Gwyddorau Anifeiliaid a Gwyddor Ddyfrol
Os yw iechyd, lles a chadwraeth anifeiliaid a’r egwyddorion gwyddonol sy’n sail i hynny yn flaenoriaeth i chi, yna bydd yr ystod eang o gyrsiau a gynigiwn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich rhoi ar y trywydd iawn i gael gyrfa yn y meysydd pwysig hyn lle ceir galw mawr am weithwyr.
Gallwch ddysgu sut a pham mae anifeiliaid yn ymddwyn fel y maent, er mwyn gwella lles anifeiliaid, a gallwch ddatblygu sgiliau gwyddonol gwerthfawr sy'n ymwneud ag anifeiliaid dof ac anifeiliaid gwyllt. Gallwch astudio maeth, bridio, ffrwythlondeb, iechyd, ymddygiad, ffisioleg ac anatomeg ystod eang o anifeiliaid dof, gan gynnwys anifeiliaid fferm, ceffylau, anifeiliaid anwes a anifeiliaid ddyfrol.
Manteisiwn i'r eithaf ar ein hamgylchedd er mwyn i chi gael datblygu eich sgiliau gwaith maes pan fyddwch yn astudio gyda ni. Byddwch yn gwneud hyn i gyd yng ngefn gwlad gwyllt a hardd y gorllewin, sy'n gartref i ddolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd yr Iwerydd, y bele, dyfrgwn, gweilch y pysgod a barcudiaid coch.
Pam astudio Gwyddorau Anifeiliaid a Gwyddor Ddyfrol?
- Rydym ni’n cynnig cyfuniad cyffrous o theori academaidd a sgiliau maes ymarferol, a chewch gyfle i ymgymryd â gwaith maes dramor yn ogystal ag yn y DU.
- Mae ein staff dysgu yn teimlo’n angerddol dros eu pwnc ac yn cynnal ymchwil ym mhob maes o wyddor anifeiliaid a gwyddor ddyfrol.
- Rydym yn cynnig ystod eang o fodiwlau, sy'n eich galluogi i arbenigo neu i gadw cwmpas astudio ehangach.
- Bydd amrywiaeth o anifeiliaid dof bach a mawr ar gael i chi at ddibenion ymchwil ymddygiad anifeiliaid drwy ein ffermydd, ein canolfan geffylau a’n canolfan addysg filfeddygol.
- Cewch gyfleoedd i weld rhywogaethau anifeiliaid cyffredin a phrin sy’n chael yn Aberystwyth a'r cyffiniau.
- Gallwch grwydro drwy rai o’r cynefinoedd prydferth yn ardal Aberystwyth, gan gynnwys cynefinoedd morol, gweundiroedd, mynyddoedd, glaswelltir a choedwigoedd, fydd yn cynnig amrywiaeth aruthrol o gyfleoedd ar gyfer gwaith maes a hamddena.