Apêl yr Hen Goleg

Mae angen eich cymorth chi ar yr Hen Goleg.

Mae'r adeilad mawreddog hwn ar lan y môr yn Aberystwyth, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1, ymhlith trysorau pensaernïol Prydain. Dyma hefyd gartref cyntaf y Brifysgol. 

Wrth i'r Brifysgol dyfu dros y blynyddoedd a symud i gampws mwy, ein nod yw cadw’r Hen Goleg yn ei holl ysblander, yn ogystal â rhoi diben newydd iddo, i wasanaethu ein myfyrwyr, ein staff a'n cymunedau lleol. 

Diolch i gefnogaeth hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, ymddiriedolaethau elusennol a rhoddwyr unigol, rydym bellach yn agos at wireddu’r nod hwnnw.  

Gyda’ch cymorth chi, bydd yr Hen Goleg yn ail-agor ei drysau yn 2026 ac unwaith eto yn dod yn fan o gyfoeth diwylliannol, yn lle i bobl ifanc ddysgu a ffynnu ynddo, yn lleoliad lle gall cymunedau ddod at ei gilydd ac yn ysbardun i dwf economaidd. Lle a fydd yn cynnig croeso i bawb.  

Ar gyfer pobl ifanc - bydd yr Hen Goleg yn cynnig lle diogel, helaeth a chynhwysol i gynnal gweithgareddau a arweinir gan bobl ifanc a chyfleoedd hyfforddi trwy gynadleddau, lletygarwch, arddangosfeydd a digwyddiadau.  

Ar gyfer myfyrwyr – bydd yr Hen Goleg yn cynnig mannau astudio pwrpasol yng nghanol y dref, Ffug Lys, amrywiaeth eang o sesiynau i feithrin gwybodaeth a sgiliau, a chyfleoedd i wirfoddoli. 

Ar gyfer cymunedau - bydd yr Hen Goleg yn cynnig amrywiaeth o arddangosfeydd a digwyddiadau cysylltiedig ar themâu amrywiol, a fydd yn tynnu sylw at gasgliadau hanesyddol y Brifysgol yn ogystal ag arddangosfeydd teithiol, Canolfan Wyddoniaeth gyda sinema, caffi a bwyty, llety 4-seren, ystafelloedd cymunedol ac ystafelloedd digwyddiadau, i gyd o dan yr un to. 

Ar gyfer mentrwyr busnes - bydd yr Hen Goleg yn meithrin busnesau newydd, gan estyn cefnogaeth ac arbenigedd y Brifysgol i'n myfyrwyr ac i’r gymuned ehangach drwy'r Ganolfan Fenter, adnodd o'r radd flaenaf a ddatblygwyd ar y cyd â'r Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru. 

Ar gyfer trafodaethau - bydd yr Hen Goleg yn cynnig llwyfan ar gyfer trafodaethau adeiladol i hybu mwy o gydweithio a datrys problemau. 

Gofynnwn i chi gefnogi Apêl yr Hen Goleg mewn unrhyw ffordd y gallwch chyfrannu heddiw.

I gael rhagor o wybodaeth am y parthau a’r adnoddau yn yr Hen Goleg, edrychwch ar gynlluniau'r Hen Goleg.