Cronfa Ymchwil y Brifysgol

Mae Cronfa Ymchwil y Brifysgol (CYB) yn darparu cefnogaeth ddethol ar gyfer gweithgarwch ymchwil achlysurol, ac ystyrir ei fod o bwysigrwydd strategol i broffil ymchwil gyffredinol y Brifysgol. Mae'r Gronfa yn ceisio cefnogi prosiectau sydd naill ai:

  • Wedi eu hannelu’n glir at ddenu grantiau ariannu allanol. Dylai ceisiadau gydnabod y darpar ffynhonellau o ariannu allanol
  • Yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol asiantaethau cyllido allanol mawr, megis UKRI, y Cynghorau Ymchwil unigol neu Innovate UK
  • Neu, yn hanfodol ar gyfer allbynnau a fwriadwyd ar gyfer yr FfRhY nesaf ac a fyddai'n amlwg yn gryfach gyda’r cyfraniad

Mae'r CYB yn awyddus i gefnogi ymchwil na all ddenu cyllid allanol ar y cychwyn, ond gellid disgwyl yn rhesymol i arwain at gefnogaeth allanol. Gofynnir i bob ymgeisydd a ydynt wedi gwneud cais (neu a allant fod wedi gwneud cais) am gyllid allanol. Ni roddir grantiau fel rheol am wasanaethau neu gyfleusterau offer y gellid eu hariannu'n well gan Adrannau neu Gyfadrannau, neu am brosiectau ble gellid cysylltu yn rhesymol ag asiantaethau allanol (er y gellir ystyried cefnogaeth ategol). 

Rhaid i brosiectau fod yn ' annibynnol ' h.y. Ni ddylid eu cynllunio i ategu cyllid allanol arall na dibynnu ar ganlyniadau prosiectau cydamserol eraill. 

NODYN: Mae arian mewnol ar gyferEffaithar gael ar wahân.

Cymhwysedd

Mae cefnogaeth gan Gronfa Ymchwil y Brifysgol wedi'i chyfyngu i staff academaidd sy'n aelodau o adrannau academaidd, nad yw eu swyddi'n cael eu hariannu gan gontractau allanol ac sy'n gymwys i REF trwy PA. Efallai y bydd staff sydd wrthi'n symud i Gontract Addysgu ac Ymchwil sydd â chefnogaeth eu Pennaeth Adran a'u Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran i wneud cais i'r CYB hefyd yn gymwys.

Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan unigolion sy’n teimlo bod pandemig Covid-19 wedi effeithio’n negyddol ar eu hymchwil. Defnyddiwch ‘adran 5: Gwybodaeth arall’ ar y ffurflen gais i roi mwy o fanylion am sut y bydd dyfarniad CYB yn effeithio’n gadarnhaol ar eich portffolio ymchwil’.

Gwobrau

Mae uchafswm o £10,000 ar gael fesul dyfarniad. Mae hwn yn derfyn uchaf ac nid yn darged. Mae'r Panel yn awyddus i weld gwerdd am arian mewn ceidiadau a bod cyfianhad da i geisiadau am adnoddau. Dylid dechrau a chwblhau'r holl brosiectau o fewn y flwyddyn academaidd. Dylai'r dyddiad cychwyn cynharaf fod 4 Tachwedd a dylid ei gwblhau erbyn 31 Gorffennaf fan hwyraf.

Nid oes posibilrwydd trosglwyddo'r cyllid o un flwyddyn ariannol i’r llall. Rhaid cynllunio eich prosiect a sicrhau bod modd ei gwblhau (gan gynnwys prosesu’r holl wariant) erbyn 31 Gorffennaf fan hwyraf. Os nad ydych yn siŵr bod hyn yn bosibl a bod risg o golli amser o’r cychwyn, yna dylech gynllunio prosiect tymor byrrach er mwyn llwyddo i orffen pob dim o fewn y flwyddyn ariannol.

Costau Cymwys

Costau ymchwil uniongyrchol yn unig, ee teithio a chynhaliaeth, nwyddau traul, cymorth ymchwil cyfyngedig, a chostau uniongyrchol y gellir eu cyfiawnhau. 

Ni fydd y gronfa'n cefnogi costau Mynediad Agored, ystadau, costau anuniongyrchol, costau a ddyrannwyd yn uniongyrchol (ee amser staff)Os yw myfyrwyr PhD yn cael eu cyflogi fel Cynorthwywyr Ymchwil ar y prosiect, rhaid iddynt fod yn ymgymryd â PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Os gofynnir am gymorth ymchwil, mae angen cyfiawnhau hyn yn llawn o ran pam mae angen adnoddau staff ychwanegol, yna oherwydd y cyfyngiadau amser ar y cyllid disgwylir mai dim ond tymor byr o ran natur fyddai hwn (e.e. 3 mis). Mae gweithdrefnau recriwtio adnoddau dynol arferol yn berthnasol. GweldGwaith Aberi gyflogi myfyrwyr.

Y dyddiad cau nesaf

4yp Dydd Iau 5 Medi 2024

Sut i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau trwy e-bostio ffurflen wedi'i chwblhau at drbi@aber.ac.uk erbyn y dyddiad cau gyda theitl pwnc yr e-bost 'URF-[eich Adran]-[eich Cyfenw]'. Rhaid i'r ymgeiswyr gael cymeradwyaeth gan Bennaeth(au) Adran(au), a nodir gan lofnod y Pennaeth Adran ar y ffurflen gais. Lawrlwythwch Ffurflen Cais URF Application Form a’i enwi fel 'URF-[eich Adran]-[eich Cyfenw]'.

At ddibenion y gyllideb, cwblhewch Gyllideb Annibynnol ar Worktribe o’r gwymplen ‘Prosiectau’. (Peidiwch â ‘Creu Prosiect’).

O dan y tab Manylion dewiswch yr opsiynau canlynol:

  • Teitl: defnyddiwch y confensiwn enwi canlynol - ‘URF-[eich Adran]-[eich Cyfenw]’
  • Cyllidwr: Prifysgol Aberystwyth / Aberystwyth University
  • Math o Weithgaredd: Ymchwil.
  • Golygyddion: ychwanegwch Elizabeth Rowlands [ear4] a Connor Baker [cob36]

Er nad yw amser Prif Ymchwilydd a Chyd-Ymchwilydd yn gost gymwys, cynhwyswch amser Prif Ymchwilydd a Chyd-Ymchwilydd yn y gyllideb annibynnol Worktribe i gyd-fynd â'r oriau y gofynnir amdanynt ar y ffurflen gais.

Cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Ymchwil os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais a Chyllideb Annibynnol Worktribe ymhell cyn y dyddiad cau.

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau am yr CYB cysylltwch â rdostaff@aber.ac.uk

Adroddiad Terfynol

Bydd yn ofynnol i ddeiliaid gwobrau gyflwyno adroddiad terfynol cyn pen 3 mis ar ôl diwedd y prosiect i'w ystyried gan y Pwyllgor Ymchwil

Ffurflen Adroddiad Terfynol