Graddedigion
Rydych chi dal yn gallu defnyddio ein gwasanaethau ar ôl i chi raddio o Aber. Rydym dal yma i gynnig cymorth gyrfaoedd, gwybodaeth ac arweiniad, a gynlluniwyd i helpu ein graddedigion diweddar i symud ymlaen yn hyderus i gyflogaeth i raddedigion, hyd at 3 blynedd ar ôl i'w hastudiaethau ddod i ben.
Fel un o raddedigion Aber, mae'r gwasanaethau a oedd ar gael i chi pan oeddech yn fyfyriwr yn parhau, ar-lein neu ar campws, felly mae'n hawdd cael gafael ar gymorth ble bynnag yr ydych a phryd bynnag y byddwch ei angen.
Ewch i'n porth gyrfaoeddABER heddiw i archwilio cyfleoedd i raddedigion, adolygu eich CV, trefnu apwyntiad gyrfa, cofrestru ar gyfer gweithdai gyrfaoedd a digwyddiadau cyflogwyr, defnyddio ein hadnoddau cyflogadwyedd a gynhyrchir gan AI a llawer mwy.
Gallwch fewngofnodi i gyrfaoeddABER drwy dudalen mewngofnodi Myfyrwyr nes bod eich e-bost myfyriwr yn dod i ben (fel arfer ar ddiwedd yr wythnos raddio). Ar ôl graddio, gallwch fewngofnodi trwy'r dudalen mewngofnodi i Raddedigion, gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost personol. Er mwyn sicrhau mynediad di-dor, rydym yn argymell eich bod yn diweddaru eich cofnod myfyriwr gyda'ch cyfeiriad e-bost personol cyn eich dyddiad graddio.
Wrth gwrs, gallwch barhau i gysylltu â ni am gymorth i raddedigion a gydag unrhyw ymholiad sy'n gysylltiedig â gyrfa drwy e-bost, gyrfaoedd@aber.ac.uk, neu dros y ffôn, 01970 622378. Neu, os ydych yn yr ardal, galwch heibio i'n gweld ar gampws Penglais yn ein gofod pwrpasol yn Llyfrgell Hugh Owen.
P'un a oes angen i chi gael mynediad i'n gwasanaethau ai peidio, cadwch mewn cysylltiad, neu dilynwch ni a rhannwch eich diweddariadau gyda ni ar LinkedIn – rydym wrth ein bodd yn clywed sut mae ein cyn-fyfyrwyr yn bwrw ymlaen.