Ein Rhoddwyr
Gallwch chi fod yn rhan o’r Apêl hanesyddol hon a chael effaith barhaol ar genedlaethau i ddod.
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd yr Hen Goleg, unwaith eto, yn lle y bydd llu o bobl yn elwa ohono, mewn amgylchedd unigryw o fawreddog.
Gwrandewch ar rai o’n rhoddwyr sy’n ymfalchïo o fod yn rhan o’r ymgyrch eiconig hon i godi arian.
-
Fe wnaeth fy ngŵr a fi gyfarfod a phriodi yn y Brifysgol. Mae gen i lawer o atgofion hapus am ddarlithoedd drama yn yr Hen Goleg. Mae’r ddau ohonom yn gobeithio y bydd yr adeilad ardderchog hwn yn rhan bwysig o’r Brifysgol i genedlaethau’r dyfodol.
Linda a David Rose (BA Drama a BA Economeg, 1988) -
Yr Hen Goleg seliodd fy mhrofiad i o Aber. Byddwn yn mynd yno bob dydd i weithio yn y Llyfrgell ac amsugno’r awyrgylch. Rwy’n dwli ar yr adeilad a’i nodweddion a’i fannau cudd, ac wrth fy modd i wybod y bydd yn cael bywyd newydd.
Gabriel Schenk (BA Llenyddiaeth Saesneg, 2008) -
Yn 66 oed (45 o flynyddoedd ers graddio) teimlais ei bod yn hen bryd i mi ad-dalu rhan o leiaf o’r ddyled sydd gen i i Aber. Mae’r Hen Goleg yn adeilad eiconig mewn safle gwirioneddol eiconig. Mae’n haeddu dyfodol disglair iawn.
Paul Stephenson (BScEc Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth, 1975) -
Fe ges i brofiad hyfryd yn fyfyriwr israddedig yn Aberystwyth – mae cefnogi adeilad hanesyddol yr Hen Goleg yn ffordd o ddweud “diolch” am dair blynedd orau ‘mywyd!
James Scotney (BA Llenyddiaeth Saesneg, 2012) -
Rydw i'n cyn-fyfyriwr yn yr adran addysg - wrth fy modd yn yr hen goleg! Mae addysg Cymraeg yng Nghymru yn holl bwysig.
Ceri Blunden (PGCE, 2006) -
Mae'n adeilad eiconig i'n cenedl.
Nigel Stapley (cyn-fyfyriwr, 1985) -
Effallai i mi gymryd yr Hen Goleg ynganiataol pan astudiais i yn Aber. Effallai nawr mod i'n teimlo angen cryfach i ddangos fy ngwerthfawrogiad. Fe hoffwn ifod ynrhan o'r etifeddiaeth a chyfranuat rywbeth fydd yma ar fy ôl i!
Stephen Neale (BSc Bioleg Amgylcheddol, 1991) -
Mae'r Hen Goleg yn rhan bwysig o dirlun Aberystwyth. Mae'n adeilad arbennig ac mae gofodau yn haeddu bod yn ol mewn defnydd fel adnoddau addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol unwaith eto.
Dr Catrin Huws (Uwch-Ddarlithydd yn y Gyfraith) -
Roedd fy nghyrsiau i gyd yn adeilad hardd Yr Hen Goleg. Atgofion hyfryd.
Victoria Richards (BA Cymraeg, 1980) -
Cofio mynd i lyfrgell y Clasuron yn y saithdegau!
Rhoddwr dienw -
Wedi astudio'r Gymraeg yno, hen adeilad godidog mewn man canolog sy'n haeddu cael ei achub a'i ddefnyddio i'w lawn potensial!
Haf Elgar (BA Cymraeg A Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 2000) -
Rydw i wedi rhoi i’r Apêl yn arwydd o ddiolch am y cwbl a wnaeth Prifysgol Aber i mi dros 6 mlynedd yn fyfyriwr BSc ac PhD, a chyda’r Hen Goleg yn galon eiconig i’r brifysgol yn y dref.
David Evans (BSc Botaneg, 1978) -
Cyfarfu fy ngwraig, Jane (née Evans) a minnau yn Aber. Chwaraeodd y brifysgol ran fawr i’n gwneud ni’r hyn rydyn ni heddiw. Pan welsom yr Apêl roedden ni’n dymuno cynorthwyo i ddod â bywyd yn ôl i’r adeilad eiconig hwn.
