Adnoddau Lles

Adnoddau'r Prifysgol

Ochry yn ochr yr opsiynau mynediad prif y Gwasanaeth Lles, mae’r Prifysgol yn darparu mynediad ychwanegol ar-lein.

 

Gwasanaeth Cymorth UM Aber

Mae’r gwasanaeth cymorth UM Aber yn offro cymorth â materion iechyd a lles yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut i greu cysylltiadau drwy weithgaredd ystyrlon â phobl o'r un anian.

https://www.umaber.co.uk/cyngor/iechydallesiant/

Adrodd a Chymorth

Gall cynllunio ein trefn ddyddiol fod yn hynod o ddefnyddiol am sawl rheswm. Gall ein cynorthwyo i gyflawni’r hyn y mae arnom eisiau ei wneud a’r hyn y mae’n rhaid inni ei wneud! Yn aml, pan fydd pethau’n newid, gall fod yn anodd dychwelyd at ein trefn ddyddiol. Er enghraifft, yn achos dysgu cyfunol pan fo angen strwythurau dysgu o bell, neu os bydd rhywbeth brys yn codi ac yn effeithio ar ein trefn ddyddiol.

Mae’r dolenni isod yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei ystyried wrth ddechrau cynllunio eich dyddiau, a’r gwahanol fathau o weithgareddau sy’n ein cefnogi ni fel pobl, megis gweithgareddau sy’n dod ag ymdeimlad o Gyflawni, Cyswllt ag eraill ac/neu Fwynhad.

Gall llawer o weithgareddau gynnig y 3 pheth hyn ynghyd, tra bydd eraill yn cynnig dim ond un ohonynt. Rydym hefyd wedi cynnwys cynllunydd er mwyn eich cynorthwyo â’ch cynlluniau.  

Os ydych yn teimlo yr hoffech siarad ag aelod o’n tîm ynghylch eich trefn ddyddiol, cysylltwch â’n gwasanaeth.  

Cyflawni, Cysylltu, Mwynhau (Saesneg unig): Achieve, Connect, Enjoy (PDF)

Dyddiadur Gweithgareddau (Saesneg unig): Activity Diary (PDF)

Adnoddau Eraill

Isod mae casgliad o adnoddau eraill ar-lein sy’n efallai defnyddiol.