Cwrdd â rheolwr prosiect
Tua diwedd 2017, penodwyd Jim O’Rourke yn rheolwr prosiect adnewyddu’r Hen Goleg.
Ac yntau’n gyn-fyfyriwr o Aber a chyn-Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, sefydlodd Jim ymgynghoriaeth rheoli prosiectau yn 2004.
Mae wedi gweithio ar nifer o ddatblygiadau amlwg yng Nghymru, gan gynnwys rôl yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm ac ailddatblygiad £6m Nant Gwrtheyrn, ac mae wedi darparu cefnogaeth ymgynghorol i amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth, elusennau ac awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau, timau staff a chraffter busnes.
Mae Jim wedi chwarae rhan allweddol yn codi arian ar gyfer apêl yr Hen Goleg, gan ysgrifennu at lu o gyn-fyfyrwyr ynghylch y cynlluniau ar gyfer yr Hen Goleg, a gofyn am gefnogaeth i’w adnewyddu.
Dyma Jim yn rhannu ei safbwyntiau am yr Hen Goleg:
Un o fy hoff weithgareddau yw cerdded ar y prom a rhoi ‘cic i’r bar’.
Trwy gydol y flwyddyn, ar wahanol adegau o’r dydd ac weithiau’r nos, rwy’n gweld y gwahanol garfannau sy’n pasio ei gilydd ar y prom: y rhedwyr ymroddedig a’r cerddwyr hamddenol, y myfyrwyr presennol hwyliog a’r cyn-fyfyrwyr sydd yn hel atgofion, y syrffwyr a’r teuluoedd yn heidio am y traethau, y cerddwyr cŵn, a’r twristiaid a’r ymwelwyr amrywiol o bedwar ban byd.
Mae’r rhain i gyd yn mynd heibio’r Hen Goleg.
Mae rhai yn ymddiddori a cheisio canfod beth yw pwrpas a hanes yr adeilad trawiadol hwn. Mae eraill yn pasio fel mynd heibio hen ffrind, ond heb amser am sgwrs, gan godi llaw neu roi amnaid fach o’r pen wrth basio.
Mae pawb yn Aber yn ’nabod yr Hen Goleg. Yn ogystal â bod yn gartref ysbrydol a hanesyddol i’r Brifysgol, ac iddo lawn cymaint o urddas ag unrhyw brifysgol arall yn y byd, mae gan yr Hen Goleg hefyd botensial aruthrol i fod yn ddefnyddiol.
Serch hynny, does dim llawer o’r bobl sy’n cerdded heibio’r Hen Goleg yn mentro i mewn.
Bydd y cynlluniau ar gyfer yr Hen Goleg yn mynd i’r afael â hyn, gan greu mynediad rhwydd i’r gofodau godidog; hwyluso symudiad pobl a nwyddau o amgylch yr adeilad; a darparu gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau a fydd yn denu cynulleidfaoedd amrywiol, o fyfyrwyr, i’r gymuned leol, i dwristiaid ac ymwelwyr.
Ac yn y pen draw, bydd y cynlluniau’n creu atyniad apelgar a hyfyw, yn ogystal ag adnodd allweddol ar gyfer y Brifysgol a chyfleuster ymchwil a dysgu yng nghanol y dref sy’n estyn allan at y gymuned leol a’r byd.
Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, rwy’n mwynhau'r cyffro sy’n codi ymhlith y gymuned academaidd a’r gymuned leol, a thrafodaethau’r tîm o arbenigwyr sydd yn gweithio ar y prosiect - y penseiri a’r peirianwyr, arbenigwyr ar adeiladau hanesyddol ac arbenigwyr cynllunio busnes a gweithgareddau treftadaeth.
O fewn y tîm hwn o arbenigwyr ceir pwyslais clir ar y cyfleoedd i ddod â’r Brifysgol yn nes at y gymuned leol, ac ar yr un pryd i sefydlu’r Hen Goleg yn symbol a delwedd hanesyddol adnabyddus ac yn gartref i addysg uwch sydd o bwys byd-eang i’r dyfodol.
Ond dim ond yn sgil haelioni cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr y Brifysgol, yn ogystal ag ymddiriedolaethau a sefydliadau, y gellir rhoi’r cynlluniau hyn ar waith. Gallwch fod yn rhan o’r Apêl trwy gyfrannu yma.