To newydd i’r Cwad yn yr Hen Goleg
Yr olygfa bresenol o nenfwd y Cwad oddi uwch, gyda’r drysau pren a fyddai’n gallu cael eu hagor ar ddiwrnodau poeth, i’w gweld.
16 Rhagfyr 2024
Mae’r Cwad, calon Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, ar fin cael to gwydr newydd wrth i’r gwaith ailddatblygu ar yr adeilad rhestredig gradd 1 brysuro.
Cafodd y Cwad ei ddisgrifio fel “lle i weld a chael eich gweld”, ac roedd ei gyfraniad yr un mor bwysig i addysg myfyrwyr Aberystwyth ag unrhyw ddarlithfa neu labordy yn ôl yr hanesydd Dr E L Ellis yn ei gyfrol i nodi canmlwyddiant y Brifysgol yn 1972.
Wedi'i wneud o bren a gwydr lliw, mae'r nenfwd cromennog yn cynnwys arfbeisiau siroedd Cymru a chafodd ei osod yn ei le ym 1889-1890 dros yr hyn a oedd yn fan agored a elwid ar y pryd yn “Goridor y Coleg”.
Y Cwad yn ei ddyddiau cynnar
Cyllidwyd y gwaith gan W T Jones, gwr business llwyddiannus o Melbourne, Awstralia, a gynigiodd £500 tuag ato yn ystod ymweliad ag Aberystwyth, tref ei blentyndod.
Diogelwyd y nenfwd rhag y tywydd gan do gwydr, ond oherwydd i’r gwydr hwnnw dorri dros y blynyddoedd, ychwanegwyd haenen polycarbonad yn y pen draw i atal y glaw rhag mynd i mewn.
Yr hen do polycarbonad fydd yn cael ei dynnu allan cyn gosod y to gwydr newydd
Bydd y to gwydr newydd yn eistedd uwchben yr hyn sy'n weddill o'r to gwreiddiol a'r nenfwd, ar ôl i'r darnau polycarbonad gael eu tynnu oddi yno.
Bydd ei safle uwch i fynny hefyd yn ei gwneud hi’n bosibl i adeiladu cysylltiadau newydd, ar ffurf dwy ‘bont’, rhwng ochr Stryd y Brenin yr adeilad ag ochr y promenâd. Bydd y rhain yn cynnig golygfeydd dramatig o'r nenfwd cromennog oddi uchod.
Delwedd artist o’r to gwydr newydd a’r olygfa lawr dros y Cwad
Bydd y to newydd, sy’n 25 metr o hyd a phum metr ar draws, yn cynnwys cyfres o baneli gwydr dwbl wedi'u gosod mewn ffrâm alwminiwm wedi ei hanodeiddio, ac yn cael ei godi i'w lle dros yr Hen Goleg gan graen.
Mae strwythur sgaffaldiau cantilifer cywrain yn cael ei roi yn ei le i hwyluso’r gwaith ac amddiffyn y to a’r nenfwd gwreiddiol yn ystod y gwaith i osod y to newydd. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn y flwyddyn newydd a chymryd hyd at 12 wythnos i’w gwblhau.
Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd y gwaith o adnewyddu'r nenfwd a'r Cwad ei hun yn dechrau.
Dywedodd rheolwr Prosiect yr Hen Goleg, Jim O’Rourke: “Mae parchu treftadaeth yr Hen Goleg wedi bod yn flaenoriaeth o ddechrau’r prosiect uchelgeisiol hwn. Mae nenfwd y Cwad a’r to gwydr uwch ei ben yn nodwedd hynod drawiadol, a fyddai yn ei ddyddiau cynnar wedi gadael i olau’r haul lifo i mewn i galon yr adeilad, ac yn cynnwys cyfres o ddrysau pren a fyddai’n gweithio ar system pwli gywrain er mwyn awyru’r adeilad ar ddiwrnodau poeth. Bydd y to gwydr newydd yn ein galluogi i gael gwared ar rai newidiadau sydd wedi atal golau’r haul rhag dod i mewn, gan ddarparu golau naturiol yn y gofod Cwad, fel y bwriadwyd pan gafodd ei osod gyntaf.”
Mae hanes y Cwad a chyfraniad W T Jones wedi’i ddogfennu gan gyn-lyfrgellydd Prifysgol Aberystwyth, Elgan Davies yn ei ddarn: W.T. Jones a datblygu Cwad yr Hen Goleg.
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.