Siarter y Myfyrwyr

Y mae Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (UMAber) wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r siarter hon, sy'n nodi'n glir yr hyn y gall y Brifysgol, UMAber, a'r myfyrwyr ei ddisgwyl oddi wrth ei gilydd.

Gyda'n gilydd, yr ydym yn ymrwymedig i greu a pherthyn i gymuned ddysgu fyrlymus, diogel a chadarnhaol, lle gall yr holl fyfyrwyr gyflawni eu potensial i'r eithaf, a lle y caiff pawb ei drin mewn dull proffesiynol gyda pharch, urddas a chwrteisi mewn amgylchedd cynhwysol.

Felly, mae’n allweddol bod staff a myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth.

Addysgu a Dysgu

Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo ei bod yn canolbwyntio ar ei myfyrwyr ond y mae ganddi hefyd bwyslais cryf a dwys ar ymchwil.

Trwy gyfunioni addysgu ac ymchwil rydym yn darparu rhaglenni astudio safonol wedi'u tywys gan ymchwil, sy'n defnyddio ymchwil ddisgyblaethol y darlithwyr i gyflwyno myfyrwyr i'r canfyddiadau diweddaraf yn eu dewis feysydd.

Bydd y Brifysgol yn:

  • Buddsoddi mewn cyfleusterau ac adnoddau o'r radd flaenaf er mwyn cynnal amgylchedd dysgu gweithredol.
  • Darparu addysgu rhagorol a arweinir gan ymchwil staff.
  • Rhoi adborth adeiladol, priodol a phrydlon.
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn cael arweiniad academaidd priodol.
  • Rhoi i fyfyrwyr sgiliau perthnasol, trosglwyddadwy, ac uchel eu gwerth i gynorthwyo’u datblygiad personol a gwella’u rhagolygon am swydd.
  • Darparu cyfleoedd i astudio neu weithio dramor yn rhan o'r raglen astudio, heb ychwanegu at hyd y cwrs gradd.

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu personol a bod yn bresennol ymhob sesiwn ddysgu.
  • Mynd i bob arholiad a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan fanteisio i’r eithaf ar bob adborth, cyfarwyddyd a chyngor.
  • Edrych ar yr amserlen yn rheolaidd er mwyn gweld a yw manylion darlithoedd, seminarau ac arholiadau wedi newid.

Bywyd a chefnogaeth y Brifysgol

Rydym eisiau i'n myfyrwyr fwynhau eu cyfnod yn y Brifysgol. Mae ansawdd bywyd felly yn ein tyb ni cyn bwysiced â chynnig addysg ardderchog.

Darperir nifer o wasanaethau cymorth er mwyn gweithio i ddatrys y rhan fwyaf o heriau bywyd myfyriwr.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i les ac iechyd ei myfyrwyr, ac mae Polisi Iechyd a Lles yn ogystal â pholisïau eraill perthnasol ar waith.  Mae'r rhain yn cynnwys cymorth ar gyfer iechyd meddwl a chefnogi dulliau sy'n gwneud y Brifysgol yn lle mwy diogel o safbwynt atal hunanladdiad.

Bydd y Brifysgol yn:

  • Sicrhau bod cyfleoedd ar gael yn gyfartal i bawb, ni waeth pwy ydynt.
  • Diogelu myfyrwyr rhag niwed a chamdriniaeth.
  • Meithrin amgylchedd lle y bydd pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch gan ddarparu trefn ar gyfer adrodd am ymddygiad annerbyniol.
  • Darparu gwasanaethau cymorth bugeiliol a phroffesiynol sy’n hygyrch, ymatebol a chynhwysol er mwyn i fyfyrwyr allu datblygu’r sgiliau i ddatrys y rhan fwyaf o heriau sy’n eu hwynebu fel myfyrwyr ac wedyn.
  • Gweithredu ein strategaeth iechyd meddwl a lles a seilir ar yr egwyddorion a ymgorfforir yn fframweithiau ‘#Step Change’ a ‘Suicide-safer Universities’ yn 2019–20 ac yn ‘Mentally Healthy Universities 2020’.
  • Gweithio gydag UMAber i gwrdd â nodau a pholisiau Amgylchedd a Chynaliadwyedd y sefydliad.

Bydd UMAber yn:

  • Cefnogi ystod eang o chwaraeoncymdeithasau a gweithgaredd gwirfoddoli.
  • Rhoi cymorth, gwybodaeth, cynrychiolaeth, a chyngor diduedd i fyfyrwyr.
  • Cydweithio â myfyrwyr, y Brifysgol, cyn-fyfyrwyr, a’r gymuned leol ac ehangach i wella bywyd myfyrwyr yn Aberystwyth.

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Ddeall a chadw at reolau, rheoliadau a pholisïau’r Brifysgol.
  • Rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw beth sy’n effeithio ar les a llwyddiant.
  • Parchu eiddo, offer, adnoddau, a gofodau addysgu/astudio’r Brifysgol.
  • Gwneud y mwyaf o’u hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynrychiolaeth Effeithiol

Mae'r Brifysgol ac UMAber yn ymrwymedig i sicrhau bod llais myfyrwyr yn atseinio drwy’r brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth drwyddi draw.

Bydd y Brifysgol yn:

  • Cynnwys cynrychiolwyr a etholir gan fyfyrwyr yn bartneriaid cyflawn yn nhrefn y Brifysgol o wneud penderfyniadau.
  • Ymateb yn rhagweithiol i lais y myfyrwyr.

