Cyllid a Chymorth

Mae YBA yn darparu cymorth ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd ariannu i alluogi staff a myfyrwyr y brifysgol i ddilyn ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang. Mae rhestr o’r cyrff ariannu rydym yn eu cefnogi i’w gweld isod.

Research Professional

Mae Research Professional yn gronfa ddata ar-lein arbenigol sy'n cynnwys galwadau agored cyfredol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; chwiliadwy a threfnol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal tanysgrifiad i’r gwasanaeth, ac fel y cyfryw, gallwch gysylltu ac Research Professional drwy unrhyw  gyfrifiadur ar campws: www.researchprofessional.com mae hyn yn agor tudalen Prifysgol Aberystwyth yn awtomatig.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif am ddim i ddefnyddio’r gwasanaeth tu hwnt i’r campws.

  • Miloedd o Alwadau Agored ar draws pob disgyblaeth gan dros 8,000 o arianwyr
  • Adroddiadau o gyfleoedd; cywir, manwl ac amserol, yn wladol a rhyngwladol.
  • Opsiynau archwilio hawdd a chyflym
  • Rhybuddion e-bost addasol i’ch anghenion

Hefyd mae gan Research Professional ganllawiau a thiwtorial ar eu gwefan, mae rhain yn cael eu darlledu’n gyson i hybu defnydd a dealltwriaeth. Gallwch ddarganfod amserlen y gwasanaethau yma: www.researchprofessional.com/0/rr/Help/Broadcast-Demonstrations.html    

Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch a’ch Swyddog Datblygu Ymchwil neu anfonwch e-bost at rdostaff@aber.ac.uk