Y Biowyddorau

Mae’r Biowyddorau yn ymwneud ag astudio prosesau sylfaenol bywyd, a bywyd ei hun, ynghyd ag organebau byw - o ymddygiad celloedd sengl i ecosystemau cyfan. O fioleg a biotechnoleg i eneteg a microbioleg, yn Aberystwyth cewch ystod eang o gyrsiau i ddewis o’u plith ym maes y Biowyddorau.   

Mae ein strwythurau gradd hyblyg yn eich galluogi i arbenigo mewn maes penodol neu astudio ystod ehangach o bynciau o fewn y Biowyddorau, gan olygu nad oes angen ichi gyfyngu eich dewisiadau.    

Pa ddisgyblaeth bynnag y byddwch yn ei dewis, cewch addysg o ansawdd uchel, labordai o'r radd flaenaf ac offer arloesol yn ein hadran ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol, a’r cyfan yn creu profiad dysgu gwych ichi.   

Royal Society of Biology Accredited Degree.
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am Foddhad Myfyrwyr ym maes Bioleg (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)
  • Yn y 10 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ag Ansawdd y Dysgu ym maes Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 10 uchaf yn y DU am Foddhad gydag Adborth ym maes Bioleg (Tabl Cynghrair y Guardian 2024)

Pam astudio y Biowyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff brwd, ymroddedig a chyfeillgar sy’n arbenigo yn yr ystod lawn o bynciau biolegol.  
  • Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o ddosbarthiadau labordy a dosbarthiadau maes er mwyn datblygu eich sgiliau gwyddonol ymarferol, a fydd yn hanfodol ar gyfer eich dyfodol. 
  • Byddwn yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol a'ch ymarfer gwyddonol cyffredinol. 
  • Cewch ddefnyddio ein hystafelloedd bioddelweddu a microsgopeg, ein labordai modern a’n cyfleusterau eplesu. 
  • Cewch hefyd fanteisio ar ein ffermydd a’n coetiroedd er mwyn gallu astudio microbau amgylcheddol a'r rhai sy'n effeithio ar iechyd anifeiliaid. 
“Mae'r cwrs yn un eang iawn ac yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau astudio bioleg. Mae'r modiwlau yn yr ail flwyddyn yn eich galluogi i arbenigo mewn meysydd pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae hyblygrwydd y cynllun gradd yn ddeniadol iawn i ddarpar fyfyrwyr nad ydynt yn sicr eto ym mha faes y maent yn ymddiddori o ddifrif. Mae'r sesiynau ymarferol yn amrywiol ac wedi'u gwasgaru'n deg drwy gydol y flwyddyn academaidd, a byddant yn ategu’r deunydd a ddysgir yn y darlithoedd.”
Jodie Ackland Jodie Ackland BSc Bioleg
“Astudiaeth o fywyd yw bioleg. I mi, dyna'r astudiaeth bwysicaf oll. O'r Archaea lleiaf oll dan amodau eithafol i fasau trwchus a holl amrywiaeth y goedwig law, mae Bioleg yn cwmpasu'r cyfan mewn manylder anhygoel a chyda brwdfrydedd heintus, yn enwedig felly ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r dysgu yn Aberystwyth wedi galluogi imi archwilio’r agweddau hynny ar fioleg sy'n fy nghyfareddu, a datblygu sgiliau a fydd yn fy nghynorthwyo i lwyddo yn y dyfodol yn yr yrfa yr hoffwn ei chael. ”
Matthew Collins Matthew Collins BSc Bioleg

Cyflogadwyedd

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau ymarferol fel bod ein graddedigion yn dod yn ymarferwyr o'r dechrau ac rydym yn sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau i gyfleu eu gwyddoniaeth yn effeithiol yn y gweithle.  

Mae’r cyfleoedd gyrfaol yn eang, yn amrywio o swyddi gwyddonol a thechnegol arbenigol i'r rhai lle mae ystod ehangach o wybodaeth wyddonol yn fanteisiol, megis athrawon neu newyddiadurwyr gwyddonol.    





Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau'n cynnwys labordy Microsgopeg a Bioddelweddu Uwch, Labordy Dadansoddi Symudiadau ar gyfer Iechyd a Pherfformiad, Labordy Ffisioleg ar gyfer Iechyd a Pherfformiad, Labordy Perfformiad ac Iechyd Dynol, ac Uned Ymchwil Lles ac Asesu Iechyd (WARU). Rydym hefyd yn cynnig portffolio o wasanaethau cymorth i athletwyr sy'n cyfuno arbenigedd gwyddonol â chyfleusterau blaengar er mwyn sicrhau’r perfformiad athletaidd gorau posibl.  

Gall myfyrwyr fanteisio ar labordai ymchwil a dysgu sy’n llawn cyfarpar modern, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwybwn uchel a llwyfannau proteomeg, metabolomeg, ffenomeg a sbectrosgopeg. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  

Ymchwil

Mae’r Biowyddorau yn Aberystwyth yn rhan o'r Adran Gwyddorau Bywyd, adran o safon ryngwladol. Y mae ei hymchwil yn cyfrannu at ddatrys materion byd-eang fel atal afiechydon angheuol, diogelu cyflenwadau bwyd a thyfu cnydau mewn pridd sy’n dueddol o ddioddef sychder. Rydym hefyd yn datblygu mathau o danwyddau sy’n gynaliadwy ac yn gyfeillgar tuag at yr amgylchedd, ac astudio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein hecosystem. Mae ein hymchwilwyr yn ddarlithwyr hefyd, ac mae hynny’n sicrhau eich bod yn cael eich dysgu gan rai o’r arbenigwyr pennaf yn eu meysydd.

Grŵp Ymchwil Microbioleg

Rydym ni’n astudio galluoedd ecolegol, ffisiolegol a metabolig amrywiaeth eang o ficro-organebau, yn benodol ffyngau a bacteria. Ein nod yw deall eu rolau pwysig o fewn swyddogaeth ecosystem, darganfod sut i fanteisio arnynt yn well mewn biodechnoleg, a chyfaddasu eu heffaith, llesol a niweidiol, ar bobl, anifeiliaid dof, planhigion a’r amgylchedd naturiol.

Grŵp Ymchwil Biosystemau Moleciwlaidd

Rydym ni’n defnyddio ymagweddau moleciwlaidd at astudio systemau byw fel cynulliadau o brosesau cemegol. Mae’r grŵp hwn yn dod â gwyddonwyr Gwyddorau Bywyd at ei gilydd sy’n cymhwyso’r ymagweddau diweddaraf i fynd i’r afael â nifer o heriau byd-eang, yn cynnwys datblygu gwrthficrobau newydd a chyfansoddion meddyginiaethol eraill, a chynyddu effeithlonrwydd amaethyddol ar gyfer cynhyrchu bwyd a biodanwydd. Mae’r strategaethau a ddefnyddir yn cynnwys dulliau traddodiadol ac arloesol o wahanu a nodweddu biofoleciwlau, yn ogystal ag ymagweddau genomig, proteomig a metabolomig.

Grŵp Ymchwil Parasitoleg ac Epidemioleg

Mae’r grŵp hwn yn cynnal ymchwiliadau sy’n ymdrin â pherthnasoedd cydesblygiol rhwng parasitiaid a’u horganebau lletyol, ac ymchwiliadau’n seiliedig ar systemau. Rydym ni’n ymdrin â rhai o broblemau iechyd mwya’r byd a achosir gan bathogenau biofeddygol a milfeddygol. Mae ein diddordebau ymchwil yn rhychwantu amrywiaeth o ddisgyblaethau ac yn cynnwys parasitoleg foleciwlaidd a biocemegol, epidemioleg tirwedd clefydau a gludir gan fectorau, a goblygiadau esblygol ac imiwnolegol rhyngweithio rhwng organebau lletyol a pharasitiaid. Rydym ni’n ystyried amrywiaeth o glefydau heintus a achosir gan feirysau, bacteria, protosoa, microsporidia a helminthau.

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.