Hwb Cyngor a Chymorth
Gall myfyrwyr gael mynediad i'n gwasanaethau yn y ffordd sydd fwyaf addas iddyn nhw, boed hynny wyneb yn wyneb, ar y campws (yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr), ar-lein neu dros y ffôn.
I drefnu apwyntiad â chynghorydd myfyrwyr, ewch i'n porth ar-lein. https://support.aber.ac.uk a defnyddiwch y tab Archebu i ddewis slot ar gyfer eich apwyntiad.
Dewiswch:
Caledi – I gyflwyno ffurflen galedi neu os nad oes gennych arian i dalu am gostau byw sylfaenol.
Cyllid Myfyrwyr - os cewch chi i unrhyw drafferthion gydag arian, e.e. :
- os gwrthodwyd arian i chi neu
- os ydych yn poeni am gyllid.
Fel arall:
- e-bostiwch: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk â'ch ymholiad i ddechrau. Fel arfer, rydym yn ateb ymholiadau electronig o fewn tri diwrnod gwaith.
- Neu ffoniwch 01970 621761 a gofynnwch inni eich ffonio yn ôl. Byddwn yn rhoi slot amser i chi a dylech fod ar gael yn ystod y slot hwnnw.
Os yw eich ymholiad yn gofyn am ymateb neu drafodaeth fanylach nad oes modd ei chynnal drwy'r drefn frysbennu neu dros e-bost, mae'n bosib y byddwn yn cynnig apwyntiad ichi.