Jon a Jane Brighton (BSc Sŵoleg, 1983; BSc Bioleg, 1984) -
Yr Hen Goleg yw calon fyw y Brifysgol rwy’n ei charu, y Brifysgol a’m rhoddodd i ar ben ffordd i lwyddiant a boddhad.
Keith Pritchard (BSc Botaneg, 1967) -
Fel cyn fyfyriwr o Aber, mae’r Hen Goleg yn agos at fy nghalon a hoffwn gweld y cynlluniau newydd cyffrous yma yn cael y gefnogaeth angenrheidiol er budd y myfyrwyr presennol ac er budd Aberystwyth ac i Geredigion yn ehangach.
Ellen ap Gwynn (BSc Addysg, 1969) -
Rydw i’n trysori’r atgofion annwyl sydd gen i o’r cyfnod y treuliais yn astudio yn y Brifysgol. Mae’n bleser gen i roi cyfraniad bach i ddangos fy ngwerthfawrogiad.
Chi Leung (BSc Cyfrifiadureg, 1991) -
Rwy'n cefnogi'r Apêl oherwydd gwaddol unigryw yr adeilad a'r Brifysgol i Gymru ac yn y gobaith y bydd yr Hen Goleg yn gwneud cyfraniad mawr at ddysg a'n diwylliant i'r dyfodol.
Rhodri Morgan (BA Hanes, 1992) -
Mae hi mor bwysig i galon Aberystwyth a’i threftadaeth addysgiadol Gymreig y bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r lle hwn eto.
Rachel Phillips (BSc Cadwraeth Cefn Gwlad, 2003) -
Mae’r Hen Goleg yn golygu llawer i mi. Mae’n lle hardd i ddysgu ynddo ac fe hoffwn i fyfyrwyr eraill y dyfodol gael yr un profiad ag a gefais i.
Louisa Backway (BA Drama, 2003) -
Hoff iawn o'r hen adeiladu. Atgofion da.
Maralyn Davies (BA Ffrangeg & Sbaeneg, 1972) -
Ron i’n fyfyriwr TAR yn 1981/2 ac yn dwli ar yr adeilad: y grisiau troellog ac yn fwyaf arbennig y llyfrgell. Wrth geisio disgrifio’r lle rwy’n dweud “Meddyliwch am Hogwarts”!
Sheila Hurley (TAR Addysg, 1982) -
Fe ges i’r fraint o gerdded ei goridorau ac astudio yno pan oeddwn yn Aber, ac fe hoffwn i eraill gael rhannu hynny.
Leigh Manley (BA Saesneg a Hanes, 1998) -
Roedd fy nghyfnod yn Aberystwyth yn hapus iawn. Ron i’n arbennig o hoff o’r hen adeiladau hynod fel yr Hen Goleg. Byddwn wrth fy modd i’r rhain gael eu cadw a’u gwella er mwyn bod yn rhan o brofiad Aber i israddedigion y dyfodol gael eu mwynhau!
Alexander Hull (BA Hanes Ewropeaidd, 2012) -
Mae’r Hen Goleg yn lle eiconig. Byddai gwneud gwelliannau iddo er mwyn darparu mwy o adnoddau astudio i fyfyrwyr yn ddefnydd rhagorol o’r hen adeilad hwn.
Richard Orton (BSc Economeg a Daearyddiaeth, 1969) -
Cawsom sawl blwyddyn hapus yn fyfyrwyr yn Aber. Pleser gennym gefnogi’r achos wn.
Sarah ac Adrian Shaw (BA Ffrangeg ac Almaeneg, 1979; BA Daearyddiaeth, 1976 ) -
Treuliais rai o flynyddoedd hapusaf fy mywyd yn Aber, a nifer o oriau hapus yn adeilad yr Hen Goleg, yn y darlithfeydd, y llyfrgell, yn actio ar lwyfan y neuadd arholiadau neu’n loetran yn y Cwad.
Peter Walton (BA Athroniaeth, 1964) -
Mae Prifysgol Aberystwyth yn lle gwych i fyw ac i ddysgu. Mae’r Hen Goleg yn adeilad hardd a gobeithio y bydd ei harddwch a’i serenedd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr am flynyddoedd i ddod.
Matthew Vernon (LLB Y Gyfraith, 2013) -
Doedd fy narlithoedd ddim yn yr hen goleg ond roeddwn i yn dwli arno yn fy nghyfnod yn Aberystwyth o 1980 – 1983. Hoffwn i fyfyrwyr y dyfodol ac ymwelwyr ei fwynhau hefyd.
Abdul K Almutawa (BScEc Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 1983)