Ynglyn a'r Ysgoloriaeth
Meini prawf cymhwyster
Cyn gwneud cais am gyllid, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni holl feini prawf cymhwysedd Cronfa Ysgoloriaeth Peter Hancock fel y nodir yn y disgrifiad o’r ysgoloriaeth.
Ni ellir ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cyllid. Dim ond myfyrwyr sydd wedi dechrau astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn dderbyniol ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol, fel y nodir yn y disgrifiad ysgoloriaeth, fydd yn gallu cael eu hystyried am gyllid.
Y Drefn Ymgeisio
Gyda'ch ffurflen gais, bydd gofyn i chi gyflwyno dogfennau pellach gan gynnwys tystlythyr gan eich tiwtor personol. Ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu hystyried a byddant yn cael eu heithrio o'r broses ddethol.
Canllawiau ar gyfer gwneud cais am ysgoloriaethau
- Rhaid i'ch cais ysgoloriaeth fod yn gyflawn er mwyn iddi fod yn ddilys. Ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi os yw eich cais wedi dod i law, os yw'n gyflawn, nac yn cysylltu â chi am ddogfennau coll. Mae ceisiadau anghyflawn yn annilys ac ni chânt eu prosesu.
- Bydd y gweithdrefnau yn eich hysbysu o'r dogfennau ychwanegol sydd eu hangen.
- Bydd yr holl geisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cais yn cael eu trin yn gyfartal. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.
- Nodwch fod ysgoloriaethau yn cael eu cyfrifo i fod yn ddigonol ar gyfer yr ymgeisydd yn unig, ni fwriedir i’r arian gefnogi aelodau o'r teulu.
- Fel arfer, dim ond yr ymgeisydd llwyddiannus neu’r ymgeisydd llwyddiannus wrth gefn sy’n cael eu hysbysu.
Dyddiad cau’r ysgoloriaeth yw hanner dydd 25/03/2024 a byddwn yn cadw at hyn.
Bydd ceisiadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig yn cael eu heithrio o'r broses ddethol.
Meini prawf dethol yr Ysgoloriaeth
Bydd ysgoloriaethau yn cael eu dyfarnu ar sail teilyngdod academaidd ac angen ariannol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn fyfyrwyr sydd â photensial academaidd rhagorol a byddant wedi cyflawni canlyniadau ardderchog yn y cymwysterau sydd ganddyn nhw’n barod.
Hysbysu am ganlyniadau’r ysgoloriaeth
Caiff ceisiadau ysgoloriaeth eu beirniadu gan y Panel Dewis. Yn gyffredinol, mae’r broses ddethol yn cymryd 6 wythnos o'r dyddiad cau. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu drwy e-bost gan dderbyn cynnig gwobr swyddogol drwy'r post i’r cyfeiriad gohebiaeth Prifysgol a ddarperir yn y cais ysgoloriaeth.
Rheoliadau’r ysgoloriaeth
Nid yw’r cyllid ar gael yn ôl-weithredol. Bydd unrhyw arian a roddir yn berthnasol o ddechrau'r sesiwn academaidd yn dilyn dyddiad cau’r ysgoloriaeth.
Mae unrhyw arian a roddir yn daladwy ar yr amod fod deiliad yr ysgoloriaeth wedi cofrestru’n llawn. Gwneir y taliadau mewn rhandaliadau ac maent yn ddibynnol ar gynnydd academaidd boddhaol gan ddeiliad yr ysgoloriaeth.
Terfynu ysgoloriaethau
Gellir terfynu ysgoloriaethau ar unrhyw adeg os derbynir adroddiad cynnydd anfoddhaol gan yr adran academaidd, os yw deiliad yr ysgoloriaeth yn rhoi'r gorau i fod yn fyfyriwr cofrestredig llawn-amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, neu os canfyddir fod y deiliad wedi torri rheoliadau’r ysgoloriaeth.