Beth sy’n digwydd i fy sylw?

Caiff eich sylwadau eu darllen gan dîm Rho Wybod Nawr, ac yna byddwn yn pasio eich sylwadau ymlaen at y Pennaeth Adran perthnasol neu’r Rheolwr sy’n gyfrifol am y gwasanaethau. Gan ddibynnu ar natur y sylw, mae’n bosibl y byddwn yn ei basio ymlaen at aelodau o staff sydd ar lefel uwch ar dîm rheoli’r Brifysgol. Bydd y sawl sy’n derbyn y sylw yn ystyried eich cais, ac os yw’n briodol gwneir penderfyniadau ar ba gamau i’w cymryd ac yna byddant yn llunio ymateb. Yna byddwn yn anfon yr ymateb atoch os ydych yn rhoi eich manylion cyswllt.

Ar lefel adrannol, cyfadrannol a sefydliadol, byddwn yn dadansoddi’r sylwadau a bydd y sylwadau hyn ynghyd â data arall yn rhoi gwybod i’r brifysgol sut yr ydym yn perfformio mewn meysydd penodol. Mae’r sylwadau hyn hefyd yn bwydo i mewn i strategaeth y Brifysgol.