Rhewlifeg
Yr Athro Bryn Hubbard

Researchers in the arctic

Mae ymchwil y Ganolfan Rewlifeg yn canolbwyntio ar astudio ac egluro newidiadau i rewlifau a llenni iâ.

Gan gydweithio’n rhyngwladol a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, ein nod yw gwella dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae màsiau ia’r Ddaear yn ymateb i newidiadau amgylcheddol. Er enghraifft, mae newid hinsawdd yn achosi cynnydd mewn cyfnodau o wyntoedd cynnydd mewn cyfnodau o wyntoedd föhn cynnes o gwmpas ymylon Antarctica, sy’n arwain at gynnydd sylweddol yn nhymheredd arwyneb sgrafelli rhew y cyfandir.

Dangosodd mesuriadau meterolegol a thymheredd eira ar Sgrafell Rew Larsen C gyfnodau pan gododd tymheredd yr arwyneb o werthoedd nodweddiadol o -25 °C i mor uchel â +15 °C hyd yn oed yn ystod gaeaf tywyll yr Antarctig.

Mae’r digwyddiadau föhn hyn yn para am sawl diwrnod, gyda’r dŵr tawdd maen nhw’n ei gynhyrchu’n ailrewi o fewn yr eira sy’n agos at yr arwyneb. Mae hyn yn creu haenau anathraidd o iâ sy’n arwain at ffurfio pyllau ac afonydd ar yr arwyneb sy’n dylanwadu ar sefydlogrwydd holl sgrafelli rhew Antarctica.

Yn bwysig, mae ein hymchwil wedi datgelu bod toddi yn sgil föhn yn digwydd yr un mor gryf yn ystod gaeaf tywyll Antarctica ag y mae yn haf golau Antarctica.

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Bryn Hubbard

Adran Academaidd

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Blaenorol