Pam dewis Seicoleg?
Astudiaeth o’r meddwl ac ymddygiad yw Seicoleg.
Yn Aberystwyth credwn ei bod yn wyddor ymarferol iawn ac y gellir ei chymhwyso mewn nifer o ffyrdd i’r byd go iawn.
Yn ystod eich amser yma byddwch yn meithrin y sgiliau angenrheidiol i allu meddwl fel Seicolegydd.
Yn Aberystwyth gallwch ddysgu:
- Sut mae’r ymennydd yn gweithio
- Sut mae Niwroleg yn dylanwadu ar ymddygiad pobl
- Seicoleg Gymdeithasol a sut y gall cymdeithas ddylanwadu arnom ni a sut y gallwn ni ddylanwadu ar gymdeithas
- Sut yr ydym yn datblygu ar hyd ein hoes o’r cyfnod cyn ein geni i fod yn oedolion hŷn
- Seicoleg Wybyddol a phrosesau gwybyddol i helpu i ddysgu sut yr ydym yn meddwl
- Seicoleg ymddygiad troseddol
- Sut mae ein hemosiynau’n dylanwadu ar ein seicoleg
- Gwahaniaethau unigol a’r hyn sy’n ein gwneud yn debyg ac yn wahanol i’r bobl o’n cwmpas
- Sut i gynllunio a chynnal ymchwiliadau mewn gwyddor Ymddygiadol
- Sut i ddefnyddio’r sgiliau yr ydych yn eu dysgu i hybu eich rhagolygon am waith
Yn ogystal â’r radd y byddwch yn gweithio tuag ati, mae cyfleoedd eraill ar gael i ychwanegu at eich CV a’ch helpu i ennill y blaen ar y gweddill, sef 'Mantais Seicoleg Aberystwyth', ac mae’n cynnwys cyrsiau a digwyddiadau a drefnir gan y brifysgol a’r adran ynghyd â modiwlau a gynlluniwyd yn arbennig i wella eich gwybodaeth a’ch cyflogadwyedd ar ôl graddio.
Pam Aberystwyth? Mae Aberystwyth yn dref glan y môr hardd a phrysur ar arfordir gorllewinol y Canolbarth. Mae gan Aber ymdeimlad o gymuned ac mae’i phoblogaeth sylweddol o fyfyrwyr yn creu amgylchedd prysur a chosmopolitan yn yr ardal eithriadol o hardd hon.