Mewn Argyfwng Nawr?

Os oes gennych bryderon uniongyrchol am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch eraill, defnyddiwch y cysylltiadau isod i gael cymorth brys:

Eich meddyg teulu lleol, neu wasanaeth tu allan i oriau meddyg teulu. Ffoniwch eich meddygfa ac fe gewch eich cyfeirio.

  • Rhif Ffôn Meddygfa Padarn: 01970 624545
  • Rhif Ffôn Meddygfa'r Llan: 01970 624855
  • Rhif Ffôn Grŵp Meddygol Ystwyth: 01970 613500

GIG 111 Cymru

Ewch i'ch Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys leol yn Ysbyty Bronglais os ydych chi yn Aberystwyth.

Mae diogelwch safle 24/7 Aberystwyth hefyd yn cynghori, os oes argyfwng, y dylech ffonio 999. Os yw'r gwasanaethau brys yn anfon uned ymateb, dylech hefyd hysbysu diogelwch y safle ar naill ai 01970 622649 neu 07889 596220 i roi gwybod iddynt beth sy'n digwydd.

Pan fyddwch wedi cael cymorth brys a bod y perygl uniongyrchol wedi mynd heibio, cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr fel y gallwn eich helpu i reoli unrhyw effaith y mae'r sefyllfa wedi'i gael ar eich bywyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Adrodd a Chymorth

 

 

Cymorth iechyd meddwl

Adferiad: Mae'r noddfa, sydd wedi'i lleoli yn Aberystwyth, yn darparu cymorth y tu allan i oriau i bobl sy’n dioddef argyfwng iechyd meddwl. Ffôn: 01970 629897. E-bost: ceredigionsanctuary@adferiad.org 

Papyrus: Mae Papyrus yn darparu cyngor atal hunanladdiad cyfrinachol 24/7. Testun: 88247. Ffôn: 0800 068 4141. E-bost: pat@papyrus-uk.org 

Shout: Defnyddiwch Shout, gwasanaeth negeseuon testun cyfrinachol 24/7 am ddim pan fyddwch chi'n ofidus. Anfonwch y gair ‘Shout’ drwy neges destun at 85258

CALL: Ffoniwch CALL, Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru, am gymorth emosiynol cyfrinachol a gwybodaeth am iechyd meddwl, ar agor 24/7. Ffôn: 0800 132 737

 

Samaritans: Cysylltwch â'r Samaritans i gael rhywun i wrando arnoch heb feirniadaeth, ar agor 24/7. Ffôn: 116 123 neu 0300 123 3011 ar gyfer y Llinell Gymraeg. E-bost: jo@samaritans.org

CalmHarm: Efallai y bydd yr Ap CalmHarm yn ddefnyddiol wrth reoli’r awydd i hunan-niweidio.

Cymorth Trais Rhywiol a Cham-drin Domestig

New Pathways: Maent yn darparu cymorth drwy eu Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol 24/7. Ffôn: 01685 379310 neu 074234 37020 am gymorth y tu allan i oriau. E-bost: enquiries@newpathways.org.uk

West Wales Domestic Abuse: Maent yn darparu gwasanaeth cyfrinachol 24/7 am ddim ledled Ceredigion. Ffôn: 01970 625585

Live Fear Free Helpline: Llinell gymorth 24/7 awr am ddim. Testun: 07860 077333. Ffôn: 0808 80 10 800. E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Am adnoddau ychwanegol, ewch i'n tudalen Adnoddau Lles