Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil

Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil - Mae cyllid penodol wedi'i neilltuo i gefnogi gweithgareddau effaith ymchwil ac arloesi ac rydym yn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol ar ffurf Ymchwil ac Arloesi. 

Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil - O dan y Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil gall aelod o staff ymgeisio am gyfnod o absenoldeb hyd at chwe mis i ganolbwyntio ar gynhyrchu effaith yn deillio o’u hymchwil.

Cronfeydd cymorth a reolir gan YBA

Mae’r Brifysgol yn gweinyddu ystod o gronfeydd er mwyn meithrin a chryfhau gwaith ymchwil y Brifysgol ac i gefnogi aelodau o staff sy’n dymuno mynychu cynadleddau ymchwil, ymgymryd ag ymweliadau ymchwil neu waith maes, neu astudio mewn canolfannau ar wahân i Aberystwyth.

Dyfarniadau Syr David Hughes Parry - Nod y dyfarniadau yw annog astudiaethau sy'n cyfrannu at anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Cronfa Gooding - Mae Cronfa Gooding yn gymynrodd i gefnogi aelodau o staff mewn adrannau gwyddoniaeth, ac yn achlysurol myfyrwyr ymchwil, sy’n mynychu cynadleddau academaidd.

Cronfa Cymynrodd R. D. Roberts - Mae Cronfa Cymynrodd R. D. Roberts yn galluogi aelodau o’r staff academaidd uwch i wneud cais am absenoldeb a chymorth ymchwil, am gyfnod o ddim llai na chwe mis, ar gyflog llawn, gyda chostau cyflenwi eu dyletswyddau yn cael eu talu o incwm y gronfa. 

AberCollab - Nod AberCollab yw helpu ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau cydweithrediadau a rhannu gwybodaeth yn effeithiol i gefnogi arloesedd ac effaith.

AberSeed - Mae AberSeed yn rhaglen hyblyg ar gyfer staff academaidd y Brifysgol i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd, adeiladu rhwydwaith effeithiol, cynnal ymchwil i'r farchnad, a datblygu cynllun masnachol.

Cronfa Ymchwil y Brifysgol - Mae Cronfa Ymchwil y Brifysgol (CYB) yn darparu cefnogaeth ddethol ar gyfer gweithgarwch ymchwil achlysurol, ac ystyrir ei fod o bwysigrwydd strategol i broffil ymchwil gyffredinol y Brifysgol.

 

Croeso i chi wneud cais yn Gymraeg neu’n Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Croeso i chi gyfathrebu gyda ni yn Gymraeg neu’n Saesneg.

We welcome applications in Welsh or English and any application submitted will be treated equally.

You are welcome to communicate with us in Welsh or English.