Bydd UMAber yn:

  • Cynrychioli myfyrwyr ledled y Brifysgol a thu hwnt.

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Gadw cyswllt â chynrychiolwyr y myfyrwyr gan rannu’r ymrwymiad i wella’r profiad academaidd a bywyd y Brifysgol.

Y Gymraeg ac astudiaethau cyfrwng Cymraeg

Mae gan Aberystwyth hanes balch a chadarn o ddysgu nifer o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ac ymgymryd ag ymchwil cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn parhau i wella a chyfoethogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i'n staff, ein myfyrwyr ac ymwelwyr.

Trwy gydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - sefydliad cenedlaethol sy'n chwarae rhan allweddol yn cynllunio, cynnal, a datblygu addysg ac ysgolheictod trwy gyfrwng y Gymraeg - dyfarnwyd i'r Brifysgol nifer o ddarlithyddiaethau, ysgoloriaethau, prosiectau a modiwlau. Mae gan y Brifysgol hefyd Gangen fywiog o'r Coleg.

Mae'r Brifysgol yn ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yn cydymffurfio â'r Safonau Iaith perthnasol.

Bydd y Brifysgol yn:

  • Darparu cyfleoedd i astudio, ymchwilio, a chael cymorth myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cynyddu'r portffolio cyfrwng Cymraeg trwy fuddsoddi mewnol a thrwy fanteisio ar gynlluniau cenedlaethol i ddatblygu'r ddarpariaeth.
  • Cynnig Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrwng i bob myfyriwr ddangos rhuglder yn y Gymraeg.

Eglurder a Thryloywder

Mae'r Brifysgol yn cyflawni ei rhwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr ac yn cydymffurio â'i hymrwymiadau dan gyfraith defnyddwyr yn unol â'r hyn a amlinellir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Wrth wneud hynny, bydd y Brifysgol yn diogelu lles y myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau megis newidiadau sylweddol i'r modd y mae cwrs yn cael ei ddarparu, neu ddirwyn cwrs i ben.  Mae gan y Brifysgol weithdrefnau er mwyn ymateb i'r amgylchiadau hyn a fydd yn lleddfu'r effaith bosibl ar fyfyrwyr ac sy'n cydnabod gwahanol anghenion ei chorff amrywiol o fyfyrwyr.

Bydd y Brifysgol yn:

  • Rhoi gwybodaeth eglur a chywir i fyfyrwyr ynglŷn â phob agwedd ar brofiad Prifysgol Aberystwyth.
  • Cyhoeddi gwybodaeth ariannol gyflawn a thryloyw ynglŷn â chostau astudio.

Bydd UMAber yn:

  • Gweithredu’n ddemocrataidd a thryloyw, yn unol â’i chyfansoddiad ac arfer gorau.
  • Ddarllen ac ymgyfarwyddo â’r wybodaeth a roddir i fyfyrwyr, gan gynnwys e-bost y Brifysgol ac AberDysgu.

Disgwylir i fyfyrwyr:

  • Ddarllen ac ymgyfarwyddo â’r wybodaeth a roddir i fyfyrwyr, gan gynnwys e-bost y Brifysgol ac AberDysgu.

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrwyiaeth yn ein holl arfetion a gweithgareddau.  Ein nod yw gweithio, astudio a darparu diwylliant cynhwysol, heb unrhyw wahaniaethu, gan roi bri ar werthoedd parch, urddas a chwrteisi.  Mae gan bob unigolyn yr hawl i gael ei drin yn unol â'r gwerthoedd hyn.

Bydd y Brifysgol yn:

  • Cyflawni ei chyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a nodweddion gwarchodedig.

Gwneud pethau'n iawn

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i sicrhau profiad addysgiadol o safon uchel i'w holl fyfyrwyr, wedi'i ategu gan wasanaethau ac adnoddau priodol yn academaidd, gweinyddol ac i sicrhau lles.

Serch hynny, ar adegau gall myfyrwyr fod yn anfodlon â'r adnoddau addysgu a dysgu, neu'r gwasanaethau, a ddarperir. Mae'r Brifysgol yn credu y dylai myfyrwyr gael hawl i fanteisio ar drefn effeithiol i ymdrin â chŵynion, y dylent deimlo y gallant wneud cwyn, a theimlo'n hyderus y caiff y gŵyn ei hymchwilio’n deg.

Mae gan UMAber hefyd drefn briodol i ymdrin ag unrhyw gŵynion.

Cysylltiadau Allweddol

Cewch ragor o wybodaeth am y cyfleoedd a'r disgwyliadau a nodir yn y Siarter hwn trwy gysylltu â'r canlynol:

Cofrestrfa Academaidd (Israddedig) - ugfstaff@aber.ac.uk

Cofrestrfa Academaidd (Uwchraddedig) - pgsstaff@aber.ac.uk

Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr - student-support@aber.ac.uk

UMAber - undeb@aber.ac.uk

Adolygu'r Siarter hwn

Adolygwyd y Siarter hon ddiwethaf ym mis Tachwedd 2023

Er mwyn sicrhau bod y Siarter yn cael yr effaith fwyaf posibl, mae barn myfyrwyr yn cael ei fonitro'n barhaus trwy'r cynllun Eich Llais ar Waith, a ffurflen Rho Wybod Nawr