Biocemeg a Geneteg

Mae gan eneteg botensial di-ben-draw, bron, i’n cynorthwyo i ddeall iechyd a chlefydau dynol, esblygiad ac amrywiaeth pethau byw. I ategu hyn, mae biocemeg yn rhoi dealltwriaeth fecanistig o sut mae prosesau cemegol yn pennu bioleg organeb.  

Wrth astudio gyda ni, byddwch yn cael sylfaen drylwyr mewn gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â’r pwnc, yn ogystal â datblygu sgiliau mewn protocolau ac arferion gwyddonol, sy'n hanfodol os ydych am ddilyn gyrfa wyddonol.  

Royal Society of Biology Accredited Degree.
  • Ar y Brig yn y DU am Foddhad Myfyrwyr ym maes pwnc Geneteg (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)
  • Yn y 10 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ag Ansawdd y Dysgu ym maes Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 10 uchaf yn y DU am Foddhad gydag Adborth ym maes Bioleg (Tabl Cynghrair y Guardian 2024)

Pam astudio Biocemeg a Geneteg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau ymarferol a sgiliau labordy fel bod ein graddedigion yn dod yn ymarferwyr o'r cychwyn cyntaf.  
  • Rydym yn sicrhau bod gan ein myfyrwyr y sgiliau i gyfleu eu gwyddoniaeth yn effeithiol fel y gallant ymuno â thrafodaethau ynghylch geneteg - maes sydd, yn aml, yn un dadleuol. 
  • Mae ein graddau ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant i sicrhau eich bod gam ar y blaen wrth ichi ymuno â’r farchnad swyddi pan fyddwch yn graddio.
“Rhoddodd fy ngradd mewn Geneteg a Biocemeg sylfaen dda i mi, gan fy mharatoi yn arbennig o dda ar gyfer fy noethuriaeth. Fe wnaeth y modiwl ‘Molecular Biology of Development’ fy ysbrydoli i weithio ym maes Bioleg Ddatblygiadol, a dyna’r maes rwy’n gweithio arno heddiw. Byddaf yn fythol ddiolchgar am y cyfle a’r addysg a gefais. ”
Roger - Athro Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen  Roger - Athro Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen BSc Biocemeg a Geneteg
“Mae Biocemeg yn gwrs diddorol a chystadleuol iawn sy'n fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth am wyddoniaeth a meysydd meddygol. Drwy gydol y cwrs Biocemeg rwyf wedi datblygu fy sgiliau ymarferol gan fy mod wedi treulio llawer o amser yn y labordai, a chymryd rhan mewn llawer o arbrofion yn ystod y flwyddyn academaidd. ”
Madalina Dragomir Madalina Dragomir BSc Biocemeg a Geneteg

Cyflogadwyedd

Bydd ein graddau yn golygu eich bod yn gymwys ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd sy'n ymwneud yn benodol â'r ddisgyblaeth, megis gwyddor ac ymchwil fiofeddygol, biotechnoleg, gwyddor fforensig, cytogeneteg glinigol, cwnsela genetig a'r diwydiant fferyllol. Mae cyfleoedd eraill hefyd ar gael yn y sector bwyd a diod, a'r diwydiant gofal iechyd a harddwch.  

Hefyd, ceir galw mawr ymhlith cyflogwyr ym mhob maes am y sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu, o ddysgu i reoli.   






Cyfleusterau

Mae gennym labordai ymchwil a dysgu eang sy’n llawn o’r cyfarpar diweddaraf, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwybwn uchel a llwyfannau proteomeg, metabolomeg, ffenomeg a sbectrosgopeg. 

Ymchwil

Mae ein darlithwyr yn ymchwilwyr gweithgar, ac mae eu prosiectau diweddaraf yn cynnwys:  

  • datblygu cyffuriau newydd ar gyfer trin rhai o'r clefydau parasitig pwysicaf yn y byd, sydd wedi’u hesgeuluso i raddau helaeth gan wyddonwyr, gan gynnwys Schistosomiasis
  • datblygu technolegau diagnostig newydd ar gyfer canfod clefydau cronig yn gynnar mewn pobl ac anifeiliaid. 
  • dilyniannu genom y glaswellt Miscanthus, gan hwyluso gwaith i’w ddatblygu fel ffynhonnell isel ei charbon ar gyfer cynhyrchu trydan. 
  • datblygu prawf chwyldroadol i brofi wrin er mwyn mesur biofarcwyr cemegol i wirio ansawdd deiet y claf. 
  • mireinio sgil-gynnyrch naturiol mycoprotein (y prif gynhwysyn ym mhob cynnyrch ‘Quorn’) i’w droi’n ychwanegyn a fydd yn golygu y gellir defnyddio llai o halen mewn bwydydd pecyn heb golli blas. 
  • datblygu offer newydd ar gyfer bridio planhigion, gan helpu i ddatblygu cenhedlaeth newydd o gnydau sy'n barod ar gyfer y dyfodol. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.