Cyfeillgarwch
Mae'n bwysig bod y berthynas sydd gennym ni â'n ffrindiau yn berthynas fuddiol, gan mai at ein ffrindiau y byddwn yn troi er mwyn trafod ein problemau. Gall ffrindiau angharedig effeithio'n fawr ar les ac iechyd meddwl, felly mae'n bwysig iawn sicrhau bod gennych chi berthynas iach â'ch ffrindiau. Bydd y dolenni cyswllt isod yn eich cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut i sefydlu a chynnal cyfeillgarwch iach
Student Minds ar-lein
Dysgu am gyfeillgarwch - o safbwynt myfyriwr https://www.studentminds.org.uk/supportforafriend.html
Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid
Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/
Ymwybyddiaeth Gwylwyr Cymorth i Fenywod Cymru ar-lein
Mae rheoli problemau sy'n gysylltiedig ag urddas a pharch yn gyfrifoldeb ar bawb ohonom ni, a gall Cymorth i Fenywod gynnig gwybodaeth ynglŷn â cham-drin domestig sy'n digwydd i ddynion a merched a'r ffordd orau o ymdopi https://www.welshwomensaid.org.uk/events/dont-be-a-bystander-awareness-event/
Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr
Mae ein hymarferwyr cymwysedig wedi datblygu cyflwyniad a fydd yn eich helpu i ddysgu am gyfeillgarwch yn y brifysgol. Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i wynebu unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â chyfeillgarwch a'u heffaith ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.