyffiniau. 
  • Gallwch grwydro drwy rai o’r cynefinoedd prydferth yn ardal Aberystwyth, gan gynnwys cynefinoedd morol, gweundiroedd, mynyddoedd, glaswelltir a choedwigoedd, fydd yn cynnig amrywiaeth aruthrol o gyfleoedd ar gyfer gwaith maes a hamddena. 
“Astudio Gwyddor Anifeiliaid yn Aberystwyth oedd y profiad gorau a gefais erioed. Yn ogystal â rhoi cipolwg i mi ar y maes yr oeddwn yn awyddus i gael gyrfa ynddo, roedd hefyd yn fy mharatoi ar gyfer fy mywyd y tu allan i'r Brifysgol. Mae modiwlau mewn maeth, bridio anifeiliaid, iechyd anifeiliaid, ac eraill, i gyd erbyn hyn yn chwarae rhan fawr yn fy ngwaith o ddydd i ddydd. ”
Sarah Sarah BSc Gwyddor Anifeiliaid.
“Gwneud Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd penderfyniad gorau fy mywyd – fe wnaeth fy ffurfio i fod y person yr ydw i heddiw. Roedd pawb mor gyfeillgar ac roedd y cwrs wedi'i osod ar y lefel gywir gyda chyfleusterau gwych, o astudio yn y llyfrgelloedd, i'r sesiynau ymarferol yn y labordai a'r maes. Fe wnaeth fy nghwrs fy helpu drwy roi cipolwg i mi ar y diwydiant ffermio ochr yn ochr â gwybodaeth fanwl am anatomeg a ffisioleg yr anifeiliaid rwy'n gweithio gyda nhw bob dydd.  ”
Dawn Dawn BSc Gwyddor Anifeiliaid
“Y rhan orau am y cwrs MSc Gwyddor Ceffylau yn Aberystwyth oedd cael y cyfle i herio’r doethineb gonfensiynol ynglŷn â llawer o'r arferion cyffredin cysylltiedig â cheffylau, a hynny mewn amgylchedd lle mae ymchwil a dysg yn cael eu hannog gyda meddwl agored ac ysbryd bywiog.”
Anna Babin Anna Babin MSc Gwyddor Ceffylau
“Dewis mynychu Prifysgol Aberystwyth i astudio gradd israddedig yw un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed, mae’r profiad mor unigryw o’i gymharu â phrofiadau fy ffrindiau a aeth i rywle arall. Mae'r cyfleusterau'n wych, mae staff y cwrs yn gefnogol ac yn groesawgar, ac mae'r dref yn gwbl unigryw. Aberystwyth yw'r rheswm fy mod i yn y lle rydw i heddiw, ac fe fydda i'n fythol ddiolchgar am hynny.”
Lois Upton Lois Upton BSc Gwyddor Ceffylau
“Fe wnes i fwynhau fy amser yn astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ac rwy'n gallu cymhwyso gwahanol agweddau ar yr hyn a ddysgais yn ystod fy nhair blynedd i'm swydd bresennol, er nad yw’n cysylltu'n uniongyrchol â’m cwrs. Roedd elfennau ymarferol fy nghwrs yn rhagorol, yn enwedig y ddwy daith maes yn y drydedd flwyddyn.”
Rebecca Rebecca BSc Bioleg y Môr a Dŵr Croyw
“Rhoddodd y cwrs sylfaen dda i mi ym mhob agwedd ar fioleg y môr a dŵr croyw. Roedd digon o gyfleoedd i wneud gwaith maes ar y cwrs, gan gynnwys y prosiect traethawd hir, a wnaeth fy mharatoi ar gyfer y sgiliau arolygu sydd eu hangen yn fy swydd bresennol.”
Laura Laura BSc Bioleg y Môr a Dŵr Croyw

Cyflogadwyedd

Mae astudio gwyddor anifeiliaid a gwyddor ddyfrol yn addas i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella eu cyflogadwyedd mewn meysydd fel cadwraeth anifeiliaid, gofal a lles anifeiliaid, neu ymchwil i ymddygiad anifeiliaid, ond mae hefyd yn datblygu sgiliau ystod eang o sgiliau i chi fel arsylwi, ymchwilio, dadansoddi data a sgiliau ymddygiadol y mae cyflogwyr yn eu mynnu mewn amrywiaeth o broffesiynau lefel gradd. 

Gall cyfleoedd gyrfa gynnwys: 

  • maethegydd anifeiliaid 
  • ymgynghori ecolegol  
  • rheoli amgylcheddol a chadwraeth  
  • dyframaeth  
  • swyddog pasbortau anifeiliaid 
  • arolygydd RSPCA 
  • Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt 
  • swyddogion i gyrff y Llywodraeth gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd a Chanolfan yr Amgylchedd, a physgodfeydd  
  • Sefydliadau Anllywodraethol 
  • newyddiaduraeth wyddonol
  • busnesau amaethyddiaeth
  • addysgu ac ymchwil. 




Cyfleusterau

  • Mae gan y Brifysgol dros 800ha o dir ffermio, gan gynnwys ffermydd defaid iseldir ac ucheldir, buches odro 350 buwch, a systemau cynhyrchu cig eidion dwys a llai dwys.   
  • Mae gennym ni ganolfan Geffylau wych gydag arena farchogaeth dan do o faint Olympaidd, ysgol pob tywydd, lloc crwn, man cerdded ceffylau, cytiau rhydd a chytiau arddangos, a set lawn o neidiau sioe a llenwyddion.  Ein hiard geffylau fodern gyda chyfarpar da yw’r unig iard ymchwil ceffylau drwyddedig lawn ym Mhrydain y tu allan i golegau milfeddygol.  
  • Mae gennym acwariwm modern lle y cedwir rhywogaethau dŵr oer a trofannol, morol a dŵr croyw.   
  • Mae yma ddau gwch ymchwil morol: cwch 6.5m aer caled (RIB) a chatamarán 10 metr Cheetah a adeiladwyd yn benodol ar gyfer y brifysgol, sy'n gallu cario hyd at 12 o deithwyr a chriw, ynghyd ag offer samplo gwaith maes eigioneg ac offer plymio gwyddonol cysylltiedig. 
  • Mae gennym gasgliad helaeth o sbesimenau sŵolegol yn ein hamgueddfa.   

Ymchwil

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth Twbercwlosis Buchol (CBTB) yn cynnal ymchwil rhyngddisgyblaethol i ddeall bioleg haint M. bovis i roi sylfaen i’r gwaith sy’n datblygu a defnyddio profion diagnostig newydd a brechlynnau yn erbyn bTB. Mae hefyd yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol i'r llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol eraill ar ddileu TB.   

Mae Canolfan a Labordai Milfeddygol1 y Brifysgol yn hwyluso cydweithredu rhwng academyddion a’r diwydiant ym meysydd iechyd anifeiliaid, milheintiau, a diagnosteg filfeddygol er mwyn gallu datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a gwell ar gyfer y diwydiant iechyd anifeiliaid. Mae Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn helpu i ganfod pathogenau, a dyma’r unig labordy cyfyngu lefel-uchel (CL3 a CL2) (sydd ar gael i fusnesau) yn y Canolbarth lle y gellir gweithio ar ficro-organebau pathogenig. Mae’n cydweithredu â chwmnïau i ddatblygu gweithgareddau ymchwil/masnachol sy'n targedu clefydau sydd o bwys o safbwynt iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd.   

Mae’r g Grŵp Ymchwil Bioleg Ddyfrol, Ymddygiadol ac Esblygol yn defnyddio ymagweddau rhyngddisgyblaethol at ddiddordeb sy’n uno: sut mae anifeiliaid yn addasu i’w hamgylchedd. O fewn y nod hwn rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau maes a labordy i ymchwilio i gwestiynau allweddol mewn ecoleg, esblygiad ac ymddygiad poblogaethau gwyllt. 

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.